Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
LLYTHYR SION RHYS.
LLYTHYR SION RHYS. MISTIR GOLYGYDD, DlER SYR,—Wrth gwrs "rych chi nabod i'n iawn, waeth rych chi wedi gweld yng enw i ar hyd y papyre newyddion yn mhobman. Wrth gwrs, dw i ddim yn sgryfenu i bapyre dime Llynden, nid am na fedra i sgryfenu Seisneg cystal a Chwmrag, ond dw i ddim am ddisgreso yn nghynan. Falle, sech hyny, nag ych chi ddim yn gwbod pobpeth am dana i—falle na wyddech chi ddim ma fi miwn gwirionedd enillodd y lecsiwn ddwetha yn Shir Aber- teifi i Von Dafis. Ma gen i ddylanwad mowr yn Shir Abarteifi-fe nghnawd i'n flaenor gyda'r Methodists yma y mis dwetha .-a mi ddylwn fod wedi nghneid yn flaenor ers deg mlynedd, ond, wyddoch chi beth, ma yma ryw Sparbils yn gwenwyno ac yn cintach am ma fi gath top y pol nawr. Ond, dyna, am bolitics, yr on i am sgryfenu. Ma'n gas gen i am y Librals nawr. Rw' i wedi bod yn Libral ariod, ond ma nhw wedi codi cwilydd ar yn wmed i wrth ddiodde'r Lords yna i neid fel mynon nhw a'u bils nhw. Nawr, ma yma Lord yn byw am y clawdd a'u ffarm i, ac, wrth gwrs, rodd e'n meddwl galle fe neid fel myne fe a fine, a dyna le rodd e yn sarnu'r tatw a'r llafur, a'r gwair wrth fyned ar ol cadnoed a sgwarn- ogod a gem. Mi ges i sgwrs a'r boi un nos Sadwrn, a wyddoch chi beth, ddangosodd e byth o'i ben gwag na'i drwyn coch tu fi wn i lidyard ca i fi byth ar ol hyny. Dyna'r polisi i'r Hows o Comons hefid. Fel gwiddoch chi, mi fuodd Mali a fine Ian yn Llynden Nadolig llynedd, ag mi ath ffrynd bach i ni a ni'n rownd i'r Hows. Ma'r bachgen bach hyny yn sgryfenu i'r papyre newydd yna hefyd, ond ma fe wedi mynd i sgryfenu ar Farddonieth nawr, a diw helpo fe Ond dyna o'n i am weid, lie i gysgi weles i yno, ag ma arna i ofan ma cysgi ma'r set ar ol cal yn lots ni. Dyw Von Dafis ddim wedi gweyd be yna os blwyddyn. Gwedwch wrtho fe mor wired a'r pader caiff i fynd o flân y Seiet pan ddaw e lawr ffor yma tro nesa. Do'n i ddim yn rhy ffond o'r Ediwcashon Bil yna. Beth i'w rhyw darned o Gownsil i ni yn Nghymru—ma'n rhaid i ni galParlament cyfan, ond dyna, dw i ddim am sgryfenu gormod y tro yma. Mi sgryfena i yn amal ag yn regiwlar i chwi, ond i chi beidio newid yn spelian i. Ma hi'n or iawn yma nawr. Mi fues jest a rhewi yn y gweli pwy nos- wetb. Gobeitho bod hi'n well yn Llynden. Pan do i fyny mi alwa i heibo i chi. Gwd bi. Cofiwch fi at y Beirdd a'r printers, ac at ych teili i gid. Bi gwd, wil i'w?—Iwers forever, SIION RRIS.
