Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

19 erthygl ar y dudalen hon

Porth.

Grand Pier, Weston-super-Mare.

---Fell Down the Shaft.

------Beulah, Tyntyla.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Beulah, Tyntyla. Nos Sul, Gorphenaf 18fed, wedi pregeth fer a phwrpasol yn llawn tan, gan y gwr Parchedig Grimths, Llantrisant, cawd cyfarfod brwd a dyddorol ar ymadawiad y Bonwr a'r Parch., y Fones a'r Fonesig, John, Rosina, a Dorothy Davies, i Maen- clochog, Swydd Penfro. Yr oeddent y teulu ffyddlonaf a chysonaf a feddai yr eglwys fach yn Beulah. Ychydig ams-er yn ol collom o'r blaen deulu o'r un nodwedd, sef eiddo y Bonwr Owen Phil- lips, ac yn ddiweddarach na hyny wron digymar yn y Bonwr Dan Evans, C.E., uwch oruchwyliwr y Glamorgan Company am lawer o flynyddoedd, gwr o ddawn arbenig i gyfeiriadau neillduol, llednais ei ysliryd, a diymhongar yn yr oil a wnelai. Eto, dyma golled arall i'n rhan yn hynod o anisgwyliadwy; colli dyn o ddeheurwydd neillduol mewn cylch eglwysig, yn gallu pregethu yn y ddwy iaith mor rwydd a'i gilydd, a hyny gyda graen arbenig ar brydiau, er na chawsom ni yr anrhydedd o'i glywed ond unwaith. Yr oedd yn athraw medrus a llwyddianus yn yr YsgoI Sul, ac am ei briod hawddgar, Rosina Davies, yr oedd yn meddui ar ddigon o allu i adnabod ei lie bob amser, ac yn gallu ymddwyn yn foneddigaidd a Christ- ionogol, yn deilwng o wraig dda i wein- idog ffyddlon a medrus i lesu Grist; ac am y fonesig Dorothy Davies, pa un a anrhegwyd gan yr eglwys gyda Gwyddor Feibl hardd (Alphabetical Bible), yn nghyd a. Llawlyfr Moliant i'w gwasanaeth gyda'r offeryn, ac hefyd swm sylweddol o arian am ei gwasanaeth ffyddlon a medrus gyda'r offeryn, casglwyd at y cyfryw gan y brodyr David John Griffiths a John R. Pugh, a chyflwynwyd yr anrhegion ar ran yr eglwys gan y brawd Stephen Ivens, y diacon hynaf. Siaradwyd yn gymer- adwyol gan yr ysgrifenydd, David John Griffiths, a'r diaconiaid David Phillips, Lewis Lewis, Thomas Jones, a Stephen Ivens. yna datganodd y Parch. John Davies ei ddiolchgarwch llwjra'f ar ran y teulu am eu teimladau da tuag atynt, yn neillduol felly tuag at y fonesig Dorothy Davies, yn gymaint ag nad oedd hi yn bresenol 1 wneyd hyny ei hunan. Dymunwn bob lhvydd i'r teulu yn mhob modd yn eu cartref newydd. Hefyd cyflwynwyd llyfr gwerthfawr ar Oginiaeth (Cookery) ar ran ei chyfeilles, y fonesig Annie Mary Brimb1, gan ei thad, y bonwr D. Brimble, diacon ffyddlon yn nen I Eglwys eNbp, a niaehvr cyfrifol yn y gymydogaeth. y

Pontypridd Bankruptcy Court.

Treherbert.

The National Pageant.

Raspberry and Currant Jelly.

Advertising

Presentation at Tylorrstown.

Death of Mr. Thomes Owen Jones,…

Advertising

Disputes at Mardy and Clydach…

Haulier Trouble at Clydach…

Miners' Working Hours.

-----------'--....---._--St.…

_---__--Mumbles Pier and Pavilion.

Advertising

Advertising