Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

LLYTHYR SIMON TYCLAI.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

LLYTHYR SIMON TYCLAI. Mistar Glygydd,—Yn y lie cynta, mae eisio splanashion, He bod neb yn meddwl mae fi di'r Simon Jones y Siop hwnw sy'n gwerthu pob peth, a phob math o betha, o gara esgid' hyd angor llong. Rhag bod neb o'ch dar- llenwrs chi yn anfon llythyr i mi, a, hwnw'n myn'd i Simon Jones y Siop Fawr, yn lie i Simon, gwr Betsan Tyclai, rhaid iddyn nhw gofio rhoi "Gwr Betsan" arno fo, ac mi fydd yn ddigon siwr o'i siwrnai. Mae'n debyg fod yna lawer o holi am dana i, a be 'di'r aehos mod i heb fod yn y dre 'na es tri mis ne ragor. Wel, mi ddeyda i chi, yn ddistaw bach, does arna i ddim eisio iddo fo fyn'd ddim pellach. Mae Betsan yma yn deyd i mi fod 'na rw glefyd newydd wedi dwad o Lundan i'r dre 11a, a bod y sawl fydd yn 'i gatsho fo'n cael ei alw yn Bolitishan ne rhwbath, ac mai tishan mae nhw o hyd. Mae Betsan ma hefyd yn deyd fod o'n glefyd mwy anodd 'i wella na'r Wliiffra Wesla hwnw, 'herwydd ma, rhw fendio i'w gael ar hwnw rhan amla, ond bod hi'n good bye ar bw bynag gatshith y clefyd newydd yna. Mae Betsan yma. yn clwad 11awar mwy na fi, ac ma hi'n deyd fod llawar iawn wedi catshio'r clefyd; ene amser lecsiwn ysgol y bwrdd, ac mai ar amsar lecsiwn mae o'n fwya, heintus er fod y doctoriaid yn deyd nad ydi o ddim yn yr awyr a.c nad ydi o ddim yn dwad o'r mor chwaith. Mae'n rhaid felly mai o'r tir mae o'n dwad, yn codi fel tarth afiach oddiar bvdewa'r poli- tishans yma; ac wedi iddyn nhw ofer-gymer- yd o rw drwyth sy gynyn nhw, mae o'n tori allan drw'u tafoda nhw, nes bydd arnyn nhw eisie siarad o hyd, ac na fedra nhw byth wran- do ar neb arall yn siarad, ond nhw'u hunan. N ell sa hi bytli mo'r tro i mi gatshio'r clefyd yna, onite, mi fasa ma helynt ofnatsan yn y ty yma. Ac wedi hyny mae o'n tori allan drwy 2U ffroena nhw, nes y bo nhw'n gyboli- dishan o hycl lie bynag yr an nhw, fel na feiddia neb fyn'd yn agos attyn nhw. Mae Betsan ma'n deyd hefyd, tae rliw goel ami hi, nad oes gin i'r un dalant o gwbwl, os nad talant ydi'r gallu hwnw sy gin rai pobol i synu ac i ryfeddu at bobpeth na fydda nhw'n ddallt. "vVel, does dim niwad yn hyny," medd- wch chitha. Ond dydw i'n synu dim llawar, er cimin syndodwr ydw i, at didim ma hi'n ddeyd 'herwydd mi fydd gin Betsan ma, fel y politishans mawr yna, fwy o sel nag o wybodath 'nanial iawn. Ond mi fydd clwad y bobol galla yn y byd yn methu peidio deyd y gwir ar y pwnc, heb neb yn 'i holi nhw, sef ma nid matar o boli- tishan o gwbwl ydi ethol dyn cymws i fod ar y bwrdd ena, ac nad oes gin gybolidishan ddim byd a wnelo a'r peth, a, gwelad y dynion hyny drachefn, pan ddaw y lecsiwn, yn myn'd a chloeh y Llan a'r Set Fawr hefo nhw i bob inan i ganfasio drost 'u dyn 'u hunan, tasa fo ddim ond jwg ne ddyn gwellt. Dene'r