Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

MARWOR TANLLYD

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

MARWOR TANLLYD Yr oedd yn perthyn i lwyth y Neggdeh farch cyflym, yr hwn yr oedd ei glod wedi ymledu yn mhcll ac yn agos, ac yr oedd Be- douin o lwyth arall, o'r enw Daher, wedi rhoddi ei fryd ar ei berchenogi. Yr oedd wedi cynnyg ei holl gamelod, ae, yn wir, ei holl gyfoeth am dano, ond yn ofer, ac o'r diwedd wedi ta.ro ar gynllun gyda'r hwn y gobeithiai lwyddo i enill gwrtli- ddrych ei ddymuniad. Lliwiodd ei wyneb a sudd llysieuyn neill- duol, a gwisgodd am dano garpiau gwael, ac anffunfiai ei hunan yn y fath fodd ag i ym- ddangos fel cardotyn gwael. Wedi gwisgo am dano felly, aeth i ddisgwyl am Naber, per- chenog yr anifail, yr hwn y gwyddai oedd i ddyfod heibio y ffordd hono. Pan welai Naber yn dynesu ar ei farch ar- dderchog, dechreuodd ruddfan a llais egwan. "Estron tiawd ydwyf fi; yr wyf wedi bod am dri diwrnod yn analluog i symud o'r fan yma i chwilio am damaid o fwyd. Yr wyf yn marw; 0 cynnorthwywch fi, a'r Nefoedd a dalo i chwi I" C'ynnygiodd yr Arabiad ei gymeryd ar ei farch, a'i gymeryd adref gydag ef, ond atebodd y dihyryn ef: "Alla i ddim symud, mae fy nerth wedi myn'd yn llwyr." Yna, Naber, yn dosturiol, a ddisgynodd oddiar ei farch, a chan arwain ei anifail i'r llecyn, gyda llawer o anhawsder, eyfododd y cardotyn i fyny ar gefn ei farch. Ond nid f-AJit nag yr oedd Daher yn teimlo ei hun yn y cyfrwy, nag y spardytiodd y march, ac i ffwrdd ag ef ar garlam:, ac yna, troi ei Avyneb yn ol, a gwaeddi: "Daher ydwyf fi; 'rydw i wedi cael y march, ac yn ei gymeryd i ff wrdd Galwodd Naber arno i aros, a gwrando. Yntau, heb ofni cael ei oddiweddyd, a aros- odd ychydig bellder oddiwrth Naber, gan yr hwn yr oedd gwaewffon. "Yr ydyoh wedi cymeryd fy march," meddai Naber. "Gan fod y nefoedd yn ewyllysio i hyny fod rydw i'n dymuno i &hwi bob llwyddiant i'w ganlyn ond yr wyf yn eich tynghedu i beidio dyweyd wrth undyn byw pa fodd y cawsoch ef." A phaham hyny ?" meddai Daher. < Qherwydd," meddai yr Arab doeth, "gall- ai dyn arall fod yn glaf mewn gwinonedd, a. dynion yn ofni ei gynnorthwyo. Gallech chwj, felly, fod yn rhwystr i lawcr wneyd gweithred o drugaredd, rhag ofn cael eu twyllo fel y cefais i." Wedi ei daraw a chywilydd wrth glywed y geiriau hyn, yr oedd Daher yn fud am ych- ydig amser, yna, gan neidio oddiar gefn y march, dychwelodd ef i'w berchenog. Gwnaeth Naber iddo fyned gydag ef i'w ba- bell, lie y treuliasant ychydig ddyddiau gyda'u gilydd, ac y daethant yn gyfeillion mynwosol am y gweddill o'u hoes.

"DA IAWN, HOMOOEA."

CARNARVON AND DENBIGH HERALD.

''--.""".-FICER NEWYDD LLANGODDA