Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

1 erthygl ar y dudalen hon

Gormes Grwareiddiad:

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

oofio fod y pethau hyn wedi digwydd cyn oes y pellebyr a cliyn i'r rheilffyrdd orchuddio'r wlad fel rhwydwaith, a'r dull eyflymaf o gyr- haedd York o Centrewich yr adeg lion oedd ar hyd y ffordd fawr mewn cerbyd ysgafn yn cael ei dynu gan geffyl bywiog a cliwim. Pan yr oedd y maer bron iawn a llon- gyfarch ei hun oherwydd fod y cyd-ddigwydd- iada,u hyn yn dod i ddyrysu ei jbenderfyniad cyntaf, wele ffermwr yn dod i fewn i'r ystafell gan ei gyfarch, "Clywais fod eich cerbyd wedi cael damwain ac fod arnoch eisieu cyrhaedd York yn gynnar y prydnawn. Wel, syr, mae genyf fi gerbyd ysgafn y gellwch ei gael am dal priodol. Hyn-a-hyn ofynaf genyoh am ei fenLhyg." Suddodd calon y Maer o'i fewn; ymagorai y transport o'i flaen unwaith yn rhagor. Wedi'r cwbl nid oedd Rhagluniaeth am iddo gilio yn ol oddiwrth ei ddyledswydd. Gydag ochenaid a barodd i'r ffermwr edrych arno mewn syndod gorchymynodd am i'r cerbyd hwnw gael ei ddwyn at ffrynt y gwesty yn ddioed. "Y mae yma yn awr, syr," atebai'r ffermwr, "does dim end eisieu rhoddi eich ceffyl chwi ynddo." Oh mor greulon y teimlai y maer fod y geiriau hyn; yr oeddynt yn cael eu llefaru mewn ton garedig; yr oedd y ffermwr nid yn unig eisieu enill tipyn trwy logi ei gerbyd ond eisieu hefyd fod o ryw hwylusdod i'r maer drwy ei alluogi i fyn'd yn mlaen ar ei daith heb oedi. Ond ychydig dybiai y ffermwr fel yr oedd ei gynnyg wedi dymchwel gobeithion newydd-anedig y maer, druan. "Gwyliwch golli'r ffordd, syr," ebai'r ffermwr wrth Herbert Humphreys fel y cychwynai ymaith oddiwrth y gwesty oddeu- tu deg o'r gloch y boreu, "ond i ohwi yru yn galed byddweh yno rywbryd oddeutu dau neu hanner awr wedi dau." Ymaith a'r maer ar garlam. Cyrhaedd yno erbyn dau, aie ? Os am gyrliaedd yno cyn i'r prawf fyn'd drosodd efallai y dylai yru mor galed ag oedd modd. Ond dymar llais yn ei fynwes yn ei anerch unwaith yn rhagor "Paid gyru y ceffyl druan mor galed. Dos ar drot yn lie carlamu fel yna. Paham y rliaid i ti roddi dy hun i gymaint o ym- drech er cyrhaedd yno mewn pryd? Paid bod yn ffvvl, arafa dy geffyl ac os cyrhaeddi yno erbyn y nos byddi wedi gwneyd pobpeth allaset ti wneyd." Ond na, nid fel yna ychwaith Teimlai y maer fod tynged dyn diniwed yn gorphwys mewn ffordd o siarad ar garnau ei geffyl ef. "Os methi gyrhaedd yno mewn pryd, ar y ddamwain i'r cerbyd y bydd y bai," ebai'r llais o'i fewn drachefn, "paid lladd dy geifyl yrwan—dos yn araf." Unig ateb y maer i'r cymhellion mewnol hyn oedd gwasgu ei wefusau yn dynion ar eu gilydd, edrych yn fwy penderfynol nag o'r blaen, a rhoddi'r ffrwyn i'r march porthian- nus nes y carlamai hwnw fel corwynt gan ddwyn y maer druan yn nes bob moment i York. Gwibiai rhyferthwy o feddyliau drwy ei ymenydd fel yr ysgubai yn chwim dros y ffordd wastad; a toe daeth swn camau_ ei geffyl i daraw