Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

1 erthygl ar y dudalen hon

Gormes Grwareiddiad:

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Gormes Grwareiddiad: neu "CALED YW FFORDD TROSEDD- WYR." PENNOD VII. FFYRDD RHAGLUNIAETH. I t I .1I p. ETH wnai'r maer ? Yr oedd yr amgylchiadau yn rhai mor annymun- ol ac wedi dod mewn modd mor sydyn fel yr oedd Gregory, neu Herbert Humphreys- fel y galwn ef bellach — oblegid dyna pwy oedd maer Centrewich, fel y mae y darllen- ydd wedi dyfalu, mae'n debyg—wedi cael ei fwrw megis rhwng deufor-gyfarfod. Ar un fynyd tybiai fod ei gydwybod yn galw arno yn y modd egluraf i beidio gadael i gamgymeriad yr awdurdodau anfon dyn diniwed i'r transport yn ei le ef; gwelai yn eglur ambell foment mai ei ddy- ledswydd oedd datguddio ei hun i'r awdur- dodau, er hysbysu pwy oedd y gwir Herbert Humphreys, ac yna gadael iddynt gymeryd y cwrs a fynent. Credai nas gallai byth fwyn- hau awr o'i oes ar ol gadael i ddyn arall gael ei anfon i alltudiaeth yn ei le ef troai ei holl gyfoeth yn chwerwedd iddo, a byddai wyneL Duw yn ei erbyn o'r foment hono allan hyd byth. Ond o'r ochr arall, pe datguddiai ei hun i'r awdurdodau, a chael ei gymeryd i fynv yn lie dyn gamgymerid yn awr am Her- cly bert Humphreys, a, phe yr anfonid ef yn ol i'r transport, beth ddeuai o Centrewich, beth ddeuai o'r gwaith yno, a'r ddwy fil gweithwyr, beth ddeuai o'r cannoedd tlodion a gedwid ar ei haelioni ef, beth ddeuai o'r yspytty, o'r darllenfeydd, o'r lluosog sefydliadau cre- fyddol a dyngarol oeddynt jn cael eu cadw yn gyfangwbl ar ei bwrs ef ? Ie, ac yn ben ar I- y y cwbl, beth ddeuai o'i chwaer, yr hon yr oedd efe mewn dull mor Ragluniaethol wedi dod o hyd iddi yn nyfnder ei chyni a'i diodd- efaint ? Pwy ddeuai i gymeryd ei le yn Centrewich, i ranu ei enillion rhwng ereill fe y gwnai efe, i fed megis tad i'r amddifaid a chefn da i'r gweddwon tlodion am filldiroedd o gylch? Pwy wnai hyn-pwy ofalai am dlodion Duw pe yr anfonid ef ymaith gan yr awdurdodau gwladol? Yr oedd megis ddau ddylanwad neu ddau lais gwahanol yn ymdrechu yn ei fynwes drwy'r nos, gan geisio'r oruchafiaeth arno. "Ystyria," ebai un llais wrtho, "y creadur diniwed yma yn gorfod myn'd i orphen ei oes mewn alltudiaeth yn dy le di. Ie, a hyny tra yr wyt ti yn gwybod am y peth hefyd." "Ah," ebai y maer ynddo ei hun, "dyna sydd yn biti—fy mod yn gwybod am hyn. Oh, paham y darfu i Ragluniaeth arwain Johnson yma i'm hysbysu o hyn o gwbl? Ond! i beth yr wyf yn siarad fel yna! Gwybod neu beidio, nid yw yn iawn i'r fath beth ddigwydd. Mae arnaf ofn colli hyny n grefydd sydd genyf yn ngwyneb y brofedig- aeth ofnadwy hon; gwell fydd i mi dreulio'r gweddill o'm hoes yn y transport na gadael i'r fath gam dychrynllyd gael ei wneyd a dyn hollol ddiniwed, a hyny o'm hachos i." "Aros, aros," ebai'r llais arall yn ei fynwes, "cafia beth ddaw o'r holl sefydliadau daionus hyn yn