Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
6 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
6 erthygl ar y dudalen hon
PISTYLL Y CAIN
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
PISTYLL Y CAIN llhaiadr ydyw hwn, tua dau can' troedfedd o uchder, ar yr Afon Cain, yn nghymydogaeth Dolgellau. Cyrliaeddir at y pistyll trwy groesi pont wledig, wedi ei llunio trwy gorph derwen sydd ar ei gogwydd o'r naill graig i'r llall, uwchlaw agen ddofn, gul, drwy yr hwn y mae y Cain yn ymwthio gyda thrwst mawr, ac ymosodiad bygythiol. Wedi disgyn i'r gwaelod y mae yr afon i'w gweled yn ymyru rhagddi hyd estyll o'r graig, o tua dau can' troedfedd, bron yn unionsyth, ac yn disgyn ar gerig wedi eu treulio i ffurfiau cywrain a rhyfedd iawn.
MUR MAWR CHINA
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
MUR MAWR CHINA Mae .Hawer o ysgrifenwyr wedi bod yn siarad am fur mawr China fel gwastraff ar lafur ac yni dynol. Ond y maent yn cam- gymeryd. Mewn ystyr filwrol, rhaid i ni edrych arno fel o'r pwys mwyaf. Nid oes dim dadl na fu v mur hwn am ganrifoedd yn attalfa ctfeithiol riiag rliuthr- iadau y Mongoliaid yn eu rhyfolgyrchoedd. Yr oedd y mur yn nodi allan derfynau de- heuol eu liriogaethau ac yn ddim mwy na llai nag amgaer amddiffynol enfawr, y fwyaf a welodd y bvd erioed, ac yr oedd digon o filwyr Chineaidd i'w hamddiffyn. Yr oedd milwyr wedi eu gosod ar y mur o feval cymundeb a'u gilydd i'w gwylio, ac nis gallai yr un gelyn ddcd yn agos heb i'r gwyl- iedyddion hyn hysbysu y peth ar hyd yr lioll gyffiniau mewn ychydig o amser. Yr oedd i bob porth yn v inur ei warchodlu, ac i bob hwlch neu fynedfa fynyddig, drwy y rhai yr oedd y mur wedi ei gyfodi, ei wersyll milwrol. Adeiladwyd trefyd'd, diwylliwyd y tir, a dadblygwyd amaetliyddiaeth o'r tu mewn i'r mur yn mhob man, er diwallu anghenion y milwyr, ac yr oedd y lfaith ei hun yn nawdd ac amddiNyu i China, drwy ei fod yn gynnydd dirfawr i'r boblogaeth ar hyd ei holl der- fynau. Y mae y mur erbyn hyn yn adfeilion, ac wedi peidio a bod o ddefnydd mwy ond am bedair canrif ar ddeg, y mae wedi bod yn gymhorth i amddiffyn yr yniherodraeth rhag ei gelynion gogleddol.
EFFAITH RHYFEDDOL RHEW
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
EFFAITH RHYFEDDOL RHEW Yn Llandregaerog, tua diwedd Ionawr di- weddaf, yr oedd masnachwr o'r lie hwnw wedi prynu casgen naw galwyn o gwrw dan ben camp. Y dydd canlynol dywedwyd wrth y forwyn am fyned i geisio peth ohono i giniaw, end nis gallai yn ei fyw gael yr un diferyn allan o'r gasgen. Dywedodd wrth ei meist-r es, a dywedodd hefyd ei bod hi o'r farn fod y cwrw wedi rhewi yn y gasgen, yr hon oedd wedi cael ei chadw yn un o'r tal allan, ac wedi i'r feis- tires roddi prawf ar y tap, credai fod y forwyn yn ei lie. Foreu ddydd Sul, tra yr oedd y gwr biai'r nenlbren yn yr eglwys, penderfynodd meis- tres y ty y mynai gael y gasgen i'r ty 0 flaen y tan, er mwyn i'w chynnwys feirioli. Dygwyd hi i mewn, ac o flaen y tan, (aid yn ofer, nid oedd yr un diferyn 0 gwrw yn dyfod, er syndod mawr i'r feistres a'r forwyn, ac nid oedd yr un o'r ddwy erioedi wedi clywed am rew mor galed ag a fuasai yn aehosi diflaiiiad hollol naw galwyn 0 ddwfr, chwaethach cwrw da. Y noson y cyrhaeddaisai y gasgen yno, yr oedd y drws y man lie y dodwyd hi wedi ei adael heb ei folltio na'i gloi, onide, ni fuasai y "Rhew" yn cael effaith mor dftyhysbyddol ar ei chynnwysiad.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Tn pheth a waria y meddwyn :—Ei anian, ei orlau, a'i syiiwyr.
YICENADWR PENFOEL
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
YICENADWR PENFOEL Ychydig flynyddau yn ol daeth cenadwr parche,dig i Loegr o Ynysoedd Mor y De, a chan ei fod yn lied foel, anrhegwyd ef a pherwig gan rai o'i gyfeillion. Ar ei ddychweliad i'r ynys, daeth y pen- aetih ac ereill i'w gyfarfod i'w groesawu, ac wedi y llongyfarchiadau arferol, dywedodd un ohonynt wrth y cenadwr:- "Yr oeddych yn foel pan ymadawsoch, ac yn awr y mae genych ddigonedd o wallt; y fath bobi hynod yw y Saeson yna. Sut y daru nhw wneyd i'oh gwallt chi dyfu dirachefn ?" "Y fath bobl ddwl ydych," meddai y cenadwr, "sut y mae pob peth yn tyfu. Ai nid wrth hau had ?" Yna y bioeddiasant: "0, y mae'r Saeson yna yn hau had ar ben dyn moel i wneyd i'w wallt 0 dyfu." Gofynodd un brodor cyfrwys iddo os oedd wedi dyfod a pheth o'r hadlau gydag ef. Ond cariodd y cenadAvr yr ysmaldod yn mlaen am beth amser, ac jna tynodd ei wig. Gwnaeth yr olwg ar ei ben gwreiddiol iddynt dori allan mewn banllefau o chwert'hin, a thori allan o'r newydd pan lefodd un o'r brodorion alt ei gyfaill, gan ddywedyd — "A weli di! Dyma Mr Jackson wedi dyfod yn ol o Loegr a'i ben wedi ei'doi I"
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Dywed gwyddonwyr na fydd un afiechyd yn anfeddlyginiaethol yn mhen can' mlynedd eto.