Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

1 erthygl ar y dudalen hon

Am Gymry Llundain.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Am Gymry Llundain. DOSBARTHIADAU CYMRAEG. Da genym ddeall fod arwyddion y ceir nifer o ddos- barthiadau tra llewyrchus ynglyn a'r ysgol- ion nos, tan reolaeth y Cyngor Sirol. Y CYNGHORWYR CYMREIG.—Mae'r Cymry sydd ar y Cyngor Sirol Llundeinig wedi gweithio yn rhagorol tros sicrhau y dosbarth- iadau Cymreig, a dylid cofio am hynny pan fyddant yn dod i ymofyn ein pleidlais yn mis Mawrtli nesaf. LLADRON.—Pan oedd Mr. a Mrs. Wilfred Rowlands, Priory Road, Hornsey, oddicartref, ac wedi myned i weinyddu wrth wely angau'r Prifathro Rowlands, yn Aberhonddu, torodd lladron i fewn i'w preswylfod foreu Sadwrn diweddaf, a chludasant ymaith lu o nwyddau drudfawr, yn cynwys, ymysg pethau eraill, yr holl anrhegion costus a gawsant adeg eu priodas rai blynyddau yn ol. Y mae'r golled yn amryw gannoedd o bunnau. CYFARFOD Y PLANT.-Nos Sadwrn diwedd- af rhoddwyd gwledd arbenig i blant Cym- reig y Tabernacl, King's Cross. Mae'r wledd hon yn hen sefydliad, wedi ei dechreu flynyddau lawer yn ol gan y ddiweddar Mrs. Davies, Brecknock Villa, a gadawodd gym- unrodd arbenig i'r eglwys at gadw yr wyl yn ei blaen o flwyddyn i flwyddyn. Daeth llond y neuadd fawr o blant a rhieni ynghyd, ac ar ol te a moethau blasus caed cwrdd hwyliog tan reolaeth y Parch. H. Elfet Lewis, M.A. Canwyd ac adroddwyd gan lu o'r rhai bychain, a gwnaeth yr oil eu gwaith yn dra deheuig tan arweiniad Mr. Emlyn James, yr arolygwr. Ar derfyn y cwrdd anrhegwyd y plant a phob math o deganau, er mawr boddhad i'r rhai bychain a difyrwch i'r rhai mewn oed. BARRETT'S GROVE.-Nos Iau, Ionawr 3ydd, rhoddodd y cyfeillion caredig a haelionus, Mr. a Mrs. Williams, Allen Road, wledd flynyddol y plant, lie cafwyd digonedd o'r danteithion goreu, a phawb yn mwynhau eu hunain, taled yr Arglwydd iddynt am eu haelioni parhaus. Ar ol y te cafwyd darlith. ddyddorol gan Mr. B. Rees, Carthusian Street, ar ei ymweliad ef a Mrs. Rees a gwlad Cannan, yngyda darluniau rhagorol o'r lleoedd pwysicaf yr ymwelasant a hwynt. Yn absenoldeb Mr. W. P. Roberts, Honor Oak, llywyddwyd yn ddoeth a medrus gan y Parch. E. Owen, B.A. Cawsom ein siomi o'r "Kymric" choir trwy absenoldeb yr arweinyddes enwog, oherwydd afiechyd peryglu s y Prifathraw "Dewi Mon." Can- wyd amryw ddarnau yn ystod y cyfarfod, a chanodd Miss Hagger" Home Sweet Home." Chwareuwyd yr organ gan Mrs. Nellie Jones a Mr. D. Richards, F.R.C.O., King's Cross. Ar ol y diolchiadau arferol, cyflwynwyd anerchiadau i Mri. B. Rees a J. Williams, Allen Road, am y cynorthwy gwerthfawr gaed ganddynt i glirio dyled y capel. Mae eu haelioni a'u caredigrwydd wedi bod yn eithriadol a'r hyd y blynyddau. Darllen- wyd yr anerchiadau gan y Parch. E. Owen, y gweinidog, a chyflwynwyd un Mr. B. Rees gan Mrs. Williams, Allen Road, ar ran yr eglwys, ac ar Mr. Williams, Allen Road, gan Mrs. Jones, Commercial Road. Diolchodd y ddau yn eu, dull syml a diymhongar. Yr oedd yr anerchiadau wedi eu hysgrifenu yn ddestlus gan Mr. E. Price, un o ddiaconiaid yr Eglwys. RADNOR STREET.