Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

MR THOMAS OWEN, RHUDDGAER.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

MR THOMAS OWEN, RHUDDGAER. Yr ieuengaf o clri mab y diweddar Mr Humphrey Owen, Rhuddgaer, plwyf Llan- geiinven, Mon, ydyw Mr Thomas Owen, yr hwn a driga 'yn ei hen dreftadaeth a'r mangre y ganwyd ef yn 1829. Y brodyr ereill ydynt Mr John Owen, U.H., Tycoch, Caernarfon, a Mr W. H. Owen, U.H., Plas Penrhyn, Mon. Yr oedd eu tad o deulu parohus Llanfaglan, Caernarfon, a'r fam yn haIlu o hen deulu enwog Bodrida, Mon. Fel y rhan fwyaf o feibion fferuiwyr parchus ar y pryd, cafodd Mr Thomas Owen ran o'i addysg foreuol yn Ysgol Ramadegol Beau- maris. Treuliodd gyfnod o'i fywyd yn nglyn a masnach llongau, fel ei dad a'i frodyr. Nid ydyw yn foneddwr a wthiodd ei hun yn aalacn yn nglyn ag amgylcliiadau cyhoeddus, ond y mae ei safte fel un o ffermwyr mwyaf y cylch wedi eu gosod yn angenrhaid arno ami i dro ddyfod i'r ffrynt. Bu am flynydd- oedd yn aelod o Fwrdd Ysgol Llangeinwen, ac am dymhor yn gadeirydd arno. Pan heliwyd ati i sefydlu Cynghor Dospartth Gwledig Dwyran, Mon, yn naturiol edrych- wyd ar Mr Thomas Owen fel un a ddylai fod yn aelod o'r cynghor hwnw, a chafodd ei ethol arno, ac o ganlyniad y mae yn aelod o Fwrdd Gwarcheidwaid Undebi Caernarfon. flefycli, efe a etholwyd yn gadeirydd y cynghor gwledig ac yn ychwanegol at hyn, etholwyd ef, heb wtfthwynebiad, y mis hwn, yn aelod o Gynghor Sirol Mon, dros blwyfi Llangeinwen, Llangaffo, a Llanfair-y- cwmwdi. Oymer lawer o ddyddordeb gydag achos y Methodistiaid Calfinaidd, ac y mae yn un o flaenoriaid eu capel eang yn Dwyran. Nis gellir dyweyd ei fod: yn wr y clywir ei lef yn yr heolydd ixac yn mhen y ffair, eithr y mae bob amser yn hoffi gweithio yn dawel a dirodres, heb hoffder nac awydd i'w weith- redoedd ddyfod i'r a-mlwg. Yn y cylchoedd newydd y mae wedi yingymeryd a hwynt arddengys ei hun yn ddyn o fusnes a llawn deall. Ar hyn o bryd ymegnia gydag ereill i wahanu pum' plwyf deheu-ddwyrain Mon o'r hyn a ystyriant yn hualau a gwastraff Unde b Caernarfon. Os llwyddir i wneyd hyn, diau mai i ddynion o stamp Mr T. Owen y byddys yn ddyledus am livii-dynioii na throanb yn ol oddigertli yn ngwyneb gwrth-resymeg a thebygrwydd am foddion n Z!l 1!1 amgenach- Gofidid ami i dro na fuasai yn vmdaflu yn llwyrach i faterion cyhoeddus y cylch a'r sir, ac hyderir yn awr wedi iddo gael ei roddi yn y tresi y bydd yn un o'r gweithwvr mwyaf egnioJ a defnyddiol yn y parthau hyn.

MR OWEN JONES, ERWFAIR, FFES-TINIOG.