Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

19 erthygl ar y dudalen hon

l--' Barddoniaetti. ♦

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

l Barddoniaetti. ♦ Bydded i'r Beirdd a'r Llenorion cyfeirio en tynyrotion fel byu: T. DARONWY ISAAC, Treorky. MYNWCH Y DAEAR YN OL. Morwynion a gweision ein gwlad, Amaethwyr a gweithwyr pob sir, Ymunwch a'ch gilydd bob un, Yn erbyn ysbeilwyr y tir; Mae'r ddaear yn perthyn i ohwi, Eich llafur roes werth ar bob dol- Tynghedwch pob gradd a phob ced Y mynwcb y ddaear yn ol. Chwarelwyr a glowyr bob un, Pob teiliwr a chlocsiwr a chrydd, Pob morwr a siopwr a seer, Pob eilliwr a nyddwr a gwydd; Ymunwcb a'ch gilydd bob un I bawlio pob mynydd a dol, A thyngwch ar allor eich nerth Y mynwch y ddaear yn ol. Paham y llafuriwch y tir I ereiil gael medi ei ffrwyth? Pa'm gweithiwch o foreu hyd hwyr A rbent ar eich gwarau fel llwyth? A chwithau mewn nifer mor fawr, Paham y gweithredwch mor ffol? Yn lie cydymuno bob un > I fynu y ddaear yn ol? Na,&r ddaear yn perthyn i bawb, A'i golud yn rhan i bob un; Fel awyr, goleuni, a dwr, Angenrhaid bodolaeth bob dyn; Dangoswch, Frythoniaid, i'r byd, Nad ydych yn llwfr nac yn ff ol- Ymunwcb i gyd fel un gwr A mynwch y ddaear yn ol. R. J. Derfel. GWEDDI GWAITH. 'Roedd Hywel mewn cyfyngder mawr I Bron marw eisieu ymborth; Ac yn ei boen o awr i awr Gweddia am gael eymborth; Ond er gweithio'n ami a thaer Mewn cyflwr gwir druenus, Bu farw yn ei warth a'i wae A gweddi ar ei wefua Gweddiei heb ymdrechu dim I enill gwaredigaeth- Dysgwyliai ateb oddifry, Heb wneuthur un gwasanaeth; Ond ni ddaeth ateb byth i lawr, A'r truan wr fu farw- Yn Her mae pawb yn gwybod mai Gweddiwr gwael oedd hwnw. 'Roedd eisieu bwyd ar Rbys ei frawd Mor fawr ag eisieu Hywel; Ond ni ddaeth deiseb dros ei fant, Mewn geiriau gweigion uebel; Yn hytrach brysiodd yn y fan I geisio gwaredigaeth- Ac ni ddiffgiodd nes y ca'dd Ddigonedd mewn gwasanaetb. Gweddiodd Rhys mewn buddiol waith, Gwetidiodd mewn gwasanaeth- Ymdrechodd heb ddiffygio dim Nes cafodd waredigaeth; Cynorthwy braich a gweddi gwaiiir A'i cadwodd ef rhag marw— Yn sicr mae pawb yn gwybod mai Gweddiwr iawn oedd hwnw. Y dyn a gwyd ar doriad gwawr I aru a gwrteithio, 0 ddydd i ddydd yn tldiau sydd Mewn sylwedd yn gweddio; A dweyd y gwir mae gwcithred bur Yn erfyn hwyr a borau A gwyr pob un mae diwyd ddyn Sydd yn gweddio orau. Ymdrechion gyda rhwystrau fil Er mwyn y wraig a'r teulu, Esgynant yn weddiau taer Am fodd i'w hanrhydeddu; Os rhaid cael gweddi nos a dydd, I ddal dan orthrymderau- Ochenaid braich a gweddi gwaith Yn sicr yw'r weddi orau. R. J. Derfel. PAN YN CYSGU. Pan yn cysgu mae'r lluddedig, Ar ol caled waith y dydd, Yn gorphwyso'i gorff blinedig, O'i helbulon oil yn rhydd; Daw tawelwch idd ei giau, A'i holl nerth yn ol a ddaw, A chymwysir ef yn ddiau, I'r yfory sydd gerllaw. ■ Pan yn cysgu, mae'r angenus Sy'n ddisylw gan y byd, Yn anghofio'i stad druenus, Ac yn teimlo ar y pryd Mor gysurue ag yw lluoedd 0 rai ffodus a di-fraw Sydd.yn meddu tai a thiroedd, A miliynau wrth eu llaw. Pan y bydd y corff yn cysgu, Heb ei olwg ac heb glyw, Mae breuddwydion yn ein dysgu Fod yr ysbryd rhydd yn fyw; Weithiau gwelwn hen gyfeiliion Nad y'nt ar y ddaear mwy, A bydd genym ymddyddanion Eithaf difyr gyda hwy. Pan yn cysgu, mae breuddwydion Yn agoryd i ni ddrws 1 ryw fyd o ddychyinygion, Weitbiau'n erch ec weithiau'n dlws; Synwyr cryf yn gymysgedig A'r ffolineb mwyaf gawn, Fel nas gall y gwir ddysgedig Roi i ni esboniad llawn. Pan yn cysgu, nid yw amser Am un enyd yn ymdroi; Tra'n mwynhau ein cwsg mewn pleser Mae yr oriau'n cyflym ffoi; Gwrando arnaf fl., gydymaith, Bydd yn ddiwyd tra'n ddihun, Gan fod cwsg yn cipio ymalth Gyfran fawr o amser dyn. J. D. Morgan.

--I■ljw Colofn y Cymry. -------

----------PONTYPRIDD SCHOOL…

Sheffield Gratitude. «.

Pontypridd, Newport, and Caerphilly.I

Advertising

) STRIKES IN THE COAL TRADE.

CLERGYMAN CHARGED WITH CRUELTY…

A FAMOUS POLICE OFFICER.

"THE TRUCE OF THE BEAR."

HIGHWAYMAN ON ASCOT HKATH.

ESCAPE FROM PENTONVILLE PRISON.

THE IRISH PARLIAMENTARY PARTIES.

DANGEROUS TRADES.

A SWISS FRONTIER INCIDENT.

THE QUARTER'S REVENUE.

[No title]

MOUNTAIN ASH.!

Advertising