Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

15 erthygl ar y dudalen hon

"I Ruth," Drama Ysgrythyrol…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

"I Ruth," Drama Ysgrythyrol (Gan y Parch. J. J. WILLIAMS, Pentre). Nid oes un hanes yn yr Hen Destament yn fwy dyddorol nag eiddo Ruth. Mao rhai o'r amgylchiadau a ddarlunir yn gyfryw ag, a welir genym yn fynych drwy lygaid profiad. Dyna sydd yn gosod gwerth i ni ar hanesion yr Hen Destament, sef bod y fath gydgordiad rhyngddynt a'n profiad a'n hymwybyddiaeth. Ymgais yw drama'r Parch. J. J. Wil- liams i argraff-Wr hanes yn ddyfnach ar feddyliau ieuenctyd yr oes, ac y mae wedi llwyddo i fesur canmoladwy. Desgrifir yn y mesnr diodl ymadawiad Elimelech a'i deulu o Ganaan i dir Moab, trailed Naomi yn y wlad bell, ei dyehweliad hi a Ruth, yn nghyd a'r hapusrwydd ar ol y fedel wenith ar dir Boaz. Wele ddwy linell dlos o eiddo'r llenor cadeiriol: Mae gofia wrth ei ranu yn Ueihau." "Mae ofnau'n ffoi ar ol adnabod Duw." Mae ymlyniad Ruth wrth Naomi yn cael ei weithio allan yn rhagojol. Ebai Ruth: "Naomi gwrando byth nid af yn ol; Mi lynar wrthyt, bellaoh, hyd y bedd; Nac erfyn arnaf i ymado mwy. I ba le bynag byth yr elych di, Yno'r af finau'n ffyddlon ar dy ol. Ymha le bynag y lletyech di, Lletyaf finau. Bydd dy bobl a'th Dduiw Yn bobl a Duw i minau. A phan ddoi I huno'n dawel yn y distaw fedd, 'Rwyf finau am gael cysgu wrth dy ochr; Ni faidd ond angeu ein gwahanu mwy, 'Rwy'n d'od i Fethlem gyda thi bob cam." Un o'r daman ceinaf a naturiolaf yn y llyfr yw Wrth Ffynon Bethlehem Tawodd yr aderyn Ar ganghenaiFr llwyn; Plygodd pob glaswelltyn, CTinodd ar y twyn; Ond mae'r canu eto Ar y gangen iach, Ac mae'r dwr yn llifo Yn y ffynon fach." Mae'r gerddoriaeth yn felus a phwr- pasol, a phair i ni hiraethu na buasid wedi gosod rhagor o ddarnau cerddorol i fewn. Diau y bydd pwyUgorau llenyddol a cherddorol yn brysio i ymgydnabyddu a Ruth yn nghwrs tymor y gauaf hwn. DEFYNNOG. Treherbert.

To Popularise Classical Music.

Conventual Life in Spain.

Sudden Death at Llwynypia

Trealaw.

Ferndale.

Pentre.

Nantymoel

Cwmparc

Maesteg.

BITS FROM BOOKS.

MAKING THE UNEMPLOYED EFFICIENT.

THE OOACH-DRIVERS.

SIMS REEVES'S NERVOUSNESS.

Advertising