peth fydd yn tynu fy nhalant syndodol i allan, nes peri i Betsan ma chwerthin am 'y mhen i, a dteyd nad ydi o'n destyn syndod o gwbwl, mai felly roedd hi rioed, ac mai felly dyla hi fod, ite na fedra nhw byth gael run fot neith, basio yn lecsiwn y balot heb ganfasio felly, a. cliael dyn fedar gybolidishan run ffordd a nhw. Rydw i'n 'methu dallt be sy gin y peth ena i neyd a'r peth; fydd neb yn gofyn faint o dailiwr ydi'r dyn fydd yn chwilio am waith i dori gwair, a fyddwn ni ddim yn dis-gwyl i bob barbwr fod yn siaradus iawn yn yr iaith Roeg; ac y mae: Betsan ma'n deyd ddigon call,° fel fina, ac rydw i'n synu na fasa pawb yn deyd run fatli a, ni'n dau, sef, na fyddwn ni byth yn gwrthod par o sgidia, da, am bris rhesymol 'herwydd fod y erydd fydd wedi neyd o yn digwydd bod yn Fegiterian. A'r peth sy'n gneyd i mi synu ydi chvad am dan- och chi yn y dre yna yn llusgo petha mwy anghyson o lawar i mewn i lecsiwn y bwrdd, lecsiwn y dre, lecsiwn y plwy, a lecsiwn y sir, nes ma pobol wedi myn'd i gybolidishan yn y capal a'r eghvs. Ac eto ma Betsan yma'n deyd ma felly roedd hi 'rioed, ma felly mae hi i fod, ac mai felly bydd hi byth dyna sy'n peri mi synu ac erbyn edrach, y mae o'n un o'r syndodau mwya syndodol y ces i'r fraint o synu ato fo 'rioed, herAvydd tydi o ddim na mwy na llai nag edrych ar bob dyn a phob dim drw speo tol° y Llan, spectol y set fawr, a'r spectol blaid hono sy'n cosi bon y trwyn nes gyru'r wlad i gyd i gybolidishan. Dyna, Doctor Pillbox yn dwad o gwmpas i hela fots, ac eisio fot gin Robin Jos, drws nesa ma, am 'i dynu o allan drw ryw wendid yn 'i saldra es tipyn yn ol: "Heblaw hyny," meddai'r doctor, "mi rydw i a chitha'n di- gwvdd bod o'r un boli dies." "Boli dies meddai Robin Jos, "be sy gin boli dies i neyd a'r peth ? be sy nelo boli dies a'r trybini ? mi fotia i dros y dyn mwya cymws yn ol fy meddwl i, peth siwr di o, dyna be di'r balot da. Ac rydach chi'n medd- wl, Doctor Pillpox, ma chi'ch hunan y tynodd fi allan o fy salwch; ond pe baech chi'll gwbod y cwbwl, nid y chi, ond Doctor Mutton Chop y cododd fi i fyny, ac iddo fo rydw i am roid fy fot y tro yma." Wel, tasa, bawb fel Robin Jos, mi fasa ma lai o gybolidishan yn y wlad yma, a Doctor Mutton Chop ar dop y pol. Ma Betsan yma'n cfadda mod i'n sfenwr go ryw led lew, ond fod fy llythyrau i fel fy hunan yn rhy fyr o beth ofnatsan. Wel, nad elo i byth o'r sgubor yma, tae nhw cyn hired a'i thafod hi ond: waeth tewi. [Wei, nad elo ina byth o'r offis yma, os nad oes ma lawar iawn o sens yn hwn; a phe basa bosib rhoid tipyn mwy o bupur arno fo, mi fasa'n gneyd i lawar iawn o bobol disian. Mi cymera i o i fyny i'r llofft yna, i edrach beth fydd bechgyn y llythrenod yna yn feddwl ohono fo; a rhaid i "bro- phwyd y tywydd" aros dan tro nesa, Y PRENTIS.]

[No title]

--MEDDVOINIAETH GRYFHAOL

-- V"m-le!m Y CERFIWR COED…