Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

8 erthygl ar y dudalen hon

p•:—■ Barddoniaeth.

The Danger after Influenza.…

I UNDEB CLOWYR DEHEUDIR CYMRU.…

Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu

UNDEB CLOWYR DEHEUDIR CYMRU. + — Rheolau Cyffredinol Dosbarthol a Chyfrinfaol. i <> WEDI EU CYFIETHU I'R GYMRAEG GAN DARONWY. ENW. l.-Gelwir y Gymdeithas yn "Undeb Glowyr Deheudir Cymru." Swyddfa Gofrestredig, Y Rise, Beaufort, Mon. CYFANSODDIAD. 2. Cyfansoddir yr Undeb hwn o bersonau a gyfiogir yn, ac o amgylch y glofeydd a gyf- ansoddant Lofaes Debeudir Cymru. AMCANION. I. I ddarparu trysorfeydd trwy flaendaliadau, cyfraniadau, arddodiadau, rhoddion, a di- rwyon, er dwyn yn mlaen waith yr Undeb yn yr amcanion a nodir yn olynol, y cvfryw i gael eu rhanu fel y darperir yn y Rheolau canlynol. II. I gymeryd i ystyriaeth y nvneiau o fasnach a chyflogau, ac i amddiffyn gweithwyr yn gyffredinol. III. I geiaio ac i sicrhau deddfwrlaeth fwn- gloddiol a lesola yr lioll weithwyr cyssyllt- icdig a'r Undeb hwn. IV. I alw cynhadleddau i ymwneud a phynciau a effeithiant ar y gweithwyr mewn ystyr fasnachol, cyflogau, a deddfwriaethol. V. I geisio sicrhau trwy ddeddfwriaeth leiload oriau llafur yn y glofeydd i Wyth Awr o Faes i ac i wrtliwj-nebu y gyfundrcfn o Ddwbl Shift, oddieithr lie bydd yn anheb- gorol angenrheidiol i ddybenion awyrol. VI. I ymwneyd ao i wylio yr boll drenglioL iallau ar bersonau a leddir yn y glofeydd, a phen y Hedtlir mwy na tJiri pherson gan mi ddamwain, telir y treuliau gan yr Undeb Cyffredinol; ac i geisio sicrhau iawndal am bob miweidiau a achosir gan ddamweiniau yn, ae o amgylch y glofeydd. VII. I ddarparu tal wythnosol er cj-northwyo ¡ aelodau a ddygwyddant gael eu herlid, eu cloi allan, neu yn sefyll allan, an i wrthwyn- ebu unrhyw reoleiddiad annghyfiawn cys- sylltiedig a'u galwedigaeth. VIII. I rwvstro ataliadau annghyfrcithlawn yn y Dal-Swyddfa. IX. I gynorthwyo ac i ymnno a cbyffelyb Gymdeit-hasau a fyddant o'r un amcanion fel y iiodir yn olynol. X I geisio trwy bob moddion cyfreithlawn i sicrhau dilead is-gymcriadaeth yn y glofeydd. CYFRANDALIADAU. —Bydd i bob aelod o'r Undeb hwn i dalu dim llai nag un swllt yn fisol neu chwecheiniog yn bythefnosol. Gall bechgyn dros 12 mlwydd oed a than 16 fod yn haner aelodau, trwy dalu haner y eyfrandaliadau a derbyn haner y budd- iantau. Bydd i haner yr boll gyfrandaliadau a delir gael eu hanfon gan Drysorydd y Dos- barth i'r Trysorydd Cyffredinol bob pedair wythnos. OL-DDYLEDION AELODAU. 5.—Unrhyw aelod a fydd mewn dyled o bed- war tal bythefnosol a gyll ei bawl i bob budd; bydd y rheol hon yn gyfaddasedig mor fuan ag ybydd i Ysgrifenydd y Gyfrinfa i gau ei gyfrifon cvr ol y pedwerydd taliad bythefnosol. Ond os bydd i'r aelod ar unrhyw amser dalu i fyny ei ol-ddyledion, bydd mewn hawl i fudd ar derfyniad un mis ar ol iddo dalu y cyfryw Ci-ddyledion. Caiff aeloaau a fyddant yn glat am ddim Ilai nag un mis o amser eu rhyddhau o'r tal yn ystod eu cystudd ar gyflwyniad tyst- ysgrif meddyg profcdig. Hefyd mewn achos- ion o segurdod gorfodol, ar gyflwyniad tystiol- aeth o'r cyfryw amgylchiadau. SYMUDIAD AELODAU. 