Blwyddyn Newydd Dda. --C--
Blwyddyn Newydd Dda. --C-- ANWYL CYFEILLION,—Mae y dyddiau presennol yn adeg y llongyfarchiadau, pan y mae pob un fel am y cyntaf yn dymuno i'w c gilydd flwyddyn newydd dda. Meddiannir ninnau gan yr un awyddfryd cyffredinol i ddatgan ein dymuniad o flwyddyn newydd dda i bawb o'n perthnasau a'n cyfeillion; ond wrth wneud hyn, dymunem hysbysu mai nid oddiar unrhyw ymdeimlad fod yr hen wedi bod yn ddrwg yr ydym yn dy- muno i'r newydd fod yn dda. Dymunem siarad yn dyner am hen gyfeillion ymadaw- edig. Un o'r cyfryw oedd yr hen flwydd- yn." Ond y mae wedi myned. Dywedodd lawer wrthym, a gwnaeth lawer erom, yn ystod y trichant a thrigain a phum niwr- nod y bu yn ymdeithio yn ein plith. Yr oedd ei diwrnodau i rai fel blwch Pandora, yn rhoi allan ofidiau, tristweh, a threialon ond credwn eu bod i lawer mwy yn phiolau bendith, llawn dedwyddwcli a hapusrwydd. Ni buom yn ddych'mygwr hapus erioed yr ychydig droion y gwnaethym ymgais at hynny, teimlwn rhyw bwysau daearol wrth fy ngodrau yn fy attal i esgyn i'r uchelderau yr awyddwn mor fawr hofran ynddynt; ond rhyw fodd, teimlwn ysfa neillduol i wneyd un treial bychan eto, yn enwedig gan fod genyf yr hen flwyddyn yn destyn. Dych'- mygwn ei gweled fel boneddiges ar ei gyrfa, yr hon yrfa a gwblheir ganddi mewn tri chant a thrigain a phump o gam ran. O'i hamgylch y mae goleuni disglair y presen- nol, o'i blaen y mae tywyllwch dudew y dyfodol, o'i hoi oleu gwanaidd a niwliog y gorphenol, ar ei phen y mae coron cy- mlethedig o dda goreu'r nef a daear. Newidia ei gwisg bob tymor; un tymor gwelir hi wedi amdoi ei hunan mewn hilyn gwyn 0 eira, wedi ei sicrhau a boglymau o ia newidia hon am fantell werddias gwan- wyn; newidia hon drachefn am un mwy amryliwiog, wedi ei thryfritho a blodau aneirif yr haf; hon a newidir drachefn ganddi am hilyn eurliw y cynbauaf. Erbyn hyn, y mae ei breichiau yn llawn o bob bendithion, y rhai a. wasgerir ganddi ar bob Haw. Ond y mae'r ymgiprys am y rhai hyn ym mhlith plant dynion yn echrydus, a gwelir ambell i rai, yn eu gorawydd am fwy na'u rhan, neu trwy fusgrellni yn eu hym- gais am eu rhan ddyledus, yn syrthio, ac yn cael eu mhathru dan ei thraed ond tra y mae eu crochlefau siomedigaethus hwy yn beichio yr awyr, ym mlaen yr a hi mae ganddi ei gyrfa i'w chwblhau, ac ni orphwys nes ei gorphen. Mae ei chamrau yn araf, ond yn sicr ac wedi syllu arni yn rhoi y cam olaf, trown ein golwg tua'r dyfodol, a chydunwn a phawb i waeddi o eigion ein calon croeso i'r flwyddyn newydd. Deued yn ei bendithion, a ni a'u mwynhawn yn ei threialon, a ni a'u derbyniwn yn ei dyled- swyddau, a ni a'u cyflawnwn yn ei phles- erau a'i dedwyddwch, a nyni a ddiolchwn am danyiit. Tra yn benderfynol o roi'r croes- awiad hwn iddi, gallwn fod yn hyderus y bydd y flwyddyn newydd yn flwyddyn dda.. Ond efallai fod mwy o ddymuno da i'n gilydd, nag o wneud i helpu ein gilydd i gyrhaeddyd y da! Mae pob blwyddyn yn dda i'r rhai a wnant dda ynddi, ac a ddefn- yddiant yn dda ei bendithion. BRIXTONIAN.
Advertising
CYMDEITHAS Y BRYTHONWYR. :o:- CYNHELIR CYFARFOD NESAF Y GYMDEITHAS GYMREIG HON TN ARBITRATION ROOMS, 64, Chancery Lane, AR nos Iau flESHF IOflRWR tOfed, 1907, pryd y darllenir papur ar "BREUDDWYDION Y CELT 99 GAN MR. T. HUWS DAVIES, BaSe., o'r Swyddfa hon. "r- Cymerir y gadair yn brydlon am 8.15 o'r gloch. Rhoddir gwahoddiad caredig i bob Cymro i fod yn bresennol. Mynediad i mewn yn rliad. Pob manylion ynglyn a'r Gymdeithas ond gohebu a J. WINTON EVANS, 98, Marlborough Road, Chelsea, S.W.
Bwrdd y Gol.