y cwr poblog yma o'r wlad pe cymerid di i ffwrdd. Onid wyt ti yn cyflawni y gor- ohymynion dwyfol osodir ar bobl arianog, a hyny yn well nag unrhyw gant o'r cyfryw bobl yn y cwr hwn pe l'hoddid eu holl weithred- oedd da oil yn nghyd ? A wyt ti yn meddwl y claw yma y fatih wr tosturiol, caredig, a haelionus a thi i Centrewich ar dy ol ? Cymer ofal beth wnei yn awr rhag i ti dynu dinystr ar yr holl dref drwy droi cefn ami fel hyn, pan nad oes unrhyw raid i ti wneyd o gwbl." Fel hyn y bu y maer drwy oriau y noson faith hono yn ymdrechu rhwng dau feddwl. Gwelai ambell fynyd yn eglur fod ei Ie ef yn y transport yn wag—gwneled ef beth bynag a wnelai byddai y lie hwnw yn disgwyl wrtho; nid oedd ganddo hawl i fod allan ohono yn awr drwy fod ei hen drosedd o ladrata y swllt hwnw oddiar was fferm yn sir Gaerfyrddin flynyddau yn ol yn galw o hyd am gosp ac am ei anfoniad ef yn ol i'r trans- port. Byddai ei Ie gwag yn yr alltudiaeth yn sicr o'i atdynu iddo ei hun rywbryd yn fuan neu hwyr. Ond, meddyliai wed'yn, yr oedd ganddo yn awr un i gymeryd ei le yno, ac ond iddo fod yn ddistaw a pheidio achwyn arno ei hun wrth yr awdurdodau nis gallai neb fod fymryn doetihach, a gadewid ef allan yn rhydd i fyn'd yn mlaen gyda'i weithred- oedd da er lies dynoliaeth yn gyffredinol a'r tlodion yn neillduol. Erbyn gwawriad y boreu yr oedd y maer wedi gwneyd ei feddwl i fyny. Neu tybiai ambell fynydyn ei fod; ond y foment nesaf deuai ofn arno, ofn na chai byth mwyach gyfleusdra i wneyd i fyny am yr hyn a ystyr- iai efe fel drygau boreu ei oes, ac o dan ddy- lanwad yr ofn yma byddai ei benderfyniad yn dechreu ysgogi. Daeth allan o'i ystafell yn gynar, cyn bod neb i'w weled ar heolydd Centrewich. Pry- surodd, fel pe yn ofni newid ei feddwl, i un o brif westai y dref, lIe y llogodd gerbyd bychan gan gychwyn ynddo o'r dref ar gar- lam gwyllfe. Nid oedd wedi cael tamaid o swper y noson flaenorol na dim brecwast y boreu hwn; teimlai nas gallai fwyta dim. A pha ryfedd A fedr dyn fwyta fel arfer pan yn cael ei boeni gan rhyw drybini ofn- adwy ? Yr oedd wedi gwneyd ei feddwl i fyny i fyn'd i York. Diwrnodi prawf Herbertson oedd y diwrnod hwn oedd newydd wawrio; diwrnod prawf y dyn gamgymerid am dano ef. Yr oedd ganddo ddegau o filldiroedd i gyrhaedd York; dechreuai y frawdlys am ddeuddeg, end drwy ei fod ef wedi cychwyn mor gynar, credai y gallai gyrhaedd yno yn rhwydd erbyn adeg cychwyn y gweithrediad- au, os na ddigwyddai rhyw ddamwain i'w attal ar y ffordd, Pan yn gyru drwy bentref bychan gwledig. ar garlam daeth trol drom yn sydyn i'r heol allan o ryw fuarth, a rhedodd cerby d y maer yn ei herbyn cyn iddo fedru ei hysgoi, ac yn y gwrthdayawiad torwyd un o olwynion y cerbyd. "Weldi," ebai un o'r dylanwadau gwrth- gyforbyniol yn ei enaid, "dyma Ragluniaeth yn gweithio yn erbyn dy fwriad i fyn'd i'r frawdlys. Fe gymer rai oriau i drw&io yr olwyn yma, ac felly byddai yn rhy