Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

CYCHWYNIAD EISTEDDFOD "BOXlNG…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CYCHWYNIAD EISTEDDFOD "BOXlNG NIGHT." At Olygydd y CYMRO A'R KELT." SYR,—Dywedai Mr. Woodward Owen, wrth gadeirio yn Eisteddfod Boxing Night," fod yr Eisteddfod uchod yn gynyrch un o awgrymiadau Mynorydd." Nid oes a'r Mynorydd eisiau plu benthyg, yr oedd digon o rinweddau da a chyhoedd- usrwydd yn perthyn iddo, fel nad oes eisiau ei bluo ar yr anrhydedd o awgrymu Eisteddfod. Pe bai byw yn bresennol, diau mai efe fyddai y cyntaf i wrthod yr anrhydedd, gan ei fod ar y pryd yn wrth- wynebydd eiddgar i gystadlaethau, ond mewn amser diweddarach daeth yn gefnogydd selog i'r Eisteddfod dan sylw. Tybiaf i Undeb Ysgolion Sabothol y Methodistiaid Calfinaidd Llundain gael ei sefydlu yn 1871, a'r Eisteddfod gyntaf perthynol i'r undeb hwn ei chynnal "Boxing Night" 1872, yr hon sydd wedi parhau yn ddifwlch hyd yn hyn. Daeth y drycbfeddwl am Eisteddfod i feddwl un o aelodau lleiaf yr undeb, yr hwn a'i hysbysodd i'r diweddar Moses Roberts, Holloway; gwnaeth y ddau osod y peth o flaen yr undeb, a chaed yr unfrydedd mwyaf, fel mewn gwirionedd, aed i drefnu a chynllunio Eisteddfod ar unwaith. Credaf yn sicr nad oedd Mynorydd yno, onid e ni chaedjy fath gydweithrediad. Nid wyf yn ystyried fod enw yr aelod bychan a ddaeth i'w feddwl y syniad am Eisteddfod yn werth papur ac inc i'w ysgrifenu yma. Nid yw yn rhyfedd o gwbl i'r drychfeddwl am Eisteddfod ddeilliaw o feddwl y cyfryw un, oherwydd y bychaniaid fel rheol sydd yn syrthio yn nherth i'r ysfa gystadleuol, am y rheswm da, feddyliwn, eu bod yn rhy fychain i weled, a theimlo eu hanallu a'u hanwybodaeth. lORWERTH CEITHO. Rhagfyr 31ain, 1906.

Advertising

EISTEDDFOD SHOREDITCH TOWN…