Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

15 erthygl ar y dudalen hon

DISGWYL GWAWR.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

DISGWYL GWAWR. Pan dorwyd yr amod hono Seliasom ar Gamfa'r Glyn, Difwynwyd tegwch a chain brydferthwch Paradwys fy nelfryd gwyn. Diflanodd y tangnef hwnw A brofais ar dalar serch; Gwywodd gobeithion a swyn fy nghalon Yn niwloedd amheuon erch. Fe gollais yr hen fwynderau A cherddais 'hyd erwau siom; Aeth llys fy ngwynfyd yn gartre' adfyd, A'm Heden yn fangre lom. Ond sibrwd wnai Gobaith ieuanc Fod eto ryw haf di-loes A glas di-gwmwl, tuhwnt i'r nefwl, I loewi trallodion oes. Hiraethai fy nghalon glwyfus Am wawrddydd y cyfnod mwyn, A'r oriau tirion heb arliw cwynion Ddylenwir a newydd swyn. Os cuddiodd y nos ddigysur Randiroedd fy "Ngwynfa Well," We welaf acw y wawr dry-loew Yn llathru'r mynyddoedd pell. Mae'r nos yn ymdaflu 'i mantell, A'r bore'n dynesu'n glws; Mae gwawr gobeithion delfrydau gwynion Yn gwenu ar drothwy'r drws. Aberdar. DEWI AERON.

Advertising

[No title]

ENGLYN I'R PRIF FARDD GWILI

,I TELYNF AB GWALIA, ABERDAR.

"TEULITR GLEP."

Ebion Golygyddol.

Gain at Ohebwyr.

[No title]

ABERDARE CEMETERY AND | PENDERYN…

- NEW CEMETERY FOR HIRWAIN…

Meeting at Glyn Neath.

[No title]

Advertising

Llafar Gwiad.