Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

MARWOR TANLLYD

"DA IAWN, HOMOOEA."

CARNARVON AND DENBIGH HERALD.

''--.""".-FICER NEWYDD LLANGODDA

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

i o hyd yn disgwyl mel nodyn oddiwrtho ryw ddiwrnod i ddyweyd sut yr oeddyndod yn y blaen, ond yn ofer v disgwyliais. "Ac yn awr y mae y rhan fwyaf ddydd- orol o'm hystori yn dyfod. Yr oeddwn, yn ddiweddar, ac yn enwedig pan briodais, wedi blino yn fawr ar yr ymweliadau dyddiol a'r carchardy. Tr oedd fy ngwraig yn anhapus iawn, hefyd. Felly, yr oeddwn yn yspio am le arall er's tipyn; ond nid oes angen dy- weyd wrtliych na ddarfu i mi erioed freu- ddwydio am gael fy apwyntio yn Ficer Llan- godda. Buaswn wedi disgwyl cael fy ngwneyd yn Archesgob Oaergaint mor fuan a hyny. Eto, pan glywais fod y lie yn wag, yr oedd rhywbeth o'm mewn yn fy nghymhell i ym- gynnyg am y Ile, ac felly, apeliais. Yr oedd, 9 fel y gwyddoch, nifer fawr iawn wedi apelio, ac yn eu plith yr oedd rhai ac yr wyf wedi dysgu eu parchu fel prif oleuadau yr Eg- lwys; ac nid oedd neb yn iwy syn na mi pan y deallais fy mod yn un o wyth o'r ymgeis- wyr y gwneid dewisiad terfynol o'u plith. "Mae'n debyg fod pwyllgcr wedi ei ffurfio, ar ol hyn, i fyned i wrando yr wyth hyn yn pregethu yn eu heglwysi ga.rtref, heb yn wyb- od iddynt, a bu rhai ohonynt yn fy ngwrandn i pan fu'm yn pregethu yn Llanddafydd, ych- ydig amser yn ol. Yna, dewiswyd dau allan o'r wyth, ac yr oeddwn innau yn un or ddau ac yr oeddym i ymddangos o flaen yr ym- ddiriedolwyr oddeutu deng niwrnod yn ol. Ar ol tipyn o ymholiadau ac atebion, pleid- leisiodd yr ymddiriedolwyr (yr oeddym ni ein dau mewn ystafell gyfagos), a chafwyd fod pedwar dros yr ymgeisydd arall a phedwar droswyf finnau. Yr oedd maer Llangodda (yr hwn ydoedd cadeirydd yr ymddiriedol- wyr) wedi cael ei alw ymaith yn annisgwyl- iadwy y bore nwnw, ac yn ei absennoldeb, teimlai y boneddivil yr hwn a etholasid i'r gadair yn ei Ie, yn anfoddlawn i roddi ei bleidlais, o dan yr amgylchiadau liyny. Go. hiriwyd y pwyllgor am wythnos yn mhellach, a chawsom ein galw yno eilwaith, yn mhen yr wythnos. Buont yn siarad a'r ymgeisydd arall yn nghyntaf, ac wedi iddo ddyfod allan, aethum innau i fewn.. Yr oedd maer y dref yn y gadair. Yr oeddwn. fel yr oedd yn ddigon naturiol, yn teimlo yn bur ofnus; ond gellwch ddyfalu fy nheimlad, Huw, pan welais mai maer Llan- godda vdoedd 'Rhif 186.' Nid adwaenais ef ar y eyntaf; ond pan ddechreuodd siarad, teimlwn fy mod yn gyfarwydd a;Í lais ac wrth syllu arno cofiais pwy ydoedd, er ei fod wedi cyfnewid llawer. Ni roddodd un arwydd ei fod yn fy adnabod i; ac yr oedd yn medd- iannu ei hun lawer yn well na mi, a gweith- redai fel pe buaswn yn ddyeithr hollol iddo. Mewn gair, ymddygodd yn hollol fel yr yin- ddygais innau ato yntau ir y noson fytligof- iadwy hono. Deallais yn fuan oddiwrth y parch a delid iddo gan yr ymddiriedolwyr ei fod yn cael ei anrhydeddu yil fawr ganddynt. Yn mhen ychydig, anfonwyd fi allan o'r ys- tafell, ac wrth fyned, teimlwn fel pe wedi fy hanner syfrdanu. Eto, rywsut, nid oeddwn yn teimlo yn ofidus. Yna, yn mhen ychydig fynydau, galwyd fi i mewn drachefn; ac hysbyswyd fi fy mod trwy bum' pleidlais yn erbyn pedair wedi cael fy newis i'r ficeraeth. a gofynwyd i mi a fuaswn yn ei chymeryd. Wrth gwrs, cyd- syniais; a diolchais iddynt i gyd. Nid oes angen dyweyd pwy drodd y fantol trwy roddi ei bleicllais i mi yn hytrach nag i'm cydym- geisydd, Clywais, ar ol hyn, fod ei fam wedi marw cyn iddo ddianc o'r carohar, a bu ei chwaer farw yn fuan ar ol hyny." Bu distawrwydd am ychydig ar ol hyn. Yna, eyfodais i fyny eilwaith, i longyfarch fy nghyfaill ar ei apwyntiad, a dywedais "Yr ydych yn eich lie y tro yma eto. Y mae yn well rhoddi iddynt dreial tag wedi iddynt gael eu rhyddhau 0,'1' carchar, na'u gwylio o hyd nes eu bod yn teimlo bywyd yn felldith. Peidiweh ofni y caiff neb wybod eich cyfrin- ach, a bydded i Dduw fendithio ficer newydd Llangodda." A-v'"