Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

1 erthygl ar y dudalen hon

[No title]

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Wel, Simon," meddai rhywun wrth yr hen lane o Gwmdraenog, "yr ydych yn ed- rych yn noble, "ond yr wyf yn synu sut mae eich gwallt yn wynach na'ch barf ?" "Nid wyt yn ystyried fod y gwallt ugain mlynedd yn hyn na'r farf," oedd yr ateb. Willie (wedi dod o'r ysgol) Mam, yr ydym wedi cael ein hexaminio mewn canu. Y Fain 'Sut y daru i ti basio, Willie ? Willie Dywedodd y meistr mod i yn canu fel 'deryn. Y Fam A ddaru o, wir ? A ddarfu iddo ddyweyd fel pa 'dderyn yr oeddyt ti yn canu ? Willie Do, mam mi ddywedodd mod i yn canu yn union fel bran. Enfyn "Gwreiddiol" y stori hon :—Pan yn fachgen, digwyddais fod yn siop Miss Wil- liams, Stamp Office, Bangor. Ar y pryd, yr oedd Dr Owen Roberts a chyfaill i mewn. Tra yr oeddynt yn ymgomio, aeth Deon Cot- ton heibio y drws, a sylwodd y cyfaill fod y deon yn hoff iawn o fiwsig. Ydyw," meddai y doctor, "pe gwelai y deon gi yn rhedeg ac ysturmant wrth ei gyn- ifon fe a'i ar ei ol. Unwaith yr oedd nifer o fechgyn yn dy- weyd wrth eu gilydd pa beth a fuasent yn ei wneyd penuasai lloxxg wedi ei dryllio arnynt, a hwythau heb na phlanc na. dim i'w helpu i gael eu bywydau. Yr oedd pawb wedi dy- weyd ei feddwl ond un Gwyddel, yr hwn a ddywedodd fel hyn "Yr ydych chwi i gyd am achub eich hun- ain, ond siwr ddigon. huasai Paddy Murphy yn nofio i'}' lan yn gyntaf i achub ei hunan, ac yna daethai yn ei ol i achub un arall." Eisteddai Duns Scotus, duwinydd ac ath. ronydd enwog, o'r nawfed ganrif, unwaith wrth y bwrdd gyferbyn a'r brenhin meddw, Carl Foel. Erlrmvyn gwneyd tipyn o ddig- rifweh o enw Scotus, gofynodd y brenhin yn gellweirus. "Pa faint o bellder sydd rhwng Scotyn a Sotyn ?" Ateb pared y duwinydd, yr hwn a dynodd wen i wyneb y brenhin, oedd "Lied y bwrdd." Yr ydoedd pregethwr, un diwrnod, yn myned ar ei daith, pan y cyfarfyddodd a Sion y Onwc, am yr hwn y dywedid nad oedd yn "llawn un owns ar bymtheg." Bu'r ym- ddyddan canlynol rhyngddynt:— Pregethwr: IMae'n, debyg fod Peggy Ty- pridd wedi marw, Sion ? Sion Ydyw, siwr. P. Pa le mae hi heddyw, Sion, wyt ti yn feddwl ? iS. Yn mynwent Pentreser. P. Eithaf gwir, Sion yno mae ei chorph, Ond pa Ie mae ei henaid, feddyliet ti ? S. Dwn i ddim wir; fuais i ddim yn yr angladd. P. A oes llawer o'r ardal yma yn myned i'r nefoedd yn awr, Sion 1 S. Na; i sir Forganwg y mae yrhan fwvaf yn myned o'r gymydogaeth yma yn awr, Hen lane, wrth ddyweyd ei brofiad y dydd o'r blaen, a ddywedai mai y cwestiwn pan yn dechreu caru oedd, "Pwy gaf fi Ond o dipyri i beth daetli yn flodeuyn yr ardal, a'r cwestiwn pryd hyny oedd, "Pwy gymcraf fi?" Ond yn awr, wedi myned yn hen lane anglxenus, ei gwestiwix yw "Pwy a'm cymer i?" "David! Jones, dewch i fyny i ddyweyd eich gwers," meddai'r ysgolfeistr. "Dywedwch wrthyf beth sydd yn peri i blant dyfu ?" "Y gwlaw, syr," ebai David. "Ond sut na. bae dynion mewn oed yn tyfu 1" "Am eu bod yn carlo umbrellas, syr, i gadw y gwlaw ymaith." Cafodd .Simon iHhosdywarclx saitlv niwrnod o garchar gan ynaden Llandotal am feddw, dcd. Ar Ixwyr y dydd cyntaf o'i garcliariad, clywodd y turnkey Simon yn curo drws ei, gell, a gofynodd Beth sy'n bod 1" Rwy'n barod i fyn'd adref," meddai