Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
2 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
2 erthygl ar y dudalen hon
EIN CYSTADLEUON
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
EIN CYSTADLEUON CYSTADLEUAETH Y POST CARD, -PENNILL PENENWOL. Miss Lloyd, 101, Weston-lane, Birkenhead. YSGEIFJBNU ADDUENIADOL.—Neb yn deilwng LLUN BYTHEUAD.—Thos. Thomas, Troed- yrhiw, Pencarreg, Llanybyther. Pos RHIFYDDOL (Ebrill 6).-Ateb: 5 awr. -Caleb Rees, Esgairordd, Crymmych. DADL.-W. H. Parry-Jones, Utica, New York.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Yr oedd Modryb Megan yn cadw buwch ac yn gwerthu Ilaeth. Bob dydd' rhoddai ychydig o ddwfr yn y llaeth, a rhoddai dair ceiniog y dydd, sef y swm oedd yn cyfateb i fesur y dwfr, mewn bocs bychan o'r neilldu. Yu mhen amser, daeth arian y dwfr yn ddigon i brynu buwch newydd. Wedi ei phrynu, gynvyd hi i'r cae at y Hall. Erbyn boreu dtanoeth yr oedd wedi syrthio dros y dibyn ac wedi boddi yn yr afon oedd yn myned drwy'r cae. Ediychai Megan yn smala iawn ami, a sibrydodd, "Wel, wel, rwyt ti wedi myn'd nol yn fuan; ond gallasii fod yn waeth—o'r dwfr y daethost ac i'r dwfr yr aethost." $$$ Daeth i feddwl arweinydd canu Bwlch- ygwynt i gynnal eyngherdd yn ycapel. Wedi siarad y peth allan a'r blaenoriaid, deallodd &>d| rhagfarn cryf ganddynti yn erbyn cyng- herdd. O'r diwedd eafodd ganiatad ar yr am- lnod ei fod yn un cysegredig, ac fod y pen- blaeiior yn myned yno er gweled fod pethau 7*1 weddaidd ac mewn trefn. Un dadganiad a, barodd i'r blaenor amheu cysegredigrwydd y cyfarfod, sef "Ta-ra-ra-bcom-de-ay." Ond darfu i'r arweinydd! ei hysbysu nad oedd ond cyfieithiad Italaeg o'r "Hallelujah Chorus," yr hyn roddodd foddlonrwydd mawr iddo. Y Sul ar ol hyn, oigwyddodd y gweinidog gael hwyl neillduol ar bregthu, nes peri i rai ohonynt waeddi, ac yn eu plith gwaeddai yr ben flaenor, "Ta-ra-ja-boom-de-ay." Y maei Person Pwllygro wedi cyhoeddi catechism bychan, ac wedi rhoi y gwaifch o'u gwerthu i Simon Surdoes, y clochydd, yr hwn sydd yn dra byddar. Y Sul diweddaf, rhoddodd y person rybudd o'r pwlpud ar i bawb oedd a phhnt i'w bed- yddio ddyfod yno yn brydlon y Sabbath nesaf. Tybiodd Simon mai at y catechism y cyfeiriai y person, a chyda i hwnw crplien, neidiodd ar ei draed. a dywedodd mewn llais uchel, Pawb sydd heb gael un gant faint fyd fyno nhw am ehwe'cheiniog yr un Y mae Lemuel, Tycwta, bob amser yn anfon blaen-dal am "Bapur Pawb." Nid ydyw wedi cael cymaint a diwrnod afiach yn ei fywyd—nac wedi dioddef oddiwrth y ddannodd na chyrn ar ei draed, nid ydyw ei datws byth yn pydru, na'r gwyfyn yn bwyta ei wenith, na'r rhew yn Uadd ffrwythau ei ardd ei fabanod ni lefant yn y nos, ac nid yw ei wraig byth yn ymgecru, a phob amser yn