Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

10 erthygl ar y dudalen hon

Barddoniaeth. ------—

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Barddoniaeth. — Bydded i'r Beirdd a'r Llenorion cyfeirio eu 4tynyrohion fel hyn: — T. DARONWY ISAAC, Treorky. Y FANTOL. "Gwywodd fel y Lili."—Dyma linellau tyner, fiwynol, a naturiol fel y lili. "Can Briodaso1. "-Cerdd ganmoladwy. "Bechgyn Ebenezer."—Cyhoeddir y penillion hyn er cefnogaeth i'r awdwr; os mai ieuanc ydyw nid ydyw yn anmhosibl nas gellir gwneyd bardd o hono, ond rhaid iddo feistroli yr orgraff i ddeehreu. "Penillion Caffadwriaetliol.Penillion llith- rig a theimladwy. "Yr Ysgol Sabbothol. "-Llinellau pwrpasol, ac mor newydd ag y gallesid dysgwyl ar hen ilestyn. Yr wythnos nesaf bydd genym yr hyfrydwcb 0 gyflwyno i'n darllenwyr riangerdd odidog, set "Gwenonwy o lan Ogwy," gan Tawenog. CAN BRIODASOL Drydanol newydd-newydd glan Ges ar foreuddydd lawn o swyn, Fod Thomas Johns a'i gariad fwyn Yn awr am oes yn ddiwahan. Lled-amheu wnes, gan ysgwyd pen, Gan ddweyd, na, d'wedai Tom o hyd, Nad oedd gwir gariad yn y byd Ond rhwng yr adar ar y pren. Ond gwir bob gair o'r newydd gwyn, Fe'i daliwyd ef gan 'storom serch, Fe'i clwyfwyd, do, gan wenau merch, Tra'r haul yn gwenu ar y bryn. I Aberaeron mynych aeth, ( A'i "fron yn dan" at lan y lli, Rhyw dro i'r byw trywanwyd hi Pan welodd Mary ar y traeth. Biiaid oedd cael 'sgwrs, a buan gwnaed Gytundeb er cael "walk" yn nghyd; Yn murmur mor, dau hardda'r byd Y blodau wrident dan eu traed. Prydferthwch bon, a'i hosgo hardd, A daniai'i enaid hyd y byw; Nid rhyfedd wir, nid syndod yw Ei fod ar brydiau'n troi yn fardd-. j Drwy holl Forganwg nid oedd uh, Wnai'r tro yn wraig yn wir i Tom; Tra Mary liitliau roes bob siom I bawb ond Tom, ei hangel-ddyn. Hir oes a thangnef byth i chwi, Bendithion hefyd yn ystor, Dylifed rhai'n fel tonau'r mor, A llu o blant i gadw'ch bri. Myfyr Dyfed. f TR YSGOL SUL. Ein hysgol hoff Sabbothol, Un odiaeth ydyw hi, Fel gwanwyn gwyrdd adfywiol Ar len y byd i ni; JkTae'i rhiniau mor odidog- Anfarwol eu parhat- Ein dysgu mae pa fodd i fyw- Y ffordd i'r hyfryd wlad. Yr "athrawiaethau rhyfedd" Oedd "gudd" i'r opsau fa, Eglurir yn ddigamwedd Gan ein angyles gu! Mor syml y desgrifia Linellau "od" y daith, Gan roi llawenydd yn ein bron A nerth yn ol y gwaith. Byd hon bu'n teidiau'n dringo O'u mebyd hyd eu hoes; Hyd Eafon "bryn y puro"- Hyd "risiau gwawl" y groes! Bin "ysgol rydd" oreuaf, Anwylaf Gymru wen; It Boed nawdol ein Naf yn aros byth Fel enfys uwch ei phen. Pent re. W. Glyndwr HoweU. PENILLION COFFADWRIAETHOL •AJU Mrs Rachel Higgon, Pontlottyn, anwyl briod Mr David Higgon, yr hon a hunodd yn yr Iesu, Chwefror 15fed, 1898, yn 71 mlwydd oed. O! Seion, na wyla, sych ymaith dy ddagrau, Wnaeth angeu ond datod ei rhwymau yn rhydd; E: iddi gael myned i'r dedwydd drigfanau, Fry at ei thrysorau gan Iesu hltrdd sydd; Dych'mygaf ei gweled hi yno yn derbyn Y goron, y delyn, y palmwydd, a'r wledd, A myrdd o anrhegion diderfyn yn canlyn, Mewn bythol lawenydd a moroedd o hedd. Ond er iddi fyned i wlad y telynau, Uwchlaw i gystuddiau a thrallod a cham, Hipaethus yw Seion a gwelw ei gruddiau Wrth deithio yr anial 'rol colli ei mam; Aroglu yn hyfryd mae Uwybrau ei bywyd, O'i bedydd i'w beddrod fel enaint nard