Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
DEWI MON YN EI FEDD.
DEWI MON YN EI FEDD. L — '—, Y DIWEDUAII BKIFATHHAW DAVID ROWLANDS, B.A. (DEWI MON). Wele un arall o gewri llenyddol ein gwlad ■wedi ei alw i'w hir gartref. Yn blygeiniol iawn foreu Sul diweddaf bu farw'r Prif- .athraw David Rowlands, Coleg Aberhonddu, ar ol custudd hir a phoenus. Yr oedd cyflwr ei iechyd wedi pery iddo ers blyn- yddau fod yn dra gofalus o hono ei hun, ac o ganlyniad nis gwelid ef gymaint yn y cyhoedd ag yn y blynyddau gynt, ac i'r to ieuanc presennol yr oedd Dewi Mon ers talm yn mhlith arwyr lien Cymru Fu yn hytrach nag yn un o'i chyfarwyddwyr ar ddechreu yr ugeinfed ganrif. Ganwyd y Prifathro Rowlands yn Sir Fon yn Mawrth, 1836, ac o'r cysylltiadau boreuol liyn y cymerodd ei enw gorseddol Dewi Mon." Daeth i enwogrwydd yn foreu :fel bardd o radd uchel, ac yn ysgolor gwych. Cyhoeddodd Ramadeg Cymraeg sydd yn safon lied gyffredinol i'n hefrydwyr heddyw, a dygodd allan doraeth o gynyrcbion o'i ysgrifell ffrwythlawn o dro i dro. Wedi dechreu fel lienor a bardd trodd ei feddwl i fyned yn bregethwr, dechreuodd fel ,efrydydd yn Aberhonddu yn 1857—banner can mlynedd yn ol, a chafodd yrfa dra Iwyddianus yn yr Athrofa. Cymaint oedd ei fri fel ysgolor fel y penodwyd ef yn Brif- athro ar y lie yn 1896, ac mae'r coleg wedi dod i gryn ddylanwad tan ei reolaeth ddeheuig a'i ofal tros y gwahanol efrydwyr a ymunent a'r lie. Ar wahan i'w fedr fel ysgolor yr oedd iddo gymhwysderau arbenig i fod yn brif- athraw coleg o'r fath. Yr oedd wedi bod yn fugail ei hun, oherwydd cafodd ei ordeinio yn weinidog ar hen eglwys barchus Llan- brynmair, yn 1861, fel olynydd i'r diweddar Barch. Samuel Roberts (S.R.), a oedd wedi ymfudo i'r America. 0 dan ei weinidog- xietb yno, adnewyddwyd y capel a'r ysgoldy. Yn mis Hydref, 1866, symudodd oddiyno i gymeryd gofal eglwys y Trallwm, ac yn mhen pedair blynedd, symudodd eilwaith i gymeryd gofal eglwys Seisnig Caerfyrddin. Tra yn Nghaerfyrddin cafodd amryw gyn- nygion i fyned i Loegr ond dewisodd aros yn Nghymru. Ar wahan i'w wasanaeth i'w enwad yr oedd Dewi Mon yn weithiwr caled o blaid .addysg uwchraddol i'r genedl, ac ar amryw z;1 droion gofidiai nad oedd ein prifysgol yn ddigon Cymreig i gyfarfod anghenion y genedl. Gedy weddw ac un mab i alaru eu colled. Mae'r mab, Mr. Wilfred Rowlands, yn adnabyddus i gylch eang o gyfeillion yn Llundain, ac yn sicr bydd cydymdeimlad y .cyfryw ag ef yn awr ei hiraeth.
CYFARCHIAD DECHREU BLWYDDYN.