6.—Pan y symuda aelod o un lofa i lofa arall o fewn cylch yr Undeb hwn, bydd iddo ar gyflwyniad ei docyn trwyddedol a thalu y cyfrandaliad gofynedig ar y pryd, gael ei ys- tyried yn gyflawn aelod yn y gyfrinfa gysylIL iedig a'r lofa i ba un y symuda iddi. GOFYNION DOSBARTHOL. 7.-Bydd i bob Dosbarth gynal pump y cant o'u haelodau mewn achosion o annghydweled- iad, ond pan fydd y nifer dros bump y cant, cyoolir yr holl nifer a effeithir gan y Drysor- f j, Ganolog. 8.—-Ni fydd i'r Undeb i ymgymeryd a'r cyf- rifoldeb o safiad allan o unrhyw faintioli beth bynag,, nac mewn unrhyw fodd ddarparu na gwneyd unrhyw drefniadau i gynorthwyo yn arianol y rhai a fyddant allan, oni fydd i achos yr annghydwelcdiad yn gyntaf i gael ei osod Y-1 rheolaidd o flaen y Cyngbor Gweithredol neu Gynhadledd, a'i ddadleu yn drwyadl oddi- ar egwvddorion cyfiawn. Gwneir eithriadau mewn achosion cyfyngol, megys pan y bydd i'r cyflogwyr i roddi rhybuddion neu dori un- rbyw gytundeb. LLYWODRIAD AC ETHOLIAD SWYDD- OGION. 9.-Bydd i'r Undeb gael ei lywodraethu gan Lywydd, Is-Lywydd, Trysorydd, ac Ysgrifen- ydd. wedi eu cynyg gan y Cyfrinfaoedd a'u hethol gan y Gynliadledd Flynyddol, a Chy- nghor G.veithredol, pa rai delir y cyfryw gyf- logau ac a benderfynir o bryd i bi-yd gan y Gynhadledd, ac a etholir fel y canlyn: Bydd gar. bob Dosbarth yn rhifo 3,000 o aelodau hawl i un cynrychiolydd ar y Cynghor, a Chy- nrcyhiolydd ychwanegol am bob 6,000 ychwan- ego) o aelodau. Gall Dosburttuadau bychain ymuno i'r dyben o sicrhau cynrychiolaeth.Bydd Y'l rhaid i'r cynygion am y swyddi o Lywydd, Is-Lywydd, Trysorydd, ac Ysgrifanydd fod yn nwylaw yr Ysgrifenydd Cyffredinol 21 o ddydd- iai cyn dyddiad y Gynhodledd Flynyddol, a chant eu hargraffu ar y Rhaglen a anfonir i'r Cyfrinfaoedd. DYLEDSWYDDAU Y CYNGHOR GWEITHREDOL. lo.—DyledswydcTau y Cynghor Gweithredol fydd i gynal cyfarfodydd ar y fath amsemu ac 3,n y llecedd ag y barnant fwyaf cyfleus; ystjTied pob awgrymiadau er llesoli y gweith- wyr; dadleu ac ymdrechu cywiro unrhyw fater t'wystg neu achwyniadau a. ddygir ger eu bron o unrhyw Ddosbarth, a bydd iddynt, wedi ystyried pob annghydwelediad, gael gallu i god, trwy arddodiad ar aelodau yr Undeb y fath swm neu symiau ag a fydd yn ofynol i gjfarfod ag angenrheidiau y cyfryw annghyd- welediad. Bydd iddynt hefyd barotoi y Rhag. len a'r Adroddiad i'r Gynhadledd Flynyddol, a chant allu i amrj-wio swm y blaendal i'w dalu gan bersonau a ymunant a Chyfrinfaoedd yr Undeb o bryd i bryd, ond nid i dori y Cyfan- soddiad presenol. Cant aUu i orchymyn fod boll oLddyledion aelodau i Gyfrinfaoedd, Cyf- rinfaoedd i'r Dosbarthiadau, a'r Dosbarthiodau ^r Undeb, i gael eu talu i fyny ar y dyddiadau !