Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

BUGAIL Y GARNEDD.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

BUGAIL Y GARNEDD. Mae'r huan deg yn trengu Wrth orsedd gain y nos, Tra'r ydym yn ymgomio, Fy anwyl feinwen dlos Mae'r awel fwyn yn rhoddi Ei gwefus ar y dail, A ninnau yn ei dilyn Mown cusan bob yn ail. 0 danom mae yr afon Yn treiglo tuar mor Mewn brys i gael ymfFurfio A'i fawr ddihysbydd stor; Ond gwell f'ai genyf glywed Ffrwd cariad o dy fron Yn troi ei dyfroedd peraidd I for y galon hon. Oae'm yna roddi ffarwel I'n llwybr ar "nos Lun," A d'weyd na oliaiff y lleuad Byth mwyach dynu llun; Ond gwelir mab y Garnedd Yn nghyda'i anwyl Wen Yn byw yn Ngwastad Annas, Yn mro'r Eryri Wen. Sawl gwaith yr addunedaist, Fy anwyl eneth ddel, Wrth gamfa'i' hen Gymwynas Cyn dyweyd y gair ffarwel, N es gwneyd elfonau natur I drydar yn gytun O'th ol y geiriau hyfryd, "Y chwi a. fydd y dyn." Mor ddifyr y cae'm dreulio Ein bywyd bob yr awr, Ar lethrau gwastad Annas Wrtli droed y Wyddfa fawr Cael gweithio ar y tyddyn, Bob diwrnod, 0 mor glyd, Ac ymgom wedi noswyl At droi a thrin y byd. Mae arian tymhor gauaf Mewn Haw heb un ar goll; Ar wyllt fe wnaf ei gwerthu, Oaf dipyn rhwng yr oil; Paid, paid ag ofni'r ymgyrch, Fy anwyl eneth wiw, Mae genyf eisoes ddigon I ni at ddechreu byw Yn awr, yn ngwyddfod anian, 0 dywed heb nacad, Gaf fyned 'fory i 'mofyn Am dan at i dy dad ? Os tynu'n ol wnei eto, Y ereigiau hyn, a'r dwfr, Furmurent yn dy glustiau Am byth, yr "eneth lwfr." Fel yna wrth y gamfa, Fe gauwyd clawr y drefn, Dyfodol seliwyd cyn ei ddod A chvsan ar ei gefn; Aeth adref dan chwibanu, Heb arno, glais na chlwy', Ond blin yw d'weyd na chlywais ef Bvth yn chwibanu mwy BRYFDIB.

HEN HOGYN O'R WLAD.

BOB WYTHNOS.

ARBENIG.

TELERAU.