Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
8 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
8 erthygl ar y dudalen hon
MY LORD LIFFORP
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
MY LORD LIFFORP Dro byr yn ol yr oedd trafaeliwr mewn sebon meddal yn dyciiwelyd i orsaf ffordd haiam i fyned ymaith gyda'r tren, end cyn iddo allu cyrhaedd y banlawr yr oedd y tren yn cychwyn. Rbedodd "bonwr y ffordd" a gwa,eddodd yn groch, "stopiwch y tren! Y mae Lord Lifford yn dyfod." Ufuddhaodd y gard yn y fan; a dygodd y tren yn ol amryw latheni mewn trefn i'w arglwyd'diaeth gael lie cyfieus i fyned iddo. Yn y cyfamser, yr oed'd y trafaeliwr wedi cael ei docyn a chymeryd ei le mewn cerbyd o'r trydydd dosparth, Rhoes ei ben allan a dywedodd wrth swyddog oedd gerllaw "Mae Lord Lifford wedi myned i mewn, yn awl: chwi ellweh symud yn mlaen." Pe buasai marsiandwr hen ga,dachau a hen esgyrn yn lie Lord Lifford, ni fuasai y gard yn cymeryd arno ei glywed yn gofyn ffafr o'r fath natur. ..i"
FFYNNON ELAETH
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
FFYNNON ELAETH Hen sant duwiol iawn oedd Elaeth ap Meurig Idno. Yr oedd ef yn "nilodeu ei ddyddiau" o'r flwyddyn 640 i 700, ac mewn rhai ysgrifau fe'i gelwir "Elaeth Frenhin." Yn ol arferiad y blynyddau tywyllion hyny yr oedd ffynnon wedi ei chysegru iddo, ac yr oeddl ei satle yn rhywle rhwng Gwredog, Amlwch, a'r Werthyr,,a .gelwid hi "Ffynnon Elaeth. Yr oedd. hi mewn bri mawr yn yr oesoedd tywyll, a gwnai rhai oedd a'i gofal hi arnynt yn gwneyd dw mawr oddi- wrthi, drwy gymeryd arnynt eu bod yn gallu dlewinio. Cyrchai pobl at y ffynnon o bob gw-lad yn Nghymru. Cedwid llysywen ynddi, a. ehy- merai ceidwaid y ffynnon arnynt roddi barn ar yr achosion ddeuent o dan sylw, yn ol ystum a fyddai ar y llysywen pan ymddangosai gyntaf i'r ymofynwyr. Ymguddiai y creadur weithiau am rai dyddiau, a byddai raid i'r ymofynwyr, o ba le bynag y byddent, aros yno hyd nes y gwnelai ei hymddangosiad. Bigon naturiol yw credu y cuddid' yr yslywen gan y dewiniaid mewn trefn i gadw pobl yn y lie mewn trefn iddynfr wneyd elw oddiwrthynt drwy roddi bwyd a llety iddynt. Diolch la,wer fod y gred yn "Ffynnon Elaeth" a'i dewiniaid erbyn hyn wedi eu rhifo yn mysg llawer ereill o hen ofergoelion a gladdwyd er's llawer dydd weithian. i ■ n II
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Robet Robets Mi ddieyda i ti, Robin; faswn i ddim yn cymyd can' punt am y babi yma. Robin Gribwr Tydw i ddim yn meddwl y temtir di byth i'w cymyd nh.w Zorobabel Dafydd Does dim un ddynas allan o fil yn priodi y dyn sydd1 ami eisieu. Huwcyn Ty Fry Does arni. ddim eisieu priodi y dyn sydd ami eisieu ond eisieu priodi dyn sydd ar rhyw ddynas arall eisieu. Miiss Parri: Mae yn wir ddrwg gen i eich siomi, ond alia i byth fod yn fw yna —— Eos Cwmceiliog Dyna hi eto, fel arfar, a gin inna. ddwy nain yn barod. y mm Y Barbwr: Fuoch chi yn cael eichl eillio yma, o'rblaen? Y Dyn Dyeithr Do unwaith. Y Barbwr: Wel tydw i ddim yn adnabod eich gwynab chi. Y Dyn Dyeithr 0, mae o wedi mendio rwan.
