Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

Y TY A'R TEULU.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y TY A'R TEULU Grown ffasiynol iawn ydyw hwn. Muslin gwyn yw ei ddefnydd gydag yspotiau duon; mae y skirt yn llaes iawn, ar y. godre y mae ftownsau agar ymyl hono y mae chiffon du. Am y canol y mae jnelfet du cul gydia "bow" ar ochr. Mae ffrynt y bodice yn llac. Mae y boa o "net" du a "chenille." Toque du sydd yn gweddu y gown yma, a, hwnw wedi ei drimio- yn bur uchel. Ma,e llian yn ddefnydd ffasiynol y tymhor pre- sennol. Mae y gown yma o liw pine gwanaidd, ac y mae y skirt yn bur llaes, ond wedi ei gwneydl yn y fath fodd fel ag y mae yn hawdd ei chodi. Ar y skirt y mae tair rhes o "lace" melyn,, mae y goler hefyd wedi ei gorchuddio a, "lace." Mae y "Toque" o wellt melyn, gyda bow o net du a lluaws o ddail gwyrdld. Yn nghanoL y net y mae bwcl disglaer. Mae y blouse wedi ei gwneyd o siaan melyn gwanaidd gydag "yoke" digol,er 10 "lace" gyda rhosynau pine a gwyrdd ami. Nid yw y dillad wisgir yrwan, ond bron yr un peth ag a wisgid flynyddau lawer yn ol. Het o crinoline du ydyw hon, yn plygu yn y ffrynt i weddu y gwyneb. Mae yr het yma wedi ei thrimio a "tulle du gyda, dwy blueD. fawr, un ar bob oeihr. Ar y tu ol i'r het mae melfet du cul, hefyd y mae melfet du yn y ffrynt, gyda bwcl mawr disglaer. Y P ARL WR.-Cofied y forwyn nad oes ond yr un duTI i oleuo tan, yn y parlwr ag yn y gegin. 'Cyn deehreu y tan gofaler am godi yr hearthrug alu'Odi o'r enilldu, gyda lien o bapur drosti, i'w chadw rliag llwch o'r alch neu y grat. Awgryma hyn i forwyn go gall y bydd raid codi y lludw cyn deehreu gwneyd tan. Fodd bynag, teg yw dyweyd fod llawer o ferched pur fedrus ar waith ty yn goleuo y tan cyn codi y lludw. Mae i'r ddwy ffordd eu rhagor- iaethau, ond fod y ffordd gyntaf enwyd yn medd uar fwy ohonynt. Ond dichon nai bydd angen ond "tan oer" yn yr alch. Os felly, bydd raid glanhau bob man yn gyntaf, a thra'n gwneyd hyny gwneler y gwaith yn drwyadl a pherffadth. Gadawer i ni ail ddyweyd hyn Os bydd y ffender yn bronzed na, ddoder black leadl ond ar ei thu mewn yn unig, bydd ei dystio'n ddigon. Ond os bydd y ffender yn ddu i gyd, bydd raid' ei black leadio drosti. YSGUBO CARPED.—Wedi gorphen glanhau y lie tan a'i gylchoedd, a glanhau y ffenestr ysguber y carped. Nis gallwn gynghori neb i arfer brws caled at gairped1 (oddigerth yn, achly- surol), eifhr ysgyb mewn Haw a dlust pan yn y Haw arall. Fe wneir y gwaith yn well ac ni wisgir cymaint ar y carped. A oes angen dy- weyd y dylid hel dail te, heb fod yn rhy wlybion, ar y carpedl cyn dechreu ei ysgubo ? Byddwn ni yn arfer golchi y dail te mewn dwfr oer ^1 in cyn eu defnyddio rhag i liw te fyn'd ar y carp" Ceir rhai merched yn ysgubo a'r ysgub law oddiwrth y grat i gyfeiriad y drws. Camgy- yw liyny ar eu rhain. Ysguber bob amser o'r drws i gyfeiriad v lie tan. Codir llai o lawer o lwch wrth wneyd hyny. GLANHAU CARPEDAU.—Os bydd carped yn fudr annghyffredin, fe fydd anoen am gy- meryd tipyn odrafferth gydag o. Os bydd arno ysmotiau saim, eymerer yr un swm o magnesia, a fuller's earth a gwneler past ohonynt hefo dwfr berwedig, a, thra byddo'n boeth doder ar yr ysmotyn saim: ac wedi iddo sychu brwsier o ymaith yn llwyr. I lanhau carpedau oddiwrth • fudreddi cyffredin, megis mwd, huddugl, &c., defnyddier dwfr berwedig gan roddi un wns o sebon melyn ac un diram o soda ar gyfer pob dau alwyn o ddwfr. Cymerer llain o wlanen lan a golcher y carped drosto. hefo'r drwyth. Golcher darn o'r carped a rinsier hefo dwfr poetli glan, yna, gwnaer yr un modd a, dann arall, a darn draehefn os bydd angen, hyd; oni wneler o i gyd. Y peth goreu i adferu lliwiau carped yw bust! ych ac o beint i dri galwyn o ddwfr poeth. Gellir gwneyd hyn heb oddiar lawr, drwy drochi gwlanen yn y drwyth a'i rwbio drristoi tra yn boeth. Glanbaer ef o ddarn i ddarn nes myned drosto. Ond gwelL fyddai codi y carped i'w lanhau modd y gellid ei guro, a'i ysgwyd yn dda cyn dechreu sr ei ysgwrio yn y modd a nodwydl uchod. Y ffordd oreu i gaiel llwch, o garped yw ei ddodi ar ddwy raff neu ddwywifren,aiwynebynisaf. Dylaiy rhaffau neu'r gwifrau fod dair neu bedair llath oddi- wrth eu gilydd, rlc yn ddigon uchel oddi- wrth y llawr fel ag i'w eadw rhag ta,ro ynddo. Yna cureily carped ar ei gefn yn unig. Bydd raid sefyll ar gadair i guro y rhanau uchaf ohono. Drwy weithredu yn ol y drefn hon fe syrth y llwch ar y llawr, neu os bydd digon ot awel fe'i in, ehwythir ymaith, heb i ddim ohono syrthio'n ol ar y carped. Wedi darfod euro brwsier wyneb y carped1 ag ysgub garped mewn trefn i gael allan y llwch manaf all fod wedi llechu ynddo. Os byddis yn glanhau carped drwy ef olchi, da, fyddai ei ddodi ar lawr cyn iddo orphen sychu mewn trefn i'w gadw rhag crebacliu, a thrwv hyny fyned1 yn rhy fychan i'r ystafell. I'm tyb i, peth hollol ddiangenrhaid yw carped dros wyneb yr oil o ystafell. Gwell o lawer yw yr ysgwa,riau a, phaentio'r coed oamgylcli yr ystafell yn ol chwaeth "cwraig y tv." Mewn ystafell gysgu, gwell fyddai ei gadael heb garped na, phaent o gwb1.—dim ond y llawr noeth, a hwnw wedi ei ysgwrio hefo "gro gwyn." Wrth gwrs, fe ellid rhoi liain o rywbeth wrth erchwynion y gwely, ac mewn ystafelloedd felly gwell o lawer fyddai peidio rhoddi end gan lleied ag y byddo modd o ddodrefn. mewn trefn i gael digon o le i awyr bur vnddynt. Fel rheol, y mae. bed- rooms tai gwlad a thref yn rhy fychain i neb allu dodi llawer o ddodrefn ynddynt. Nid oes eisieu ond Q-wely dwy gadair a dau fwrdd yn mhob ystafell.

A DFl ICIOUS BfVERAOE

[No title]