Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

1 erthygl ar y dudalen hon

BRWYDRAU BYTHGOFIADWY

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

BRWYDRAU BYTHGOFIADWY HI.-hBRWYDR OLAF Y DYN OOCH. Ni fu erioed gynfrodorion mwy anhyblyg nag Indiaid iCochion Gogledd America Yn eu tro buont yn ymladd a'r Yspaenwr, y Ffrancwr, a'r Sais, frwydrau flymig ac wedi iddynt hwy gilio o'r maes, ac i'r Ameri- canwr gymeryd eu lie, ymladdai yr Indiad ag yntau, yn fwy ffymig nag erioed. Ond yr oedd y gynen oedd wedi deehreu ar lanau y Werydd gannoedd o ilynyddoedd yn ol i derfynu yn y Gogledd Orllewin pell, yn nghongl eithaf yr Unol Daleithau-con(YI anhysbys i'r dyn gWYll y pryd hwnw, ar gy- ffiniau y Mynyddoedd Creigiog. Ni fynai y gwiblwvthau aflonydd hyn ym- sefydlu yn y parthau a ganiateid iddynt gan Lywodraeth yr Unol Daleithau, cr cynnyg iddynt bob telerau rhesymol; yr oeddvnt hwy am ryddid i grwydro a chyflawni eu liys- gelerderau dros gan' mil o filldircedd ysgwar, yn nliiriogaetliau Dakota, iiiontana, a Wy- oming. Yn ystod gauaf 1875-6, gwelodd yr awd- uiflodau yn Washington nad oedd dim ond mesuraa gorfodol yn debyg o hvyddo i w da"- ostwng a chynierodd y yymudhd cvriaf yn erbyn y Sioux, y mwya* ysgeler o'r llwytu- au, le ar y laf o Fawrth, 1876, a'r Cadfridog Sheridan oedd i fod yn gyfarwyddwr y gad- ymgyrch, a Chicago oedd i fod yn head- quarters. Yr oedd y Cadfridog Terry, hefyd, i arwain y lluoedd, ac o dan ei arweiniad ef, yr oedd y Cadfridogion Ousters a Crook, i ar- wain y gwyr meirch. Gorchymynodd Terry i'r arvveinyddion hyn fyned allan yn erbyn y "gelynion," gan roddi' pob cyf;irwyddid pa hvybr oedd y naill a'r Hall i gymeryd. Cy- chwynodd Crook ar y laf o Fawrtli, ac ar y 17eg o Fawrth, bu yn ymladdfa rhyngddo ef a "Crazy Horse a'i ddewrion a bu yr ym- laddfa mor ffyrnig nes y gorfu i Crook gilio yn ol. M'ethodd Custer a chyrhaedd ar yr un pryd a Crook, gan fod y tywydd mor ddrwg, fel yr oedd yn anmhosibl anturio i ororau yr eira mawr a'r afonydd lliftiriol. Aeth y newydd am orchiygiad Crook allan fel tan gwyllt yn mhlith yr Indiaid. An- fonwyd brysgenadwyr i bob gwersyil In- diaidd yn y rlian hono o'r Dalaeth i hysbysu fel yr oedd y Gwynebau Gwelwon wedi gor- fod ciiio'n ol, ac yr oedd llawenydd mawr, a bias ar ail adrodd y newydd da yn rlioi yni yn mhob rhyfelddaws. Gwnaeth gorchfygiad Crook frwydr faith yn anocheladwy. Adgyfnerthodd y Cad fridog Sheridan ei finteioedd, ac ail drefn- odd ei gynlluniau. Ffurfiwyd y byddin dorfau yn dair colofn yn lie dwy; a chyn gynted ag y cyiuedrolodd y tywydd, aeth y tair allan i ymosod ar yr Indiaid, dan ar- weiniad Terry, Crook, a Gibbon. Custer oedd i fyned allan yn lie Terry, ond yr oedd yn rhaid iddo ef, oherwyJd rhyw anghydwelediad, ail enill ffafr y Llyw- ydd Grant; yr hyn, drwy gyfryngiad Sher- idan, a ganiatawyd iddo, mewn pryd i gy- meryd ei le fel arweinydd ei gatrawd, a myned i ffwrdd, i ddychwelyd byth mwy. Oyrhaeddodd y cadfridog enwog hwn mewn pryd i