CYFARCHIAD DECHREU BLWYDDYN. [GAN YR ARCHDDERWYDD.] At feirdd a llenorion Cymru, ac at bawb sydd yn caru eu gwlad, eu hiaith, a'u cenedl. Annerch. Pan y mae cyfarchiadau goreu'r tymor yn ehedeg drwy bob cwr o'r wlad, a phawb yn dymuno llwyddiant eu gilydd, gweddus i minnau gyflwyno fy nymuniadau. goreu i garedigion Barddas a Chan drwy Gymru benbaladr. Y mae yr hen flwyddyn wedi dianc, ac ni thorrwyd ar heddwch y byd llenyddol gan ddim tebyg i gyflafan. Yr ydym yn llawenhau yn fawr am hynny, ac yn hyderu y bydd i gariad wreiddio yn ddyfnach, a thyfu yn eangach yn ystod y flwyddyn newydd hon. Parhaed brawd- garwch, a meithriner pob rhinwedd sydd yn addurn ar fywyd. AmI wg yw fod Cymru yn codi ei phen. Y mae yn y wlad adfywiad cenedlaethol cryf. Ni fu yr ysbryd Cymreig mor fyw ers blyn- yddoedd lawer. Teimlir ei wres ym mhob cylch, a'n dyledswydd ninnau yw cadw'r tan i losgi'n oleu, nes argyhoeddi'r cenhedloedd fod rhywbeth heblaw brwyn a rhedyn yn tyfu ar fynyddoedd Cymru. Yr ydym wedi dioddef yn hir, ac wedi galaru llawer dan orthrymder y gelyn-wedi ein cadw am gan- rifoedd mewn tywyllwch y gellir ei deimlo ond y mae y wawr wedi torri, a'r dydd a nes- haodd. Gan hynny, byddwn effro. Digon i ni o'r amser a aeth heibio i weithredu ewyllys y cenhedloedd. Bu adeg pan na feiddiai Cymru ddyweyd ei chwyn, heb gael ei llindagu i ddistawrwydd. Ond erbytr hyn, rhaid i benaethiaid y ddaear wrando arni, a chydnabod ei bodolaeth gyda llai o ddiystyrwch. Y mae gan Gymru ei hawliau, ac y maent yn rhy gysegredig i'w goddef yn hwy dan draed. Safwn i fyny dros y rhai hyn, ac ysgydwn i ffwrdd y gwaseidd-dra sydd wedi ein cadw i lawr cyhyd. Glynwn wrth y Gymraeg-etifeddiaeth y tadau i'w plant ar eu hoi. Na fydded ar neb gywilydd ohoni. Iaith awen a chan, a iaith fu'n gyfrwng i'r byd brofi nerthoedd y byd a ddaw. Y mae ei bywyd yn wyrth anesboniadwy, a'r amddiffyn amlwg sydd wedi bod drosti, yn fwy nag awgrym fod iddi genhadaeth bwysig eto heb ei chy- flawni. Dadau a mamau Cymru, dysgwch Gymraeg i'ch plant, a hwy a fendigant eich coffadwriaeth am hynny. Blwyddyn newydd dda i bawb. Duw a phob daioni." DYFED.
Y SABATH.
Y SABATH. [GAN OHEBYDD ACHLYSUROL.] Y Sabath a wnaethpwyd er mwyn dyn, ac nid dyn er mwyn y Sabath.Iesu Grist (Marc ii. 27.) Blinedig gan ofidiau'r llawr, Lluddedig a methedig bron, O mor gysurol ydyw gwawr, Hyfrydol wawr, y Sabath lion." Glan Alun. Ym mhapyrau dydd Sadwrn diweddaf ym- ddangosodd llythyr o "Apelat y Genedl" ar Gadwraeth y Sul. Arwyddir ef gan dri o wyr o safle uchel ym mywyd crefyddol ein gwlad, ac yn cynrychioli pob cangen o'r Eglwys Gristionogol:—Archesgob Caergaint ar ran yr Eglwys Wladwriaethol; Archesgob Westminster ar ran Eglwys Rufain, a Chadeirydd Cyngrair yr Eglwysi Rhyddion, ar ran yr Ymneillduwyr. Ni raid wrth ymddiheurad am sylwi ar lythyr wedi ei arwyddo gan wyr o gymaint dylanwad. Beth, tybed, yw safle y Cymry yng ngwyneb y cwestiwn—A ydynt yn cadw'r Sul mewn ffordd i beri iddynt ddianc o afael gofalon a goruchwyliaethau cyffredin i diriogaethau uwch o ran meddwl, a dy- headau mwy urddasol ? Dywedir gan rai nad oes ffordd well i dreulio'r Sul na thrwy addoli Duw mewn Natur-ac a'nt allan o fwg a tharth y ddinas