ddiweddar yn cyrhaedd York—fe fydd y prawf dlrosodd a bydd dy gyfleusdra dithau i achwyn arnat dy hun aci ddatguddio pwy wyt ti wedi myned heibio. Byddai yn well i ti yrwan fyn'd adref yn dy ol." "Na, iia," meddai y maer ynddo ei hun, "yr wyf wedi cychwyn am York ac i York yr af pe byddai yn nos arnaf yn cyrhaedd." "Dywedodd saer y pentref wrtho y cymerai hanner diwrnod iddo ef drwsio y cerbyd. "Nis gellwch ei gael yn barod cyn un o'r gloch y prydnawn." "Faint sydd o ffordd oddiyma i York," gofynai y maer. "Deng milldir ar hugain." "Felly pe cychwynwn oddiyma am un or gloch, erbyn pryd y gallwn gyrhaedd yno, ?" "Dim llawer cyn pump y prydnhawn." "Pump t" ebai'r maer ynddo ei hun, "dyna/r awr y bydd y frawdlys yn gorphen am y di- wrnod fel rheol. Wel, y mae fel pe buasai Rhagluniaeth wedi'r cyfan yn wrthwynebol i mi fyn'd i'r frawdlys hon." Ac meddai, yn uchel, wrth y saer, "trwsiwch y cerbyd, a gwnewch gymaint o frys ag y medroch." Aeth y maer i'r unig westy oedd yn y pen- tref, a gofynodd a allai ef logi cerbyd yno i'w gymeryd i York. "Mae'r unig gerbyd sydd genym, syr, wedi ei logi eisoes. Pe buasech yma hanner awr yn nghynt, gallasech ei gael." Dyna hi eto! Credai y maer erbyn hyn fod Rhagluniaeth mewn gwirioneddl am ei rhwystro rhag myn'd i'r frawdlys i ddatguddio ei hun. Ac eto i gyd methai, yn ngwaelod ei galon, a deall sut yr oedd Rhagluniaeth holl- ddoeth yn gwneyd pobpeth i'w attal ef rhag cyflawni yr hyn a dybiai efe oedd yn gyfiawn- der noeth a thrugaredd cywir a'r creadur di- niwed oedd y diwrnod hwnw i gael ei anfon i'r transport yn lie un arall—"a'r un arall hwnw wyf fi," ebai'r maer, fel yr eisteddai yn y gwesty mewn penbleth pa beth i'w wneyd. Sut bynag, gwelai nas gallai fyn'd yn mlaen am oriau, ac ar ambell fynydyn yr oedd fel pe yn llawenychu yn ei galon fod pethau yn troi allan fel yr oeddynt yn gwneyd—fod y ddamwain yma wedi digwydd, fod yn angen- rheidiol wrth oriau o waith ar y cerbyd cyn y byddai yn gymhwys i drafaelu y ffordd, ac fod unig gerbyd y gwesty newydd gael ei logi i un arall. Teimlai y maer ei fod ef wedi gwneyd ei oreu i gyflawni ei ddyledswydd yn ol ei argyhoeddiad, sef myn'd i'r frawdlys i ddatguddio mai efe ac nid y dyil arall hwnw oedd Herbert Humphreys; teimlai nas gallai wneyd dim yn fwy nag oedd eisoes wedi wneyd. Yr oedd ei gydwybod yn cadarnhau y teimlad yma o'i fewn, ac megis. yn dyweyd wrtho, "Da y gwnaethost hyd yma." Ond yn awr wele rwystrau annisgwyliadwy yn cael eu taflu ar ei ffordd i gyflawni ei fwriad, wele Ragluniaeth yn dechreu aj*afu ei fynediad i'r frawdlvs ac i'r transport yn ei ol. Os nad allai gyrhaedd York cyn i'r prawf fyn'd dros- odd, ar pwy y byddai'r' bai? Nid Mno ef, oblegid yr oedd ef yn gwneyd pobpeth allai er cyrhaedd yno mewn pryd, ac yn gwneyd mwy er cyrhaedd yr amcan hwnw nag a fu- asai efallai naw dyn o bob deg yn wneyd dan gyffelyb amgylchiadau arswydlawn. Rhaid