Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

-----------__-----------------Presoqtation…

- Barddoniaeth. ♦

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Barddoniaeth. ♦ Bydded i'r Beirdd a'r Llenorion gyfeirio eu synyreiiion fel hyn:- T. DARONWY ISAAC, Treorky. Y FANTOL. "Bydd Ffyddlon.Lled dda pan ystyriwn m'1i yn "fyrfyfyr yn yr Ysgol Sul" y cyfan- soddwyd y llinellau, ond dyna, dywed hen ar- wireb Saesonaeg mai "Goreu y dydd goreu y weithred." "Y Wraig Glecog."—Fflangell lem i wrth- ddrych sydd yn ei haeddu. Mae y cynghan- eddion hefyd yn dda gyda'r eithriad fod ami air heb fod o'r mwyaf pwrpasol yn Ilithro 1 fewn er eu cyfansoddi. BYDD FFYDDLON*. Rhodd o FeibI hardd i Mr Thomas John Har- ris, 22, Syphon Street, Porth,am ei ffyddlondeb fel ysgrifenydd Penny Bank Ysgol Sabbothol Salem, Porth. Bydd ffyddlon, fy nghyfaill, Cei glod gyda ni, "Can cymaint" gogoniant Yw tcrfyn dy fri; Ffyddlondeb wobrwyir Nid talent fawr, gref, Mynegfys ffyddlondeb Gyfeiria i'r nef. Bydd ffyddlon, fy nghyfaill, Bydd ddewr a difraw, Cei nefoedd a choron Yn dal 'rochr draw; Mae'th draed ar y llwybr Arweinia i'r wlad, Y nefoedd drigfanau, Cartrefle dy Dad. Bydd ffyddlon, fy nghyfaill I Feibl ein Duv, Y meddwl trag'wyddol Geir ynddo yn byw; Yn ngwawr ei oleuni Dos byth yn dy flaen, Nes glanio'n ddiogel Yn ngbartref gwyn can. Tywi. *YsgrIfenwyd yr ucbod yn yr Ysgol prydnawn Sul wedi deall fod y cyflwyniad i gymeryd He. GALAREB Am Mr Thomas Jones, Trelewis, a fu yn ddia- con ffyddlon yn Eglwys Trelewis, Morganwg. Y mae Scion yn alarus Ar ol hoff anwyliaid Duw, Yn eu plith oedd Jones Trelewis, Gwnaeth ei oreu tra yn fyw; Yn y winllan bu yn gweithio 0 foreuddydd hyd brydnawn; Ni ddiffygiai wrth niilwrio Nes y cafodd goncwest llawn. Yn y owrdd ac yn yr ysgol, Cadarn oedd yn ngwaith yr lor; Hen dduwinydd y Gair Dwyfol, A'i athrylith fel y mor; Un o'r prif athrawon ydoedd Colled fawr oedd colli hwn, Tristwch sydd trwy'r holl ardaloedd Eglwys lesu dan ei phwn. Diacon dystaw yn yr Eglwys, A'i geryddon oil yn fwyn; Ni fu neb o filwyr Seion Yn fwy tirion wrth yr wyn; Nid i chwilio brychau dynion Ooedd ei neges yn y ty; Ond i ganmol Iesu tirion, Dyna. waith yr hwn a fu. Os 'dyw'r blaenor heddyw'n huno Yn mhriddellau oer y glyn, Mae ei enw yn disglaerio Yn ein plith fel marmor gwyn; Ffarwel, ffarwel, Gristion hawddgar, Rhoest gynghorion lawer cant, Heddyw'n gorwedd yn y ddaear Yn hen fynwent oer y Pant. rontsquire. Brychan. TREVOR MEYRICK, blcdeuyn brydferth Mr a Mrs J. W. Preece, ironmonger, Porth, Rhondda. 'Mlaen y delo Trevor Meyrick I afaelion ffafrau'r byd, Mae ei drem yn rhoi ar unwaith Aneawdd engyl nef yn nghyd; Teg ac aDwyl ydyw Trevor A diniwed yw ei wedd, Iesu, rho dy north i'w arwain Hyd nes cyrhaedd trigfan hedd. Esgyn wnelo Trevor Meyrick Ar adenvdd dedwydd fyd. Ar ei dyner ael mae'n dawnsto Geinder angel sanctaidd bryd; Y mae purdeb a phrydfertbwéh Yn cyfarfod yn ei wedd Diniweidrwydd sy'n cartrefu Gylch ei gryd wiva tyd o hedd. Hyfryd iawn yw'r man disgynodd Dy linynau, faban tlws; Y mae agoriadau'r ddaear Oil yn gorwedd wrth dy ddrws, Gwna dy rhan o'r holl fendithion Er llesoli dynolryw, Ti gei bleser wrth ei wneuthur, A chei barch tra fyddot byw. Hir fo'th oes, yn oes o rinwedd A daioni goreu'u rhyw, Yn hardd esgyn bryn anrhydedd, A gweniadau cryn a Duw; A phan dderfydd iddo gerdded Llwybro bywyd is y nen, Nef y nefoedd iddo bydded, A chei goron Wynfa Wen. Ti-ecynon. T. Rees Garrett (Tom Cynon). CUSAN. I ieuanc lane, diffuant sel Yn dangoa grym ei serch, Yw cusan fel y diliau mel A ddyd ar fin y ferch. Dan gwmwl o ofidiau blin A gorthrymderau siom,. Mae cusan fel neithdaraidd win Yn lloni'r galon drom. Dihalog ddrych y fynwes Iwya Yn adlewyrchu serch, Arwyddlun o deimladan dwys Yw cusan mab neu ferch. Mao cusan cariad ar y fin Fel gwlithyn gloew ter, A rhosyn tlws, adfywiol rin A dardd o'i hanfod h-r. Ar wefus sanctaidd lesu mad Rhoed cusan twyll yn sel. Ffieiddiol, aflan, cusan brad A gwenwyn yn ei fel. Trecynon. Tom Cynon. Y WRAIG GLECOG AC ANYNAD. 0 fewll i ancdd dyma fun hynod, A hon yn eglur sydd un anhyglod; Yn ddwys y boreu a ar ddisberod Heibio i uthredd rhydd ar ba.wb athrod; 0 dy i dy myn'd a dod—fydd ei chais, Halog ei dyfais am ddieflig dafod. Meinwar a selog mae yn hir sylwi, Ymbel a siarad am b-a-yl sorcdi, Bwied o arddwll dywch hi'n baldorddi, Draig enwog ydyw yn mhob drygicni; A thegan i ieithogi-tra nwydawl. Hen gynen nyddawl sy'n Ganaan iddi. Ni bu yn eisiau, gwyr bob Lanesyn, 0 Adda'n helaeth hyd heddyw'n hylyn; Ac o'i maes eilwaith caem bwnc misolyn, Hi rodia dalaeth na ro'w'd i'w dilyn; O'i mynwes tan chwim envn—didolwch, Yn wir, goehelweb, 'nawr rhag ei cholyn. Gelli. Murmurydd.

UNDEB GLOWYR DEHEUDIR CYMRU.…

---------------.----------u,,---Colofii…

--.0— A Cure for Stubborq…

Advertising