Bwrdd y Gol. Tymor yr adolygu yw tymor dechreu blwyddyn, Mae'r meddwl, megys yn reddfol, yn taflu golwg yn ol i'r gorphenol pan yn cynllunio gogyfer a'r dyfodol a chyfarfod i adolygu a threfnu a gaed o gylch y Bwrdd yr wythnos hon. Blwyddyn newydd dda i chwi feirdd a llenorion," ebai'r Gol., yn llawen pan yn cymeryd ei le anrhy- deddus wrth ben y Bwrdd, a gadewch i mi ddatgan fy moddhad wrth weled eich gwynebau siriol yn yr ystafell o wythnos i wythnos." Mae bellach ddeuddeng mlynedd wedi myned heibio oddiar y dechreuasom y cynulliadau hyn, ac mae amryw o honoch wedi bod yn ffyddlon o ddydd y cychwyn. Ie, dyddiau hapus oedd y rheiny pan ddaeth torf o honoch yma i gydbenderfynu i sefydlu papur wythnosol at wasanaeth ein cenedl yn Llun- dain. Yr ydych wedi cadw'r penderfyniad yn ddi- fwlch hefyd o'r dydd hwnnw hyd yn awr." Ymhen rhyw ddeunaw mis wedi ei gychwyn, cawsom y pleser o gydweithrediad Mr. Llewelyn Williams, yn awr yr aelod Seneddol tros Fwrdeis- drefi Caerfyrddin, a gwnaeth waith rhagorol arno a blin oedd genym iddo orfod ymneillduo o'r gadair ar ol ychydig fisoedd, oherwydd galwadau ei waith. Ond aeth y CELT yn ei flaen yn hwyliog o wythnos i wythnos gan lonni miloedd o deuluoedd yn y ddinas a'i genhadaeth ddiddan. Yn Hydref, 1904, ymunodd a'r Cymro Llundain, ac acth i swyddfa newydd am dymor, ond yn y newidiad hwnnw gofalodd yr hen berchenogion mai un o'r telerau oedd ei fod i ddod allan yn rheolaidd at wasanaeth ein cenedl, ac ar ol tua deunaw mis o bererindod daeth yn ol drachefn, ac mae'r CYMRO LLUNDAIN A'R CELT heddyw yn 'fwy llewyrchus nag y bu un amser yn ei hanes. Cynwysa'r pymtheg cyfrol sydd eisoes wedi ym- ddangos lawer o ffeithiau dyddorol am hanes ein cyd- genedl yn Llundain yn ystod y deuddeng mlynedd hyn, ac mae'r llafur cariad sydd wedi bod ynglyn ag ef yn llawn dal am y gwasanaeth y mae wedi bod i'n cydgenedl ar wasgar. Bwriadwn eto ledaenu ei ddylanwad yn j stod y flwyddyn hon, drwy ddwyn i mewn lawer o benodau newyddion yn ei golofnau. Y mae'r gefnogaeth mae wedi ei gael yn brawf ei fod yn dra derbyniol, ac nid ofer y bydd ein cais ar ddechreu blwyddyn arail, ar i bob darllenydd sicrhau derbyniwr newydd iddo, a gyrru eto gopiau yn rheolaidd i'w cyfeillion yn yr hen wlad ac ar wasgar mewn gwledydd ereill." Ar ol cael yr annerch gyfarchiadol hon daeth amryw o'n gweinidogion Cymreig i mewn gan draethu cenadaethau amserol i'n darllenwyr ar ddechreu blwyddyn arall o n bodolaeth. SION Riiys.-Croesaw i chwi o gylch y Bwrdd, a bydd gair yn awr ac eilwaith o'ch barn ar bolitics yn nghanolbarth Ceredigion yn wir dderbyniol, er mor dolcog eich iaith a'ch llawysgrif. E. MORGAN.—Biin genym nad cedd lie i adrodd- iadau o gyfarfodydd y Nadolig yn ein rhifyn diweddaf, Yr oedd ein swyddfa yn nghau hyd ddydd Iau, ac fel y gwyddoch daw'r papyr allan y nos honno erbyn dal trens y wlad. E. JONES.-le stori ddo.niol oedd gan W.A.R. yn ein rhifyn diweddaf, ac mae'r awdwr yn tystio fod y ffeithiau yn lied gywir, ond fod yr enwau wedi eu newid. GOHEBYDD MYGEDOL.—Na, na, peidiweh a ffurfio barn anghywir, nid yw'r Gol. ddim wedi ffromi wrthych am nodi beiau dyweyd wnaeth y Gol. mai nid beiau mo honynt, a phe baech yn gynefin a'n hawduron goreu ni fuasecli byth yn dangos y fath anwybodaeth- Pan yn cyfieithu hefyd dylech gofio mai arfer gwlad yw'r safon oreu, ac nid cyfieithiad llythrennol fel y mynnweh chwi, pe felly buasem tan orfod i gyfieithu coes morthwyl yn leg of the hammer.' Dewch ag erthygyl ar bwnc dyddorol yn lie ceisio llunio bai lie na bo." WALTER WILLIAMs.-Fe gedwir rhan o'r CYMRO LLUNDIAN A'R CELT yn Saesneg am beth amser eto. Y mae"rhai o'r hysbysebwyr wedi rhoddi eu harchebion ar yr amod hynny i'r hen berchenogion, a dyna'r rheswm paham y rhaid i mi gadw y dull presennol ymlaen am ychydig amser eto. CYMRO BACH.—Gall eich newyddiadurwr gael y papyr yn rheolaidd ond gofyn am dano yn y ddinas. Rhoddwch yr archeb iddo yn rheolaidd, ac yna ni fydd yr un anhawsder. EISTEDDFOD SHOREDITCH.- Y beirniadaethau yn y nesaf. Hefyd lythyrau oddiwrth amryw ohebwyr.