Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

1 erthygl ar y dudalen hon

WRTH WRAIDD Y GOEDEN

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

WRTH WRAIDD Y GOEDEN II; R oedd John Jones, y garddwr, wrtbi nerth y erwmp yn chwys ac yn lludd- ed, yn ngardd Plas Meredydd. An- ami iawn y byddai yn gweled Mrs Puw, ei feistres. Buasai yn Mhlas Meredydd yn arddwr er's mis, ac ni welodd ei feistres ond unwaith neu ddwy, ac nid oedd ganddi air caredig i'w ddyweyd wrtho ef na'i blant bach. Daethai Mrs Puw yno er's oddeutu banner blwyddyn na wyddai neb o ba le. Gwraig weddw tua deugain oed ydoedd, o arferion rhyfedd iawn. Yr oedd megis wedi claddu ei hunan yn y lie anghys- bell hwn yn nghanol mynydd y Berwyn, ac ni welodd neb na, char na, chyfaill iddi o gwmpas y lie. Yr oedd rhyw ddirgelwch yn perthyn iddi, a methai'r mynyddwyr gonest ddyfalu beth a allasai y dirgelwch fod. Teimlai John Jones yn bur ohwerw tuagati boreu heddyw, oblegid ddoe daeth ei dri phlentyn bach i'r Plas, ond ni ohymerodd Mrs Puw y sylw Ileiaf ohonynt. 0 ganlyniad, yr oedd y cyfaill John Jones mewn tymher go afrywiog heddyw. •Nid yw yn actio fel Cristion o gwbl," meddai wrtho ei hun, tra'r chwys yn dyfera i law r ei wyneb. Yr oedd yr haul yn boeth anarferol. Nid ysgydwid1 dalen o'r coed gan y clnva, leiaf. Gorphwysodd John Jones am enyd i sychu ei chwys, tra y syrthiodd ei olygon ar bren rhosynau oedd wedi gwywo. ''Heddyw, neu byth," meddai John, "rhaid i mi gael y pren rhosynau yna i ffwrdd, er mwyn planu rhywbeth arall yn ei le." Cydiodd yn y goeden gyda'i ddwy law, a dechreuodd dynu, ond yn ofer. "Wel, dyma hi," meddai, ''mae'r pren melldigedig yma fel ii-ieistres-yn farw yn y gwraidd, ond eto yn gwrthod marw." Dyna'r hen gaib yn chwyrlio yn yr awyr, ac yn disgyn gyda nerth ar fon y pren, a chyn pen y mynyd1, wele'r goeden wedi ei dadwreiddio. "Wel, gafr gwyllt a'm clecio am byth!" llefai John, pan welodd yn ngwaelod y twll rhywbeth fel careg wen, gron. Ymblygodd i lawr, a chododd ef i fyny. Asgwrn pen dynol ydoedd !—pen heb fod yn llawer mwy nag afa-1 go fawr. Nid rhyw wlanen o ddyn ydoedd John Jones, ond teimlodd ei wallt yn sefyll yn syth ar ei ben fel gwrychyn draenog, ac mi deimlodd yr un ffunud a phe buasai rhyw- un yn taflu dwfr oer rhwng ei grys a'i groen. "Brensiach anwyl fawr ] Be' ar wymad y ddaear a wnaf ?" Cloddiodd y pridd i fyny- o'r twll, ac er ei fraw darganfyddodd skeleton, megis eiddo plentyn bychan, Corddwyd ei holl enaid gan ddigofaint mawr. "Yr hen ladi ddrwg," meddai, "nid digon ganddi gashau plant pobl ereill-rhaid iddi gad iladd ei phlant, ei hun. Efallai mai nid hwn yw yr unig un gall yr ardd fod yn llawri. o gyrph babanod. Mi af yn syth bin. at y plismon, cyn sicred a bod