-Cocdeit Nadolig: Nos Lun, Rhagfyr Slain, rhoed gwledd i blant y gynnulleidfa uchod. Darparwyd te a bara brith gan nifer o foneddigesau caredig. Wedi i'r plant oil gael eu diwallu a'r dan- teithion, cynhaliwyd cyfarfod o adrodd a chanu, ac ar ol hynny rhanwyd anrhegion oddiar goeden Nadolig ryfeddol o gyfoethog. Nid oes eisieu dweyd i'r plant fwynhau eu hunain hyd yr eithaf, ac yr oedd y mwynhad a gai y rhieni ar llu o gyfeillion ereill a ddaethant ynghyd i'w gwylio yn llawn cymaint ac eiddynt hwythau. Treuliwyd noson wrth fodd pawb.-Y Gymdeithas Ddi- wylliadol: Nos Lun diweddaf traddododd y Parch. J. Machreth Rees, llywydd y Gym- deithas, ddarlith ar Hanes Ymneillduaeth yng Nghymru o 1662 hyd 1688," sef o adferiad Siarl yr Ail hyd y Chwyldroad. Cadeiriwyd gan Mr. Phillip Williams, Earl's Court Road, a daeth cynnulliad rhagorol ynghyd. Siaradwyd ar ddiwedd y ddarlith gan Mr. Davies, Rosebery Villa, Mri. Isaac Williams, T. 0. Lewis, a John Richards. MARW YN BEDAIR-AR-DDEG OED.—Tarawyd Cymry Chelsea a'r cylchoedd a braw gan y newydd am farw Miss Claudia Davies, anwyl blentyn Mr. a Mrs. S. Davies, 39, Hollywood Road, o'r dwymyn goch. Yr oedd yn Radnor Street yn dweyd ei hadnod ymysg y plant nos Sul wythnos i'r diweddaf, ond erbyn nos Fercher yr oedd ei hysbryd wedi ehedeg ymaith. Prudd iawn oedd cofio hynny yng nghyfarfod blynyddol yr Ysgol Sul yn Radnor Street prydnawn Sul diweddaf, yn yr hwn y disgwylid iddi gymeryd rhan. Yr oedd Claudia yn hoff gan bawb a'i hadwaenent, oherwydd ei bod yn eneth mor serchog a llawn o fywyd. Cymerodd y gladdedigaeth le yn Wands- worth Cemetery prydnawn dydd Llun, yngwydd lliaws o alarwyr. Gweinyddwyd gan y Parch. J. Machreth Rees. Yr oedd yn amlwg oddiwrth nifer y blodeu-dyrch a orchuddient yr arch fod i'r ymadawedig lu mawr o gyfeillion, ac nid yn ami y gwelwyd cynifer o ruddiau gwlybion yn amgylch- ynu bedd. Rhoddwyd blodeu-dyrch gan obeithlu a chan Ysgol Sul Radnor Street, a bydd hiraeth mawr am Claudia Davies yn hir ymhlith aelodau y sefydliadau hynny. Cysured a diddaned y nefoedd ei rhieni a'i chwiorydd a'i brawd yn y brofedigaeth hon a'u goddiweddodd mor anisgwyliadwy. CYDNABOD CYDYMDEIMLAD.—Dymuna Mr. a Mrs. Davies, Hollywood Road, a'r teulu arnaf anfon gair i GYMRO LLUNDAIN A'R CELT i ddatgan eu diolchgarwch mwyaf diffuant am y cydymdeimlad cyffredinol a amlygir a hwynt yn eu galar mawr, oherwydd marwol- aeth eu hanwyl blentyn. Mae y llytliyrau teimladwy a dderbyniasant, a'r blodeu- dyrch a anfonwyd, yn rhyfeddol o werth- fawr yn eu golwg, a'r cydymdeimlad yn gynhaliaeth neillduol iddynt yn y llifeiriant a dorrodd drostynt. Nid aiff y cyfryw byth yn angof ganddynt. LEWISHAM.-Fel y gweddai i wr sydd mewn cysylltiad a'r wasg, caed araith gan Mr. G. W. Jones, o swyddfa'r Tribune ar Hanes 1906 ger bron aelodau cymdeithas y lie hwn nos Fawrth diweddaf. Rhoddodd Mr. Jones fraslun dyddorol ar waith y flwyddyn yn wleidyddol, addysgiadol, a chrefyddol, a mawr y boddhad gaed wrth wrando arno. Ar y diwedd sylwodd un brawd fod y darlithydd wedi anghofio croniclo am un symudiad" pwysig yn ystod 1906 pan yn son am y gwahanol symudiadau ereill, sef y gwaith o symud y CYMRO A'R CELT yn ol i'w hen swyddfa yn Gray's Inn Road CAPEL BRUNSWICK.—Cynhelir ymgomwest arbenig yn y capel hwn nos Iau nesaf, a deallwn fod amryw ddoniau i fod yno er dyddori yr aelodau. Mae'r te a'r cyfan yn agored i bawb o garedigion yr achos, a rhoddir gwahoddiad cynnes i'r Cymry fyned yno. EISTEDDFOD SHOREDITCH.