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
tSS E HBBM BHmB a HMNt PHOSFERINE Y mwyaf o'r holl Tonics. a Hwn ydyw y Tonic mwyaf galluog ac adgryfhaol at y Giau y gwyddys am dano. Symmuda iselder meddyliol, diffyg nerth, a Gallu Gi'euol. Medda ar deithi hynod i roddi Iechyd, Nerth, Ymroad, ac yni ieuengctyd. Y mae yn feddyginiaeth sicr tuag at Boen yn y Giau, Diffyg Treuliad, Nerfus, Diffyg Gwaed, Ymeuydd Lluddedig, Iselder Ysbryd, Gwaed Sal, Y Gymmalwst, Methu Cysgu, Diffyg Treuliad, Anwydwst, Cur mewn Pen Nerfus,! Gwendid, a'r holl annhrefnau eraill dilynol i ddarostyngiad y cynllun nerfol. r Ni chafodd un feddyginiaeth arall y fath brawf pendant o'r deithi anghyffredin mewn adfer cyfansoddiadan chwilfriwiedig, ac i roddi yn ol i'r oedranus anamserol, Fywyd Newydd ac Yni.. ARCHEBION BRENHINOL. Y mae y Phosferine yn meddu yr anrhydedd enwog o fod wedi cael ei gyflenwi trwy archebion i AELODAU O'R TEULU BRENHINOL PRYDEINIG. H.I.M. Ymherodres Rwssia. H.I.H. Yr uchel Dduces Olga o Rwssia. H.M. Brenin Groeg. H.R.H. Tywysoges Goronog Roumania. H.M. Brenhines Roumania. H.I.H. Yr uchel Dduces Serge o Rwssia. H.I.M. Ymherodres Waddolog Rwssia. H.R.H. Yr uchel Dduces o Hesse. H.S.H. Tywysoges Etifeddol heiningen. H.I.H. Yr uchel Dduces Xenia o Rwssia. A phrif deuluoedd Brenhinol ac Aristocratiaid y Byd. • Perchenogion, ASHTON & PARSONS, Cyf, 17, Farringdon Road, London, E.G. Potelau IIIi, 2/9 a 4/6 yn rhad trwy y post am 1/3, 3/- a 4/9 Gwerthir gan holl' 2 fferyllwyr, ystorfeydd, &c. Cynnwysa yr un 2/9 agos bedair gwaithyr un am I/I £
CWERS AR GYNNILPEB------
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
CWERS AR GYNNILPEB "Machgen i," meddai lien wr yn garedig, fel y gwthiai ei drwvn drwy ddrws y parlwr cefn oddeutu un ar ddeg o'r gloch y nos, lie yr oedd ei fab-yn-nghyfraith dyfbdol, Harri, yn caru ei ferch wrth oliu nwy yn ei lawn nerth, "A ydych chwi'n gwybod fod y lleuad yn oleu iawn? Troes y nwy allan, a dywedodd wrtho, edrychwch allan pu mor oleu ydyw 'haul Huw Owen,' ac fel mae ei phelydrau melynion yn goleuo'r ystafell. Mae hi'n ardderchog. Ond dowch gyda- mi i'r seler, am fynyd—y mae genyf eisieu galw eich sylw at rywbeth." Dilynodd y carwr ieuanc yr hen fon- eddwr i'r seler, lie y dywedodd wrtho "Yr wyf yn gwybod yn dda, Harri, eich bod chwi'n caru Jennie o'ch calon, ac nid oes genyf wrtliwyneb- iad i chwi ddyfod i'w gweled bob tro y bydd digon o oleuni y lloer. A welwch chwi wyneb y cloc bychan yna? Bob tro bydd y bys wedi myned oamgylch hwna, bydd, hyny'n golygu 6s 4c o 'arian gwynion gwawr.' Yn awr, chwi eliwch fyned yn, ol at Jennie, a gwnewch y goreu a, o oleuni y lleuad. Nosdaweh i chwi." Aeth yr hen wr i'w wely'n dawel ar hyd y grisiau y cefn ac aeth yntau, Harri, i orphen ei garwriaeth am. y noson wrth oleu can y lloer, a dichon fod y wers a gawsai ar gynnildeb wedi bod o wertli, mawr iddo ar ol iddo ef a Jennie ddyfod yn wr ac yn wraig. <
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Calon y fanx yw ysgol y plentyn.
A WNEIR » FFWrfPP A' R Ol
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
A WNEIR » FFWrfPP A' R Ol Nid oes llawer o amser wedi pasio er lit-z yr; oedd ffyrlingod mewn. cylchrediad cyffredinol n ein gwlad; ond erbyn hyn nid ydynt i'w "weled ar fyrddau ein masnachdai ond mewn ychydig iawn o fanau. Gwir fod rhai o'r drapers vn nodi eu nwyddau yn hyn a hyn a, ffyrling y Hath, ond-- pan a rhywun i mewn i brynu llathan o'r eyfryw nwydd, buan y ceir ar ddeall na, bydd y mas- nachwr yn delio mewn ffyrlingod. On, pa. beth yw yr achos fod ffyrlingod wedi myned allan o gylclirediad mor gyffredinol? Yr yi TIT? yn meddwl mai v gwir achos o hyny yw cyfoeth y wlad ac y daw amser pan y bydd dimtnau hefyd yn brinion. Hyny yw, os a, cyfoeth y wlad rhagddo am ychydig o flynyddau fel y mae wedi bod yn myned am y deugain mlynedd di- weddaf. Yr oedd yr hen bobl yn gweled mwy o. wertli mewn ffyrling nag a wela pobl yr oes hon mewn ceiniog, ac mae'n sicr ein bod ni yn bre-. sennol yn gweled mwy o werth mewn dimeu nag a wel yr oes nesaf mewn pisin tail' ceiniog o ganlyniad, naturiol fydd i'r ddimeu, hithau fyned yr un ffordd a'r ffyrling, a.c arwydd dda fyddi hyny'n ddiau. Pwnc arall ydyw, a: fydd pobl yr oes nesaf yn hapusach eu byd na ni yn yr oes ho-n--oes y dimeuau. r-
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Y mae; Canada yn cyflellwi oddeutu, un rhan 0 bedair arddego ymborth i Brvdain Fawy.