drud, 0 flodau rhinweddau ein chwaer a wasgarwyd, I ni sy'n hyfrydwch wrth deithio trwy'r byd. Wrth edrych ar fywyd ein cliwaer daw adgofion Am droion ei gyrfa tra yma yn byw, H5 ydoedd yn llusern ddisglaerwych yn Seion, Yn llewyrch ei goleu daeth 11awer at Dduw; Os gwag yw'r eisteddle lie bu yn addoli, Daw adsain ei gweddi, ei moliant, i Dduw, Bi "Amen" gynhesol a'i diolch i'r Iesu, Er iddi hi dewi, yn swynol i'm elyw. Fe gollwyd, do, ffyddlon ymwelydd y cleifion, Un dyner ei chalon, dros ddyn gwnaeth ei rhan, Fel ffynon risialaidd bwriymodd gysuron, A'i ffrydiau lilasant er lleddfu y gwan; Un ydoedd a rodiodd hardd lwybrau yr lesu, Gan wneuthur daioni nes myned i'r bedd, Rhy deneu yw'r pridd sydd yn amdo am dani I atal fy ngolwg rhag gweled ei gwedd. 0% mawr oedd y golled i'r ardal ei eholli, I'w phnod hoff Higgon bu'r golled yn fwy, Fa frathwyd teimladau Uu oedd yn ei charu, Ond calon ein gwron dderbyniodd y clwy'; Pum' deg bron o flwyddi bu'r ddau yn cyd- deithio Yr anial heb lifchro, a'i gwisgoedd yn Ian, Br lyned eu cariad rhaid ydoedd ffarwelio Ar lan yr hen afon am Ganaan a'i chan. 0! Dad holl gysuron, cysura'n brawd "Higgon," Sydd yma mewn dagrau a'i galon yn friw, Tn weddw ac unig, yn myd y treialon, Bydd wrtho yn dirion tra yma yn byw; A phan ddelo'r adeg i'r gwron i groesi Er myn'd i gydoesi a'i gydmhar hardd draw, Yn rhydiau'r Iorddonen bydd iddo'n oleuni, Yn ymchwydd ei thonau lio iddo Dy law. Pontlottyn. Richard Roberts. GWYWODD FEL Y LILI. Lili ieuanc yn yr ard3 Welwyd yn sirioli, Gwywo wnaeth ei phlygion hardd Pan yn dechreu gwenu; Daeth rhyw gorwynt gyda'r nos Chwythodd arni'n arw- Brifwyd bron y liE dlos, gwelwjd bi zg aarw, Geneth dyner, ddeunaw oed, Gerais yn fy nghalon; Ni fu neb mwy pur erioed- Welwyd neb mwy tirion; O! 'roedd glesni'i llygaid iach Beunydd yn fy noni, Ond cur ddaeth i'w chalon fach- Gwywodtl fed y lili. Ciliodd heddwch pur fy mron, Collais wynfyd sanctaidd Grewyd gynt, y tymhor lion Gan ei gwen garuaidd; Gwelais hon dan amdo gwyn, Gwyliais ei chynhebrwng; Metha'm calon byth er hyn Garu neb mor deilwng. Ton, Pentre. Cenech. BECHGYN EBENEZER, TYLORSTOWN. Fechgyn lion, fy hoff gyfeillion, Awn yn mlaen trwy'r rhwystrau'i gyd, Awn yn mlaen, cymerwn galon, Dyfal ydyw teithio'r byd Os oes chwerw droion ynddo, Os oes temptasiynau mawr, Awn yn mlaen, awn yn dai-ildio Codi wnawn o lwch y llawr. Os ydych chwi yn hoff o ganu, Cofiwch, fechgyn Cymru wen, Peidiwch byth a'i roddi fyny, Bydded bendith ar eich pen; Gwlad y gan yw Cymru fechgyn, Gwlad llenorion gwych yw hi; G'.vltd y beirdd yw hefyd, fechgyn, Awn yn mlaen, yn mlaen awn ni. Os am fod yn gewri cedyrn, Daliwch ati, fechgyn lion, Cofiwch fod 'ma lawer gelyn Yn lloehesu'n y ddaear hon; Cawr o elyn yw y dafarn, Byddwch yn ddirwestwyr cryf, Os gwrthodwch ddiod gadarn Buddugoliaeth i chwi fydd. Yn y gwaith ac mewn addoldy Byddwch yn grefyddwyr cryf, Daliwch ati i ddatganu, Dewch yn gewri'r wlad rhyw ddydd; Chwi sy'n hoffi cael datganu, Byddwch o gymeriad pur, Daliwch ati'n ffyddlon felly, Dyma'r rfi-eol ddeil ei thir. Tylorstown. G. Iorwerth.

----------------------Colofn…

_-----------_------Love to…

Pontypridd Church Sunday School…

Advertising

GRANOLITHIC OR NATIVE STONE?

Advertising

----LOCAL PATENTS.

The Distress. »

Advertising