■ nodir. Unrhyw achos o annghydwelediad a all gyfodi cydrhwng aelodau o'r Undeb, a'r nas darperir ar ei gyfer yn y Rheolau hyn, a ben- derfynir gan y Cynghor, a bydd en dyfarniad yn derfyaol a rLwymedig yQ mbob rhyw acbos or fath. Bydd iddynt gael p-allu i benodi Ynicliwilwyr Neillduol i archwilio llyfrau a chyfrifon pob Dosbarth. Bydd ganddynt allu i egluro ystyr unrhyw Reol amheus, a bydd dyfarniad y Cynghor Gweithredol yn rhwym- edig ar aelodau y Dosbarth, oddieithr i apel yn erbyn y dyfarniad i gael ei wneyd a'i gyf- Iwyno i farn y Gynhadledd Flynyddol. Bydd iddynt gael galTu hefyd i wneyd Is-reolau a tbrefnidau sefydlog i lywodraethu yr Undeb, y cyfryw Is-reolau a threfniadau sefydlog i pael eu cymeradwyo gan GjTihadledd Flyn- yddol cyn eu gcsod mewn grym. DYLEDSWYDDAU Y LLYWYDDION. 11.— Dyledswyddau y Llywyddion fydd llyw- yddu yn holl gyfarfodydd y Cynghor a'r Cyf- arfodydd Cyffredinol. i weled fod pob gwaith yn cael ei ddwyn o ffaen y cyfarfod mewn modd priodol, ac mewn cydgordiad a'r Rheolau, ac i welcd fod y Rheolau yn cael sylw a'u cario allan yn mhob peth. Bydd i'r Is-Lywydd bob amser gynorthwyo y Llywydd, ac yn ei absen- oldcb gymeryc1 ei le. Bydd i'r Llywydd gael pleidlais derfynol pan fydd y pleidleisiau yn gyfartal. Bydd iddo barhau yn aelod o'r Un- deb. DYLEDSWYDDAU Y TRYSORYDD CYFFREDINOL. 12.—Dyledswydd y Trysorydd Cyffredinol fydd talu pob arian fel ei cyfarwyddir gan y Cynghor Gweithredol ac ar orchj-myn yr Ysg- rifeiLydd Cyffredinol; ond ni cha y swm yn Haw y Trysorydd Cyífredinol un amser fod uwclilaw 50 punt, am ba swm y bydd iddo roddi y sicrwydd a ofynir gan y Cynghor Gweith- redol. Bydd iddo gadw cyfrif cywir o'r holl arian a dderbynir ac a delir ganddo, mewn ffui-f briodol mewn arian-lyfr. Penodir ei dal neu ei gyflog gan y Gynliadledd Flynyddol. Bydd iddo roddi neu (Iderbyn tri mis o rybudd cyn gadael ei safle fel Trysorydd, a rhoddi i fray bob arian, llyfrau, ac ysgrifau, neu un- rhyw eiddo trall perthynol i'r Undeb, i'r Ym- ddiriedolrwjT cyn yr a allan o'i swydd. Bydd Trysorydd Cyffredinol i barhau yn aelod o'r Undeb, a bydd iddo fynyolni yr holl gyfarfod- ydd, a derbyn a thalu pob arian perthynol i'r Undeb. Ni fydd iddo o dan unrhyw amgylch- iadau dalu, rliotkli bentliyg, neu gyfaddasu trysorfeydd yr Undeb i unrhyw aelod, neu at unrhyw achos na phwrpas beth bynag. odd;- eithr i'r cyfryw fod yn gydfynedol a Rheolau, Penderfyniadau, neu Gofnodiadau yr Undeb; ac ni wneir taliadau o unrhyw arian ganddo, heb yn gyniaf dderbyn archob i'r perwyl hyny wedi ei harwyddo gan Lywydd ac Ysgrifenydd yr Undeb, a bydd i'r Undeb i ddarparu sel, y cyfryw i gael ei gosod wrth bob archcb gan y Llywydd am y pryd.

Coiof n y Cyrnry. ---------------

Ynysybwl.

Advertising

i Pontypridd Chainmakers Meeting.

Advertising