Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
LLYTHYR SION RHYS.
LLYTHYR SION RHYS. ANWYL SYR, Rw i wedi digio lot wrthoch chi. Yn enw popeth beth och chi'n feddwl wrth basio srimarks arna i yn ych Bwrdd y Golygydd yr wythnos wetha. Dw i ddim yn mofyn dim rhagor och impidens chi, canys pwy mor fawr rych chi'n meddwl ych bod chi, ag os byddwch chi'n gwneyd rhiw fysnes felne yn y dyfodol, dyma'r llythyr ola gewch chi byth .-ag yn dragowydd owrthw i, a bydd dim mynd ar ych papyr chi yn Ngh.ym.ri wedyn. "Caton pawb anwyl! dos neb ariod wedi dangos shwt shik i fi. Pan darllenes i y nonsens i Mali, dyna wedodd hi, Cofia di beth oedd Jon Jons Blananerch yn waid- Ma dynon mowr yn parchi dynon mowr" A sgrifena di Shon bach i'r papyre mowr yma sin dod mas bob cwarter, ag mi gei di barch. Ond rwi am roi un cynig arall i chi —am ych bod chi yn dangos tipyn o blwc ambell waith. Yr odd yn dda ofnadw gen ach clwed chin gweyd bod ni fel cenedl yn gaarchi gormod o'r dynon cryfion a'r pocedi mowron yma. Widdoch chi beth, ma Llynden yn spwilo dynon yn lan. Dyna Wiliam yn mab nawr. Ron ni'n meddwl gneyd rhwbeth 0 hano FE. Pwy wyddad na neise fe Fember o Parlament rwbrid, waith wir rodd tipin o allu i dad gidag 6. Ag mi 'heles i e i'r ysgol yn Tregaron am gwarter i bartoi. Wedin mi heles e i Lynden i shop Dreper. Ond ma fe wedi mynd nawr-dos .dim ond gneyd arian ar i fynydd e. Mi wedes i wrtho fe y byswn i yn i roi en y papyr, a dyma fi wedi cadw ngair. Ac am y ,merched bach yma, wel, wir dwn i ddim beth i weyd. Pan ddon nhw adre yma ar ol bod yn Llynden, ma nhwn1 ffril-ffrals o rybane i gid, a'u hate bach nhw fel gardd y ,sgweier o flode. Rhiw hen falchder felna, -dalla i ddim diodde fe. Fe fyse llawer i-llwya synwir i'r pregethwyrs yma bregethi yn i herbyn nhw na. phregethi ffilosoffi, a'r niw theologi fel ma'r dyn Cambell yna yn i neyd yn City Tempi byth a hefyd. Diolch yn fowr iawn i chi am hela'r papyr i fi, a'r Crismas Card i Mali. Rych chi'n dangos fod tipyn bach o synwyr gidach chi weithe. Llenyddieth i fi, a rhwbeth soft i'r wraig. Diw'r mynwed yma fowr o beth am fwyd cryf, odin nhw nawr-ag ma nhw eise fots! Fe fyddan eise cal i gneyd yn fleinoried nesa, ond mi fydd y mhen i'n isel cm gwelir menyw'n fleinor gidan ni. Wi'n nabod mynwed nawr os trigen mlynedd, a weles i ddim un neithe ddechreiwr cani, each bleinor, a beth ma nhwn wbod am fots, gwedwch. chi! Wi jest tori nghalon wrth feddwl os rin nhw wedi penderfyni cal fots, mi mhynan nhw. Mi fyn meniw i ffordd i hynan. Mai mor stiwpid a donki. Wel, gwdbi, a chofiwch ych maners rhagor. Iwers, wedi bod yn gandeirog o grac, SHON RHYS.
[No title]
AGORIR y Senedd gan y Brenin ar y 12fed o Chwefror, a disgwylir cynnulliad mawr ynghyd. MAE'R Barnwr Bryn Roberts, er yn flaenor Methodus, yn ymdaflu ei hun i ddifyrwch pobl y Deheudir. Y noson o'r blaen ichwareuai wyddbwyll ar ran Caerdydd yn erbyn tref o'r Rhondda, a sonir am dano fel inarchogwr diail mewn hela llwynog. CYNHELIR cyfarfodydd i amddiffyn yr Eglwys ar hyd a lied Cymru y dyddiau hyn. Mae'r esgobion wedi trefnu nifer o gad- gyrchoedd tra arddangosiadol, a dywedir fod cannoedd o bobl yn mynychu'r cyfarfodydd. Ond yn ol pob aigoelion 'does angen pryderu, oherwydd ni cheir mo adroddiad y Ddir- prwyaeth Eglwys o fewn y ganrif bresennol.
Am Gymry, Llundain.