i awyr iach y wlad o gwmpas-ac addolant y Creawdwr yn Ei waith Eraill a gredant nad oes ffordd fwy budd- iol na bod gartre'n gorffwys, a darllen mewn tawelwch i ddiwyllio'r meddwl, ac os bydd llythyr eisieu ei ysgrifenu gwneir hynny, neu ryw waith ysgafn arall. Cawn niter fawr yn ymgynnull i'r eglwys neu'r capel, ac yno cymerant ran yn y gwas- anaeth-pob un yn ol ei allu. Cynrychiola'r tri dosbarth hyn yn lied gywir fywyd ein cenedl a'i hymddygiad tuag at y Sul yn yr oes bresennol. Ac wrth daflu golwg yn ol ar hanes y wlad temtir ni i ofyn,—A yw crefydd yn cael mwy o le heddyw yng nghalonnau'r bobl ? A roddir mwy o barch i gysegredigrwydd y Sul nag yn amser ein tadau ? Am y Saeson gellir dweyd yn ddibetrus eu bod hwy wedi colli tir lawer. Ac ofnwn fod hyn yn wir am y Cymry i raddau llai. Ni ddymunem am i'r Sul fod yn ddiwrnod rhy gaeth fel y mae mewn rhai mannau yng Nghymru. Hoffem ei weled yn ddiwrnod rhydd, ac nid wedi ei lyffetheirio a rhyw fan reolau o eiddo dynion cul a rhagfarnllyd; yn ddiwrnod tawel, yn ddydd i orffwys oddiwrth bob gwaith cyffredin, yn ddiwrnod y teimlem fod pob awel o'n cwmpas, yr awyrgylch ydym yn byw ynddi-mewn gair, fod popeth y deuwn i gyffyrddiad ag ef yn denu ein serch at bethau ysbrydol fel y profem rywbeth a'n cryfhai ac a'n gwnai yn fwy parod i ddal i fyny yn wrol ym mrwydr bywyd yn ystod y dyddiau i ddilyn. Ofnwn fod mynd i'r eglwys neu'r capel yn fwy o "arferiad" ac yn codi oddiar awydd am weld ein cyfeillion a'n ceraint yn hytrach nac oddiar deimlad o ddyled- swydd a braint. Par ymddygiad rhai o'n pobl ieuainc loes i galon ami un o deimladau tyner, a bydd yr iaith glywir ar nos Sal tu allan i ddrysau rhai o'n haddoldai yn gwneud i'n clustiau ferwino. Gobeithiasom lawer y byddai i'r Diwyg- iad ein deffro i fywyd mwy brwdfrydig, i ddyfnhau ein argyhoeddiadau, i sylweddoli cysegredigrwydd ein crefydd-ond eithriad- au yma a thraw yw'r rhai sydd wedi newid saif y cyfangorff yn yr unman-yn ddifater ac yn ddifraw. Credwn fod-o ran nifer y Cymry sydd yn Llundain-mwy o fasnachu ar y Sul yn ein plith nag ymysg yr un genedl arall. A hynny nid ymysg rhai sy'n mynd allan am awyr iach nac ymysg y rhai arhosant gartref i orffwys; ond ymysg y rhai sy'n ffyddlon i'r addoldy ar nos Sul. Bron na ddywedwnfod mynd i'r addoldy ar y Sul wedi troi yn fethiant, ac mai ychydig yw ei ddylanwad cymariaethol ar ein cenedl. Hyderwn y cymer ein harweinwyr eu lie priodol gyda'r mudiad hwn ac y gwnant yr oil yn eu gallu i gadw dydd cyntaf yr wyth- nos fel y dymunai Iesu Grist iddo gael ei gadw-nid ei wneud yn ddiwrnod caeth drwy ragrith Phariseaidd, ond yn ddiwrnod rhydd—i'r addoldy os mynwch, neu i'r wlad, neu gartref ;—ond ei gadw yn ol llais ein cydwybod a'n deall yn ofn Duw, gan hyfforddio a chynorthwyo ein gilydd i deimlo dyddordeb dyfnach, mwy cyseg- redig, a mwy parhaol ym mhethau cyffredin bywyd," a bydded iddo fod yn ddydd llawen yn ein hanes, yn codi ein hysbrydoedd, ac yn ein gwneud yn fwy llednais a charuaidd ein natur trwy gymundeb gwirioneddol a'r Goruchaf ei Hun fel ein calonogir fwy-fwy i deimlo Mor felus yw y Sabath lion, Na flined gofal byd mo'm bron, O na bai' nghalon i mewn hwyl, Fel telyn Dafydd ar yr wyl."