fy enw yn John Jones." Ond yn lie myned yn "syth bin," chwedl yntau, efe a safodd enyd i fyfyrio ar yr achos. Os rhoddai hysbysrwydd i'n heddgeidwad, dyna. fo'n colli ei le ar unwaith, ac nid bob dydd i, medrai gael lie in or ddia. Gwlaw a hindda, yr oedd gwaith iddo yn Mhlas Mere- dydd, a'i ddeunaw swllt bob nos Sadwrn fel cloc. Safodd fel delw gerfiedig gan grafu ei ben, a symud y 'baco o'r naill foch i'r llall, tra y rhedai dwy afon goch bob ochr i'w geg. Ebai wrtho ei hunan o'r diwedd "Pe bawn. i yn ei gladdu yn ei ol o'r golwg, hwyrach y daethai rhywun arall o liyd iddo ryw amser; ac fe'm cymerid innau i fyny ar y cyhuddiad o fod wedi helpu fy meistres. Colli fy lie neu beidio, mi af at y plismon." Ac ymaith ag ef dros y mynydd i'r dref, gan garlamu fel dyn cynddeiriog. Yr oedd y defaid a'r ieir a'r cywion ar adar wedi cael braw pan basiai John Jones fuarthau'r am- aethdai fel oTwyn o dan. Yr oedd yr arolygydd (superintendent) yn cysgu yn ei gadair, a'r rhifyn diweddaf o "Ysgubell Cymru" wedi syrthio i lawr yn ei ymyl. "Pwy sydd yna?" meddai, gan chwyrnu fel teigr. "John Jones, Plas Meredydd. Codwch mewn mynyd!" Ond dal i chwyrnu yr oedd yr arolygydd. "Mr Ifans Mr Ifans Codwch, yn syth Agorodd Mr Evans ei lygaid a'i geg ar un- wlaith, Bjei 'di'it mateir, bø d;i' l' mater, ddyn ?" llefai. "Yr wyf wedi dod yma i roddi hysbysrwydd i chwi o lofruddiaeth." Neidiodd yr, arolygydd ar ei draed fel mellten. "Be dach chi'n ddeyd, ddyntaranai. Yna aeth John Jones yn mlaen gyda'i stori; "Pan yn cloddio at wraidd pren rhos- ynau yn Mhlas Meredydd, darganfyddais gorl)h-esgyrii-skeleton. "Beth ? Corph ? Esgyrn ?" .meddai'r arol- ygydd yn filain. "Pwy a'i lladdodd ?" "Wei, nid y fi'n siAvr. Mis sydd er pan wyf yn y Plas." "Be ma' Mrs Puw yn feddwl o'r helYllt 1" "Wyr hi ddim mod i'n gwybod dim am y peth; mae hi wedi myn'd i Lundain er's tridiau, ac yr wyf yn ei disgwyl adref "Dyna ddigon," ebe'r arolygydd, gan fyned i'r drwo, a gwaeddi, "Williams, Williams I" Daeth llefnyn o ddyn braf chwe'troedfedd a thair modfedd i'r ystafell. "Gwisgwch eich helmet a'eh belt ar un- waith, a deuwch gyda mi." Gwisgodd y ddau eu helmets a'u belts, ac i ffwrdd a hwy, yn nghwmni John Jones i gyfeiriad y mynydd. Yr oeddynt yn cerdded mor arw fel mai prin y gallai John Jones, cu canlyn. Aeth y garddwr dros ei ystori eilwaith. "Nid oes dim d'ioni," meddai, "o bobol yn byw mor slei a. meistres. Mi fydd yn cau ei hunan am oriau bwygilydd yn ei hystafell efo'i chathod a'i pharrots ac am ymwelwyf, ni fydd neb yn t'wllu'r ty ddydd yn y flwydd- yn. Ni fydd hithau byth yn ymweled a neb o'r cymydogion. Mae rhyw fywyd fel hyn yn rhywbeth pur annaturiol. Ydach chi'l1 gweled, syr, fod yn rhaid fod oydwybod y ddvnes yn ei