Am Gymry Llundain. CYLCHGRAWN ARALL.-Alae eglwys Jewin wedi trefnu i gael argraffiad lleol o'r Ymwelydd Misol." Mae Charing Cross eisoes yn meddu ar fisolyn Y Glorian," ac ni fydd yn syndod genym weled eglwysi eireili yn dilyn eu esiampl. Pob llwydd i'r anturiaethau llenorol hyn. YMWELYDD o AWSTRALIA.—Bydd yn llaw- enydd i lu o ddarllenwyr y CYMRO LLUNDAIN A'R CELT glywed fod Mr. Bryceson Treharne, y cerddor, ar ymweliad a'r hen wlad ar hyn .0 bryd. Fel y cofir, bu Mr. Treharne yn aelod am dymor yn nghapel y Boro, ac oddiyno symudodd i fod yn organydd Capel Jewin pan gaed yr offeryn newydd i'r capel hwnw. Bu ei waith yn Jewin yn hynod o lwyddianus, a daeth i gryn fri yn y byd cerddorol fel athraw ac offerynwr o'r rheng flaenaf. Yn 1900 cafodd ei benodi yn athraw mewn cerddoriaeth i Brifysgol Adelaide, Awstralia, ac mae wedi cael gyrfa hynod o lewyrchus yno hefyd. Daw am chwe' mis o seibiant i'r wlad hon yn awr, a sicr y caiff groesaw cynes gan ei hen gyd- nabod. ANRHEGU PLANT CASTLE STREET.-Nos Wener yr wythnos ddiweddaf rhoddodd Mr. a Mrs. John Hinds eu gwledd flynyddol i blant eglwys Castle Street. Daeth torf o'r ieuenctyd ynghyd i fwynhau o'r wledd a'r moethau oeddynt wedi eu parotoi ar eu cyfer, ac nid gwledd yn unig a gaed, eithr trefn- wyd nifer o anrhegion i bawb o'r rhai bach. Yr oedd Mr. a Mrs. Hinds wrth eu bodd yn yddori yr ieuainc, ac yn ystod y noson caed difer o anerchiadau a chaneuon, ac hefyd nyfres o ddarluniau drwy gymorth y lantern er dyddori y dorf a rhai o olyg- feydd prydferthaf yr hen wlad' GWYL DEWI.-Mae bwriad ar droed i gynal gwledd Gwyl Dewi eleni o dan nawdd y Clwb Cymreig. Gan fod y clwb yn sef- ydliad hollol anenwadol feallai mai dyma'r cynllun goreu i uno pawb i wneyd y wledd yn hollol Gymreig a chenedlaethol. Gan fod cymdeithas Cymru Fydd wedi marw does yr un Oymdeithas arall all gymeryd y mater mewn llaw, a doeth felly y gwna rheolwyr y Clwb alw sylw at y pwysigrwydd o wneuthur trefniadau yn brydlon gogyfer a'r wyl. Y GYMDEITHAS BOLITICAIDD NEWYDD.— Mae'r haid fechan o wleidyddwyr proffes- wrol sydd newydd ffurfio cymdeithas wedi penderfynu ei rhedeg ar linellau bynheddig y Sais. Maen't am wneyd Cymru yn faes arbenig eu cenhadaeth, sef yw hynny, pery ymraniadau ar bob pwnc, a gwneyd cymaint a fedrant er rhwystro'r mudiad rhyddfrydol a chenedlaethol. Yr oeddem yn hyderu fod dyddiau y bradwyr a'r ymranwyr wedi darfod, ond wele haid o Sais-Gymry yn ceisio ail-godi yr hen difEygion gan ffurfio cymdeithas o ddisodlwyr politicaidd, heb un amcan yn y byd ond i ddwyn eu hunain i sylw'r cyhoedd. CASTLE STREET.—Caed cwrdd cymdeith- asol tra hwyliog yn neuadd Capel Castle Street nos Sadwrn diweddaf tan lywyddiaeth Mr. John Owen. Talentau lleol yn unig oedd yn cymeryd rhan ynddo, a chawsant lawer o hwyl mewn cyfres o fan gystadleuon mewn adrodd, canu, darllen, &e. Y mae'r gymdeithas lenyddol eleni mewn cyflwr tra llewyrchus, yr hyn sydd i'w briodoli i weithgarwch y rhai sydd wrth y llyw am y gauaf presenol. COLLED MR. A MRS. WILFRED ROWLANDS.