gymeryd rhan flaenllaw yn yi ymgyrch, Wedi cychwyn o Fort Abraham Lincoln, ar y 17cg o Fai, a chroesi y M'issoury Fech- an, ar y dydd olaf o'r mis, a myned yn mlaen yn raddol, yr oedd yr holl fyddin yn cyrhaedd glanau y Rosebud, ar yr 21ain o Fehefin. Yna, trefnwyd fod i farchlu yr Unol Daleithau, dan arweiniad y Cadfridog Custer, fyned yn mlaen tua'r glanau yr oedd y Milwriad Reno wedi canfod oil on gwer- syllfaoedd Indiaidd, goddiweddu yr Indiaid, eu cornelu, a'u dwyn allan i'r frwydr. Hyny a wnaethant. Yr oedd y Cadfridog Custer, gych'i 700 gwyr meirch, yn credu y gallai ymladd a IllWY o anwariaid nag oedd yn debyg o gyf- arfod yn yr ymgyrch hono, ac yr oedd ei gydgadfridogion o'r un fam. Ond gwelsant eu camgymeriad pan yn rliy ddiweddar. Yr oedd paratoadau prysur yn myned yn mlaen yn mhlith yr anwariaid. Wrth fyned i fyny hyd lanau yr afon, yr oedd olion gwersylloedd Indiaidd i'w gweled yn mhob cyfeiriad, ac ar y 24ain o Fehefin, yr oedd Cluster a'i lu yn myned heibio i wer- syllfa fawr, ac ar dalcen un post ync yr oedd croen penglog dyn gwyn yn chwifio yn y gwynt. Ar fore y 25ain, daeth Custer i olwg y gelynion yr oedd yn chwilio am danynt. Er ei fod yn analluog i wneyd allan pa ben- tref oedd, gwelai yrfaoedd mawrion o fer- lynod, a'r mwg yn esgyn yn dorchau yn awyr y boreu a chlywai gyfarthiad c wn, yn a-r- wyddo fod yno bentref mawr yr ochr arnil i'r biyn. Yr oedd Custer wedi bwriadu aros yn lion- ydd lie yr oedd lies deuai y nos, ac ar wawr- Ùlli y dydd ruthro i Jawrlr y Sioux. úlId aeth y cynllun hwnw JI1 {« c l (Jlyw-i'ld fod un o benaethiaid y gelyn wedi eu darganfod, ac wedi marchogaeth i fi wrdd i rybuddio ei bohl; a phenderfynodd Custer ymosod ar unwaith. Yr oedd y gwahanol finteioedd wedi medd- wl ymosod ar wersyll y gelyn o wahanol gyf- eiriadau. Trodd Custer a'i fintai ar y ddehau i groesi y bryniau er disgyn ar y gwersyil o'r cyfeir- iad hwnw. Trodd y Milwriad Reno ar yr aswy a chroesodd v ffrwd a clwir Little Big Horn, oddiwrth ba un y gelwir y frwydr. Fel yr oeddynt yn ymwahanu, anforiodd Custer orchymyn am i Reno symud yn mlaen, ac ymosod ar y gwersvll mor fuan ag oedd bosibl iddo. Wedi hyny yr unig air a dder- byniwyd oddi^vrth Custer oedd cenadwri ar i Capten Belltecn frysio yn mlaen cyn gynted ag oedd bosibl, fod y gwersyll yn ymestyn dros YI" holl ddyffryii, a .mwg y tanau yn cymylu yr awyr. ErhYll i'r geiiadwri gyrhaedd Reno, gwelai y rhai oedd gydag ef y cadfridog ar ben y bryn, ddwy filldir yn mlaen, yn edrych i lawr ar y gwersyil, ac yn chwifio ei het yn yr awyr i galonogi ei wyr, neu i alw ar y min- teioedd ereill yn mlaen. Dyna'r olwg olaf a welwyd arno ef a'i wyr, ac ni fu yr un o'i ddilynwyr fyw i ddyweyd ei banes. Ond oddiwrth yr hyn a gafwyd oddiwrth y rhai oedd yn ei ddeal] ef a'i ddull o frwydro-—-yn mhen blynyddoedd wedi hyn —ymladdodd yn ddewr wedi ei amgyichu gan elynion cyn i'r minteioedd ereill gyr- haedd, a lladdwyd ef a'i wyr yn mhoethder cyntaf y frwydr. Olid yr oedd Reno yn fwy