ar ei glyboedd fel geiriau bygythiol ac arwyddocaol o'r bron—dychy- mygai glywed pob carlamiad o eiddo ei farch yn swnlo "trans-port, trans-port, trans-port." Ond po gyflymaf yr elai yn mlaen tawelaf oil y deuai ei gydwybod; po agosaf at York y dynesai mwyaf oil y canmolid ef gan yr elfen ryfedd! hono a alwyd yn "dyst Duw o fewn dyn." Yr oedd wedi ymgolli yn llwyr yn ei fyfyr- dodau er's dros awr a hanner pan yn sydyn y sylwodd fod y ffordd yn dod yn -gulach a llawer mwy garw na'r ffordd fawr ragorol ar hyd yr hon y bu yn teithio y rhan gyntaf o'r boreu. Yn wir,, daeitli y ffordd mor garegog a llawn o dyllau fel y bu raid iddo arafu rhag malurio olwynion y cerbyd, ac yn y man canfu weision fferm yn llafurio mewn maes gerllaw a gofynodd iddynt pa mor bell oedd York. "York," meddynt, "York! Nis gellwch byth gyrhaedd York drwy'r ffordd yma. Ffcrdd blwyf yw hon, ae yr ydych wedi colli ffordd fawr York er's deng milldir bellach. Rhaid i chwi fyn'd yn ol ddeng milldir, neu gymeryd y fforddi blwyf yna i'r aswy yn y pedair croesffordd sydd filldir o'ch blaen, ac os gwnewch hyny rhaid i chwi fod yn bur ofalus neu fe gollwch eich eyfeiriad yn llwyr." "Ond beth fyddai oreu i mi wneyd ? Mae arnaf eisieu cyrhaedd York erbyn dau o'r gloch. "Erbyn dau Y mae yn hanner awr wedi deuddeg yn awr. Nis gellwch gyrhaedd yno cly erbyn pedwar." Yn y cyfwng yma wele wladwr yn dod heibio a. golwg blinedig a llafurus arno. "Eisieu myn'd i York sydd arnoch," gofynai, "oe felly gallaf ddangos y cyfeiriad priodol i chwi ar hyd y croesffyrdd hyn fel na bydd raid i chwi fyn'd yn ol i'r ffordd fawr. Mae arnaf fi eisieu myn'dJ o fewn deng milldir i York fy hunan." "O'r gore, dewch i fyny," ebai'r maer gan deimlo rywsut fod ei ffawd dda unwaith yn rhagor wedi cael ei gorchfygu ac y byddai iddo gyrhaedd York cyn terfyn y treial er colli'r ffordd a phob helbul arall. Yn mlaen a hwy, ond yn llawer arafach nag o'r blaen oherwydd gerwinder y tfordd. Yn y man dywedodd y gwladwr wrtli y maer y deuai gydag ef bob cam i York. "Yr oedd arnaf eisieu gwneyd rhyw neges yno yfory," meddai, "ond os caf fy nghario yno am ddim waeth genyf ddod gyda chwi yno heno na pheidio." "Hena!" ebai'r maer, "heno yn wir. Mae arnaf eisieu bod yn York cyn pedwar o'r gloch." "Wel, fedrwch ohwi ddim bod yno cyn pedwar, dyna'r gwir1 i chwi," atebai'r dyn, "achos mae'r ffyrdd, plwyfol hyn mor ofnadwy o ddrwg fel y bydd raid i chwi yru. yn bur araf a gofalus, onide fe dorweh olwynion A chyn ei fod wedi gorphen y frawddeg wele un o olwynion y cerbyd yn suddo hyd y both mewn twll ileidiog, a bu agos i'r maer a'i gydymaith gael eu taflu ar eu penau i'r ffordd. "Dyna i chwi," ebai'r gwladwr, "dyna be ydwyf yn feddwl wrth yru yn araf. Gyru yn rhy ffast yr oeddeoh yrwan o lawer iawn. Rhaid eich bod mewn brys ofnadwy i gyr- haedd York, faswn i yn meddwl," meddai, fel y deuai y ddau i lawr o'r cerbyd. Erbynarchwilio yr olwyn eawsant er eu dirfawr syndod fod pin y both wedi