darparu iddo ei fwyd yn ei bryd. Ddarllenydd, os wyt am fwynhau yr un- rhyw fendithion, dos dithau a gwna yr un medd. Pan y byddai yr hen Gymry yn cael dillad newydd, yr arferiad oedd galw y teiliwr i'r ty iw gwneyd, a byddai ambell i hen deiliwr dipyn yn gastiog. Un tro, yr oedd un o'r urdd yn gweithio mewn ffermdy, a sylwai fod y crochan uwd yn berwi uwchben y tan, a dyma y wraig a thro ar yr uwd a dyrnaid o halen iddo. Yn lied fuan, dyma y forwyn llcibio, ac yn gwneyd yr un peth ac yn y man dyma y forwyn facli heibio a thro ar yr uwd, a dyrnaid o halen iddo. Toe, dyma. nhw yn myned i wledda air yr uwd. Yn enw'r brenhin, beth ydach chi wedi wneyd i'r uwd 'ma ?" gofynai y gwr. Atebodd y wraig, "Mi rois i ddyrnaid o halen ynddo." "Mi rois innau un he fyd," meddai y for- wyn ac adroddai yr ail forwyn yr un peth. "Yna," meddai y teiliwr, "wrth weled pawb yn rhoi halen ynddo, neidiais inxiau i lawr, a rhois ddyrnaid ynddo." "Wel. wir," meddai y gwas, "piti na bu- asai dyrnaid neu ddau ychwaneg ynddo gael iddo fod fel gwraig Lot J." Teithiwr (yn ddig) Pa'm na fuasech yn stopio y cerbyd i mi ? Gyriedydd Pa fodd y gallwn wybod eich bod eisieu dod i fyny? Teithiwr: Oni welsoch fi yn ysgwyd fy nwylaw, ac yn neidio i fyny ae i lawr, ac yn chwifio fy umbrella ? Gyriedydd: Wrth gwrs, fedra rhpvun beidio eich gwei'd ? Yr oedd y stryd i gyd yn edryeh arnoch. Teithiwr Wel, pa'm na, fuasech yn stópio ? Gyriedydd: Yr oeddwn yn meddwl mai dawnsio i'r organ yna yr oeddych. Mewn pentref mynvddig, trigianai hen wr a hen wraig o'r enwau Shonyn a Shani. Un noson tarawyd yr hen wraig yn bur wael, nes ofnwyd am ei bywyd. Eisteiid'ai yr hen Shonyn wrth ochr ei gwely, a dywedai wrthi yn ami, "Wel, Sham bach, buaswn yn leicio pe y gallwn farw yn dy Ie." Wedi dyweyd hyn' ainryw weithiau, aeth yr hen Shonyn i lawr at y tan, ac yn ddi- symwth, daeth ceiliogwydd gwyn i lawr trwy y simdda. Medd'yliai Shonyn mai angau ydoedd wedi dod i nol yr hen wraig, ac ebai wrtho, yn ei ddycliryii: "Yn y siamber y mae yr hen wraig." Talodd merch ieuanc o ranbarth yn Lloegr ymweliad a theulu o tfermwyr ii.Itwii ardal fynyddig yn Nghymru, ond nid oedd yn gwybod ond ychydig o barthed i-r da corniog, a dymunai wybod pa fodd yr oeddynt yn gwneyd gyda godro y gwartheg, ac aeth gyda gwr y ty i gael allan y dirgelwch, a dangosodd y gwr iddi mewn modd defosiynol iawn. "Gafaelwch," meddai, "yn nghynffon. y fuwch tra byddaf fi yn tynu y ilaeth, ac ysgydwch ei cliynffon i fyny ac i lawr fel gyda handle y pwmp." Ac felly fu, y dyn yn godro a hithau yn ysgwvd yr liandie. "Daliwch ati," meddai yntau, "onide ddaw yma ddim Ilaeth o gwbl." A dal ati fu nes ydoedd y ferch yn ohwys mawr, ac wedi blino yn enbyd iawn, chafodd allan mai gwaith caled ydoedd godro,