gochelgar. Ymosododd ef ar yr Indiaid yn union wedi croesi y Little Big Horn. Pan welodd y gelyn yn ei wynebu yn llu nerthol, yn lie ymosod ar y gwersyil fel y gwnaethai Custer, gAvnaethai ef a'i wyr ymladd ar draed, gan gyuleryc1 niantais ar goed a llochcsau, a dal eu tir felly mewn dyogelwch i raddau lielaeth. Yn fuan wedi hyny daetli y Capten Benteen a'i fintai yn mlaen i'w gynnorthwyo, gyda inintai gryfach nag oedd yn meddiant Custer. Yr oedd hyn oil yn myned yn mlaen tra yr oedd Ouster yn mhoethder y frwydr yn y pentref, He yr oedd miloedd o'r Sioux arfog yn ymiadd fel gwallgofiaid. Mae yn wir iddo symnd yn jnlaen i'r bryn lie y gwelsid Custer yn chwifio ei het. Oddiyna, gellid gweled cyffro mawr yn y dyifryn, marchogaeth, bloeddio ac ergydio. Ond eto nid oedd Reno a'i wyr yn ddigon agos i wybod betli oedd yn myned yn mlaen. Yr oedd yr officers, gyda'u hysbienddryciiau yn ceisio cael allan lie yr oedd Custer a'i wyr, ond wrth gwrs yr oedd hyny yn anmhosibl, oherwydd erbyn hyn yr oedd ef a'i fintai wedi eu lladd. Dywedodd y penaeth "Gall" wedi hyny fod y newydd am ddynesiad y ddwy fyddin wedi taro y gwersylloedd a braw, ond pan welwyd Reno a'i wyr yn disgyn oddiar eu meirch, ac yn aras yn ol, iddynt gymeryd calon, oherwydd yr oedd hyny yn caniatau i'r holl nerth gael ei ruthr yn erbyn Custer. Wedi cael Custer oddiar y ffordd ymunasant yn erbyn Reno. Cili:h1 ■! Reno yn ol i'r Bluff's, ac yno, yn ymyl yr afon, cafodd ef a'i wyr sefyllfa fanteisiol i sefyll ei dir yn llwydd- ianus drwy'r prydnawn. Daeth yn nos, a threuliodd y minteioedd noson bryderus yn eu llochesau, yn methu deall befch a ddaethai o Custer a'i fintai. Yr oedd yr awyr yn oleu gan ffiamau y coelcerthi oamgylch a distawrwydd y nos yn cael ei dori yn awr ac eilwaith gan swn ergyd- ion, a bloeddio buddugoliaeth a digofaint. Ambell dro, tybient glywed ddynesiad byddin Terry, a chenid yr udgorn i'w croesawu. Ond nid oedd ond yr adsain o'r bryniau yn ateb. Pan wawriodd y boreu, agoro-dd y Sioux y tan cyntaf. a bu brwydr galed y dydd hwnw. O'u cadarnfa y dydd hwnw collodd Reno ddeunaw o'i wyr, ac archoilwyd deuddeg a deugain, a threuliwyd un noson bryderus drachefn. Ond ar foreu y 27ain cyrhaeddodd y Cacl- fridog Terry. Yr oedd wedi dyfod ar draws nnvy na, chant o laddedigion, a gwyddai fod brwydro caled wedi cymeryd lie, ond ychydig a Avyddai am faint y gyflafan. Ar yr 28ain, ynideithiodd y fyddin i faes brwydr v Little Big Horn. Wedi eu gwas- garu ;ir lethr y bryn cawsant 212 yn gorwedd yn mhlith y meirw. Y Cadfridog Custer, a'i frawd Capten Custer, ac ereill o'i swyddogion, yr oil wedi cael eu iadflingo (scalped), ond Custer ei hunan. Gorweddai ef fel y syrth- iasai. Yr oeddynt wedi yinattal rliag dial felly arno ef, yr hwn oedd yn adnabyddus i'w blaenor "Sitting Bull," a phenaetliiaid ereill. Nifer y lladdedigion ar du y Dyn Gwyn oedd 265, a chwymp Custer a'i wyr oedd ysimtyn rhuddgoch canmlwyddiant cyntaf yr Unol Daleithau. Y mae y frwydr lion liefyd yn fytligofiadwy