brathu, a bod! ami ofn rhyw- beth." Edrychodd yr arolygydd yn Solomonaidd a difrifol, tra y chwareuai a chudynau ei farf goch mewn myfyrdod dwys. "Mae'r acho-s yn edrych yn ddu iawn," meddai. "Mae hi yn uashau plant," meddai John Jones mewn digllonedd cyfiawn, "ac y mae pobol sydd yn cashau plant yn ddigon drwg i unrhyw beth." Cyrhaeddwyd Plas Meredydd o'r diwedd, ac arweiniodd John Jones y plismyn i'r ardd, ac at y pren rhosynau. "Dacw fo, syr," meddai, gan bwyntio at y skeleton. Chwareuai'r arolygydd a'i farf goch, tra y sisialai y plismon imawr tal, "Creulon, creu- lon Safai John Jones, a'i faco yn ei geg, yn sychu ei chwys efo'i gadach sidan coch. Edrychoddi yr arolygydd arno mor sobr a gwr o lefarwr mewn cyfarfod misol, a dy- wedodd "A ydych chwi yn cyhuddo Mrs Puw o'r weithred hon ?" "Pwy arall fuasai yn gwneyd. Yr wyf yn barod i wystlo fy mywyd mai hi wnaeth. Cyhuddwoh hi o'r trosedd, a chospwch hi. Rhaid ei chospi." "Hhaid i chwi roi eich tystiolaeth o ilaen yr ustusiaid," meddai'r arolygydd. A ohan dynu Ilyfr bychan 0"i logell, efe a ddywedodd "Ysgrifenaf i lawr ifeithiau yr achos." A chan ysgiifenu, efe a ysgrifenodd fel hyn :—Mr John Jones, garddwr wrth ei alwedigaeth, a ddarganfyddodd o dan bren rhosynau yn ngardd Mrs Puw, gweddw, yr hon a driga yn Mhlas Meredydd, yn inhlwyf Trefarthur, skeleton, yr hwn a ymcldengys yn gorph plentyn bychan. I ba rywogaeth y perthyna nid yw yn wybyddus. Tystiolaetha y dywededig John Jones Y foment hon, clywid swn cerbyd yn agos- hau, ac yn aros yn ymyl y fynedfa i'r Plas. "0, be 'nai be 'nai meddai John Jones yn ddychrynedig, "mae meistres wedi dwad. Rhedwch i ymguddio." "Beth?" taranai'r arolygydd. "Cofiwch, ffrynd, nad yw cyfiawnder byth yn rhedeg i ymguddio." Ond heb aros i wrando, rhedodd y garddwr nerth ei draed i gyfarfod Mrs Puw. "Be 'di'r mater efo chwi?" gofynai'r fon- eddiges, wrth weled ei garddwr yn welw a chrynedig. "Dim bydi, mai'ani—dtim byd," meddai John yn euog. Edrychodd y foneddiges yn synedig tua'r ardd, a gwelodd ben y plismon mawr tal. "Be ma'r plismon yna yn geisio yn fy nhy fi ?" gofynai. Orynai John Jones yn fwy fybh. "Dim byd, ma'am bach anwyl, dim byd; ffrynd i mi ydi o." Daeth yr arolygydd i'r golwg wed'yn. "Hwan, John, bet-h yw peth fel hyn. Rhowch esboniad i mi ar unwaith." Edrychodd John Jones yn syth i'w gwyneb, gan ddyweyd yn floesg ac ofnus "Meistres anwyl mae'r cwhwl wedi dod i'r goleu." "Beth II Beth sydd wedi dod i'r goJeu 1" meddai Mrs Puw, wedi ei pharlysu gan syn- dod. Ond cyn i John Jones gael amser i ateb, cerddodd yr arolygydd i fyny, a, dywedodd wrthi "A fydd y foneddiges mor garedig a'm canlyn i?" Mewn syndod mawr, canlynodd Mrs Puw ef at y pren rhosynau, a phan welodd f skeleton, lief odd