— Ynglyn a'r ty doriad yn Hornsey, pan ymwelwyd a chartref Mr. a Mrs. Wilfred Rowlands gan ladron, y mae'n dda genym ddeall nad yw'r golled gymaint ag yr ofnid ar y dechreu. Ar ol i'r teulu ddychwelyd yr wythnos hon o Gymru gwelsant mai'r man bethau oedd wedi eu cymeryd yn unig, yr hyn a ddenygs mai dechreuwyr yn y grefft fu ar ymweliad a'r lie. Mae'r anrheg- ion dderbyniwyd ganddynt bron i gyd wedi eu cadw mewn diogelwch, a bydd hyn yn gysur i'r teulu a'u cyfeiilion lliosog. WALHAM GREEN.—Ail gychwynwyd y gymdeithas ddiwylliadol ar ol seibiant y gwyliau, nos Fercher, 9fed cyfisol. Trwy garedigrwydd Mrs. Thomas, Warwick Road, caed gwledd o de a chwrdd cymdeithasdl o nodwedd iachus ac addysgiadol. Llywydd- wyd gan y Parch. Llewelyn Edwards, M.A., a chaed unawdau gan Misses Judith Thomas a Myfanwy Lloyd; Mr. Idris Lewis, Mr. Bedford Morgan, a Mr. David Thomas. Adroddwyd gan Misses Gwladys Lloyd ac Edith Thomas, a rhoddwyd darnau cerdd- gar ereill gan Mri. Gomer Jones a'i gyfeill- ion, a Mr. John Humphreys ac ereill. Ar y diwedd caed cystadleuaeth mewn darllen difyfyr, a gwobrwywyd Miss Mary Thomas. Wedi canu Hen Wlad fy Nhadau," tan arweiniad Mr. J. Humphreys, ymadawodd pawb wedi llwyr fwynhau y noson. Y FEIBL GYAIDEITHAS.-Nos Lun diweddaf caed cyfarfod yr adran Gymreig o'r Gym- deithas Feiblaidd yn nghapel y Tabernac], King's Cross. Llywyddwyd gan Mr. Timothy Davies, A.S., Putney, a chynrych- iolid y gwahanol eglwysi crefyddol yno gan y Parchn. J. E. Davies, M.A. (Jewin), R. 0. Williams (Holloway), Crowle Ellis (St. Benet), Thomas Jones (City Road), ac ereill. Caed anerchiad rhagorol gan y cadeirydd ar waith y Feibl Gymdeithas a'u dyled ni Gymry i'w llafur, ac yna rhoddwyd braslun o'i hanes gan y Parch. J. C. Edwards a'r Parch. Thomas Jones. Ar y diwedd talwyd y diolch arferol i'r llywydd ac ereill ar gyn- ygiad y Parch. J. Crowle Ellis ac eiliad J. E. Davies, M.A., Jewin. Canwyd ya ystod y cyfarfod yn swynol iawn gan Mrs. R. T. Williams, Castle Street, a chyfeiliwyd yn fedrus gan Mr. D. Richards, A.R.C.O. Teneu iawn oedd y gynulleidfa am na roddid ond ychydig o hysbysrwydd am y cyfarfod i'r cylchoedd Cymreig. DEWI SANT, P ADDINGTON.-Y Gymdeithas Lenyddol.—Cafwyd dadl ragorol yn ystafeli y neuadd Eglwysig, nos Fawrth, Ionawr 8, ar yr hen bwnc pwysig ag sydd wedi bod gerbron y wlad bellach am ddegau o flyn- yddoedd ond a bery yn iraidd o hyd, sef A ddylai yr Eglwys yng Nghymru gael ei Dadgysylltu ?" Cymerwyd yr ochr gadarnhaol gan Mr. J. G. Lloyd, Southfields, a'r nacaol gan Mr. James Williams (Gwyd- fryn). Rhoddwyd rhesymau da gan Mr. Lloyd dros ddadgysylltiad, a dadleuodd ei ochr mewn modd galluog a dysgedig, ond ni fynai neb mo'u derbyn hwynt, a chwalwyd y cyfan i'r pedwar gwynt gan Gwyddfryn. Siaradwyd ym mhellach gan Mri. Owen Davies, Griffith James, Hugh Jones, Mrs. Richards, y caplan, ac ereill. Pan y rhoddwyd y mater i bleidlais, digon ydyw dweyd na ddadgysylltir yr Eglwys yn f uan yng Nghymru, os ydyw Eglwyswyr Cymru haner mor aiddgar dros yr Eglwys ag ydyw eu eydwladwyrEglwysig yn y brifddinas. -Cynghor Eglwysig.—Gwneir liwn i fynu o bymtheg 0 aelodau. Ei waith ydyw trefnu holl weithrediadau yr Eglwys yn y lie. Da genym ddeall fod yr hen swydd- ogion, Mr. David Evans, Trysorydd, a Mr. Hugh Jones, ysgrifenydd, wedi eu hethol i'w swyddau y flwyddyn hon eto. a;