Simon, "mae'n dechreu tyw^ilu." 0, 'rydych wedi'ch dedfrydu i saith diwr- nod," meddai'r gwarcheidwad. "Ydwyf, rwy'n gwybod," meddai Simon, "ond soniwyd dim am y nosweithiau." Pan oedd Dafydd Deyd y Gwir o flaen ustusiaid Cwmbwtlwm y dydd o'r blaen, gofynwyd iddo Pa beth a gawsoch yn y lie cyntaf y disgyixasoch ?'' "Pedwar glasiad o gwrw," atebai Dafydd yn ddifrifol. "Beth wedi hyny ?" "Dau lasiad o win." "Wel, beth ar ol hyny ?" Glasiad o frandi." "Pa beth wedi hyny?" "Ymladdfa, wrth gwrs." mm Gofynwyd unwaith i restr o blant "Beth yw gwyrtli ?" Ond nid oedd lief na neb yn ateb. Wel," meddai'r athraw "cyixierwch fod yr haul yn codi heno am hanixer nos. Be' galwch chi hyny 1" 0, fe alwn i hwnw yn lleuad," meddai un ohonynt. "Nage," meddai'r athraw, drachefn, "Cy- merwch mai yr haul fydde fe, a bod rhywun yn dyweyd wrthych chwi felly. Beth ddeyd- sech chi wed'yn ?" "Deyd ei fod yn deyd celwydd," oedd yr atebiad. Twt, lol! Deallwch chi fod rhywun yn deyd wrthych fod y peth yn wir. Beth fydde gyda chi i'w ateb ?" "Credu ei fod wedi meddwi," atebid dra- chefn. Yr athraw, yn llidiog, yn gweled nad oedd modd darnodi y cwestiwn i'w hamgyffredion, a ofynodd, "Beth yw gwyrth ?" Meddai un ohonynt: "Cymerwch eich bod chi yn priodi gyda nxerch y person; byddai hyny, meddai mam wrth 11.hOOI yn gystal a gwyrth," Cyfarfu dau gigydd a'u gilydd mewn cer- bydau ar ffordd gul yn agos i Llandderfel, a dywedodd un wrth y Hall, "Dal draw, onide Ar llall wedi myned heibio, ac yn teimlo braidd yn wrol a ofynodd "Onide pabeth ?" "Onide y buaswn i yn gwneyd," mor oered a'r ia. Dywedir i foneddwr gael ei ddwyn o fiacn y Ilys yn America. ar y cyhuddiad o lusgo ei wraig yn erbyn ei hewyllys allan o gyfarfod 11 diwygiadol Lowell. Amdciiffynai yntau ei hun a'r rhcsymau canlynol '— 1. Ni cheisiais erioed ddylaixwadu ar fy ngwraig gyda golwg ar ei daliadau crefyddol. 2. Ni fu fy ngwraig mewn cyfarfod diwyg- iadol yn Lowell. 3. Ni bu'm innau yn un o'r cyfarfodydd hyny. 4. Nid oes unrhywdluedd ynof fi na'm gwraig tuagat y cyfarfodydd hyn. 5. Ni fu gwraig erioed genyf. Aeth Thomas, Pantygwndwn, at wr dy- eithr oedd newydd agor tafarn yn y gymyd- ogaeth, a gofynodd "Ddyn glan, gai beint o gwrw gynoch chi 'I" Cewch, os oes gynoch chi arian," ebe'r tafarnwr. "Fyddai i byth heb arian," ebe Thonxas, ac estynodd y dyn y ddiod iddo. Wrth ei weled heb wneyd osgo i dalu, ebe'r tafarnwr B'le mae'r pres, fldyn ? "Doss gen i ddim pres, end y mae gen i ariall," ebe Thomas, a thyiiodd ei het, a dangosodd iddo y plat arian ar dop ei ben. Synodd y tafarnwr yn fawr, ac ni rwg- liachodd am iddo gael ei "wneyd" am dro. Hi A fydd i chwi fy ngharu bob axxxser ? Ef Yn angerddol, fy anwyiyd. Hi Ni fydd i chwi byth beidio fy ngharu ? Ef Byth, fy nglxariad. Hi A bydd i chwi fod yn gynnil o'ch arian ? Ef Bob dimai. Hi Ac ni fydd i chwi siarad yn gas wrthyf ? Ef O na, byth. Hi: A xhowch i fyny eich holl arferion drwg ? Ef: Bob un ohonynt. Hi Ac fe ewclx gyda fy mam yn liilxob- peth ? Ef: Af. Hi: A chyda fy nhad ? Ef 0, ie. Hi A gwnewch bobpeth fydd fy mam eisieu i chwi wneyd? Ef Gwnaf. Hi A phobpeth fydd gan fy nhad eisieu i chwi wneyd ? Ef Ie. Hi: A phob dim i minnau ? Efe Wrth gwrs, fy ngeneth bach i. Hi Wel, yr wyf yn eiddo i chwi; ond maeamaf ofn fy mod yn gwneyd mistake ofnadwv.