ymrydd- hau a mynd ar goll. Oredai y ddau fod hyny wedi cymeryd lie nid yn y fan hono ond rai milldiroedd yn ol, a'r rhyfeddod oedd na fuasai yr olwyn wedi dod yn rhydd ac achosi dymchweliad y cerbyd. "Llaw Rhagluniaeth etc," ebai'r maer ynddo ei hun. Oymerodd dros hanner awr iddynt wneyd y cliffyg i fyny, ac erbyn hyn yr oedd yn tynu at ddau o'r glooh y prydnawn. "Erbyn pryd y cyrhaeddwn York yrwan T gofynai y maer yn mhen enyd ar ol ail gychwyn. "Fedrwn ni ddim bod yno cyn pump beth by nag," oedd yr ateb. Aeth rhywbetli tebyg iawn i bangfa. o lawenydd drwy galon y maer pan glywodd hyn. Pump oedd yr awr i'r frawdlys dei- fynu, fel rheol gyffredin; byddai y prawf dros odd cyn hyny ac yntau wedi ei waredu o safn dinystr tymhorol gan y damweiniau hyn ar y ffordd. Dechreuodcl gymeryd ail ddyddordeb yn m-hrydferthion natur a'r wlad oamgylch wrth weled fel yr oedd! ffawd noeth yn attal ei fynediad yn mlaen dechreuodd deimlo fod dyfodol mwy hapus na'r trans- port o'i flaen wedi'r cwbl, a hyny yn hollol drwy ymyriadau sydynl Rhagluniaeth ac nid drwy unrhyw ddichell na chyfrwysdra o'i eiddo ei hun. Fel v teithient yn mlaen, filldir ar ol milldir, a chysgodau cyntaf yr hwyr yn am- lwg ddynesu, heb yr argoel leiaf eu bod yn ymyl York, teimlai y maer ei lawenydd yn cynnyddu. "Mae y prawf drosodd," meddai ynddo ei hun, "a minnau yn ddyn rhydd, er i mi wneyd fy ngoreu, Duw a'i gwyr, i gyr- haedd yno mewn pryd." Ond daeth teimlad arall drosto: "Beth!" ebai llais grymus a difrifol o'i fewn, "ai llawenychu yr wyt fod dyn arall wedi cael ei alltudio am ei oes yn dy le di ? Gwir nad oes bai arnat na fuaset yn York er's oriau, ond paid llawenhau fod hyn yn digwydd." A theimlai y maer mai y llais hwnw oedd y llais goreu. Hwnw oedd y llais iawn wedi'r cwbl. "Faint yw o'r gloch yn awr ?" gofynai ei gydymaith i'r maer yn mlien liir amser wedi maitk ddistawrwydd. Dyma'r tro, cyntaf er's- oiiau i'r maer feddwl edrych ar ei oriadur. Wedi gwneyd hyny, "y mae yn bum' mynyd wedi pump," meddai wrth y gwladwr, gan ychwanegu yn ddistaw ynddo ei hun, "a minnau bellach yn rhydd1 a,c heb unrhyw fai arnaf am hyny." "Dacw fwg tref York," meddai'r gwladwr, "byddwn yno yn fuan bellach." Ac felly yr oeddynt. Cyrhaeddasant y ddinas erbyn banner awr wedi pump. Yr oedd y dydd wedi darfod a goleuadau y dref yn disgleirio yn yr heolydd fel y gyrent drwy'r naill lieol ar ol y llall. Cynnyddbdd gobeithion y maer fod pobpeth drosodd er cymaint wnai er ceisio cadw y gobeithion hyny danodd allan o syniad o'i ddyledswycldi, fel erbyn cyrhaedd vsgwar yn nghanol y dref yr oedd yn teimlo yn ysgafnach ei feddwl nag a wnaeth er's pan gywodd Johnson yn dyweyd fod Herbert Humphreys o'r diwedd wedi cael ei ddal. Teimlai y maer ei fod ef wedi gwneyd ei oreu i gyrhaedd mewn pryd i gymeryd He y y diniwed o, flaen y frawdle, ond yr oedd ffawd wedi ei attal rhag bod mewn pryd. Am hyny nis gallai beidio teimlo ysgafnhad o ran ei feddwl. Pwy fuasai yn methu teimlo felly?