—Yr oedd amryw o'r buddugwyr ar yr adran lenyddol yn absennol o'r Eisteddfod eleni, ac ni chaed eTh, henwau yn ystod y noson. Yr oedd hynny yn tynnu oddiwrth ddyddordeb y cyfarfod a da y gwnelai'r pwyllgor osod i lawr fel ag y gwneir mewn rhai eisteddfodau, i'r peiwylr os na fydd y buddugwyr neu eu cynrychiol- wyr yn bresennol yr atelir y wobr. Dyma rai o'r enillwyr sydd wedi gwneud eu hun- ain yn hysbys ar ol yr wyl. Hir a thoddaidr goreu, Parch. Llewelyn Bowyer, East Ham y prif draethawd, Mr. J. R. Owen, Battersea Rise cyfieithiadau, Celt, Mr. 0. M. Jones,- Willesden; a Pluto, Mr. J. R. Owen, Batter- sea Rise. Mae'r goreuon ar y traethawd i rai dan 25 oed eto heb wneud eu hunain yn hysbys. SYMUDIAD.—Gwelwn fod Mr. A. Wade- Evans, Paddington, wedi symud i fod yn gurad yn Nghaergybi. Mae Mr. Evans yn un o'r clerigwyr ieuainc mwyaf addawol. sydd gan yr Eglwys, a thra mewn curad- aeth yn ardal Paddington, y mae wedi gweithio yn galed nes enill parch ac edmyg- edd mawr ei gydnabod. Fel ysgolor a hynafiaethydd disgwylir llawer oddiwrtho- yn y dyfodol, a hyderwn y gwelir y lies o'i benodiad i ryw fywioliaeth lied dawel, a hynny'nfuan, fel y caffofwy o hamdden i roddi i ni o ffrwyth ei ymchwiliadau a'i fyfyrdodau. Rhwydd hynt iddo yn ei faes newydd yi-L, Nghaergybi. EIN CENHADON.—A gaf yn garedig ofyrp i'm cydgenedl roddi pob cefnogaeth i'n cenhadwyr Cymreig sydd yn llafurio dan. anfanteision ac yn gwneud gwaith, er yn ddistaw, sydd yn cael ei fendithio gan y Meistr. Yr ydys yn sicr, ond rhoddi cyn- orthwy mewn arian neu ddilladau yngngofal y cenhadwr agosaf yn y cylch, y gwna ei ran yn ddedwydd dros y rhoddwyr. Aed ein brodyr a chwiorydd i ymweled a'n brodyr, &c., yn a rhannau isaf, a barnu drostynt eu hunain. Da genym weled y cyfarfodydd dan ofal y cenhadwr, Mr. Phillips, mor llwyddianus, hyfrydwch bod yn gynorthwy iddynt. Cofier mai ein cyd- gelictil ydynt. DEWI SANT, PADDINGTON. Priodas. Tranoeth gwedir Nadolig, am 2.30 o'r gloch, unwyd mewn glan briodas Mr. James- Jenkins a Miss Rachel Jones—y ddau yn enedigol o Sir Aberteifi-y priodfab o Aber- aeron a'r briodasferch o blwyf Ciliau. Gweinyddwyd y seremoni yn Eglwys, Emmanuel, Camberwell, gan y Parch. W. Richards, Caplan, Paddington. Gwedi y briodas cafwyd gwledd ragorol yn nhy y briodasferch, pan yr oedd amryw o deulu- oedd y par ieuainc yn bresennol. Lwc dda iddynt ill dau. Coeden Nadolig.- Gwnawd elw da o'r goeden ar Boxing Night. Rhodd ydoedd o eiddo Mr. David Jenkins,. Shelden Street, Warden y Bobl yn Eglwys, Dewi Sant, a mawr ddiolch iddo am ei gymorth sylweddol. Addurnwyd hi gan foneddigesau o'r Eglwys, ac edrychai yn hardd o dan ei Ilwyth. Yn ystod y cyfarfod canwyd yr hen alaw dlos, Robin Adair," gan Mrs. Gordon Lewis, a chafodd gan- moliaeth uchel. Cafwyd dadl ddoniol hefyd rhwng Miss Emily Thomas a'i chyfnither yn Kilburn Park Road. Gwnaeth y ddwy eu gwaith yn rhagorol, ac yr oedd y dialogue yn un o'r pethau goreu a glywsom erioed. Cawsant gymeradwyaeth byddarol. Rhodd- wyr y te oedd y gwragedd priod, a chafwyd wledd o'r iawn ryw. Can ddiolch iddynt am yr arlwy fras. Diweddwyd y cyfarfod i fynu drwy i'r gwyr a'r merched ieuaingc gynal Social Meeting." Mwynhaodd pawb eu hunain yn fawr. Sul gwedi r Nadolig a Sul (ylitaf y flwyddyn.—Canwyd amryw garolau yn yr Eglwys hon ar y Suliau