Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

NODION 0 SIR ABERTEIFI.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

NODION 0 SIR ABERTEIFI. Son am etiioliadau y Cynghor Gwladol a Sirol sydd yn mhob pentref yn awr, a lied debyg y ceir gweled etholiadau gwresog iawn. Ni fydd llawer o gyfnewidiadau yn y C-yiigor Sirol hwn, ac ar hyn o bryd nid oes son am dros dri aelod yn ymddiswyddo yng ngodre y Sir, ac un neu ddau yn y gogledd. Ond lied debyg y caiff amryw o aelodau y Cyngor Gwladol gryn drafferth i gadw eu swyddi, oherwydd mae nifer o ymgeiswyr yn barod o'r newydd, bron yn mhob plwyf. Daeth hanes marwolaeth Mr. Whiteley gyda dychryn, oherwydd mae amryw o'r sir wedi bod, ac yn bod, yn ei wasanaeth. Heddwch i lwch yr hen bererin. Boreu dydd Mawrth, 29ain cyfisol, bu farw lira. Jones, 5, William Street, Aberystwyth, gwraig Mr. Richard Jones, engine driver. Yr oedd yn ddynes o rinweddau nodedig, ac yn barchus iawn gan bawb yn y dref. Yr oedd yn aelod ffyddlawn yn Shiloh (C.M.), a barn pawb oedd, pan yn hebrwng ei gwedd- illion marwol i'r gladdfa dydd Sadwrn, fod Mrs. Jones wedi cwrdd a'r Gwr fu ar Galfaria, oherwydd, yn ysbrydol, rhoddodd pol) help i gario'r groes yma. Mae aelodau Soar, Llanbedr, wedi ethol Prof. Thomas, o Abertawe, fel organydd, ac mae wedi dechreu ar ei waith yn ganmol- adwy. Cynyddu yn araf mae yr eglwys hon, a phob nos Sul mae y capel yn llawn o wrandawyr. Mae ymdrech neillduol yn cael ei wneud gan rai aelodau ieuainc Capel Mair, Aber- teifi, i gychwyn organ jimd, ac i gyrraedd eu hamcan maent wedi penderfynu cynnal cyfarfod cystadleuol ddydd Gwener y Grog lith. Rhoddir gwobr o bum' gini, dwy gini, ac un gini, am y solo oreu, y cystadleuwyr i ddewis ton eu hunain. Hefyd rhoddir gwobrwyon o gini, a hanner gini am adrodd "Gwron y Conemaugh" (Cynon- fardd). Gan ei bod yn adeg y gwyli iu, a phob mantais yn cael ei roddi gan y G. W.R., hyderir y bydd y cyfarfodydd yn llwydd- ianus. Penodwyd Mr. Albert Rees, grocer, yn drysorydd, a Mri. J. Jones, 24, St. Mary Street, a Harry Rees, 3, Brecon Terrace, Cardigan, yn ysgrifenyddion, y rhai fydd yn ddiolchgar i roi pob manylion pellach. Yr wythnos ddiweddaf claddwyd Mr. James Herring, mab yng nghyfraith y Parch. T. J. Morris, Aberteifi. Mab ydoedd i'r diweddar Parch. John Herring, gwr enwog gyda'r Bedyddwyr. Gadawa un ferch, sef Mrs. Morris, 18, North Road, Aberteifi, gyda'r hon mae pob cydymdeimlad yn ei phrofedigaeth. Chwith gan Fethodistiaid ardal Aberaeron glywed fod y Parch. T. Thickens ar ym- adael a'r dref i fugeilio un o eglwysi yr Hen Gorph yn Llundain. Os cwblheir yr undeb, fe gaiff pobl Willesden fugail rhagorol a phregethwr hynod o gymeradwy. Boed i golled Aberaeron droi yn ennill i chwi yn Llundain. Mae gwyr Llambed yn bwriadu cynnal Eisteddfod fawr tua chanol mis Awst nesaf, gyda'r bwriad o sicrhau swm o arian er clirio dyled y neuadd drefol yno. Buwyd yn hir iawn cyn sicrhau un math o neuadd yn y dref, ac ar ol cael un, mae llawer o helbul ynglyn a thalu am dani.

[No title]

Advertising