Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
EAST LONDON WELSH CHURCH, BRIDGE ST., BURDETT RD., Bow, E. r,J"r. A COMPETITIVE MEETING Will be held at the CONGREGATIONAL HALL, Burdett Rd. (Opposite the Fire Station), on Thursday, March 14th, 1907. PRIZES OFFERED FOR GLEE AND SOLO SINGING, RECITATIONS, ETC., ETC. For full Particulars apply W. J. WILLIAMS, Secretary, 133, Burdett Road, Bow, E. HOLBORN TOWN HALL. .>.J' A GRAND J""?- COISCEKT, Complimentary to the REV. M. H. EVANS, B.D., B.A., Of GOGINAN, ABERYSTWYTH, will be given at t,he above place on MONDAY, APRIL 8th, 1907. Artistes- Miss MAGGIE DAVIES, Mr. TREFOR EVANS, Mrs. TUDOR RHYS. Compe ti tions— Adroddiad Pleserfad y Niagara (T. Leci) (Allan 0 Trysor/a'r Adroddwr trwy ganiatad Cynalavj, B?iton Ferry), Prize-SIL VER CUP. Adroddiad "YrHenWeinidog" (IslwynJ (I rai dan 17 oed.) Prize-SILVER CUP. Hon. Sees.. — D. E. GRIFFITHS, Erwyd House, Penygraig, Glam. and TOM JENKINS, 507, Battersea Park Road, S.W. WALHAM GREEN. OYNHELIR -CYFARFOD PREGETHU- Yr Eglwys uchod Y Sal a Hos Lun, Chmefpop 24ain aV 25ain, Pryd y pregethir gan y Parchn. T. CHARLES WILLIAMS, M.A. (Menai Bridge). a J. HUGH EDWARDS (Dulwich-Gol. y Welsh Review). Trejn yr Oedjaon— Set, am II Parch. T. C. Williams. 3 Parch. J. Hugh Edwards. (In English 4 fL30 Parch. T. O. Williams. Nos LtJK 7.30 Parch. T. C. Williams. Gwneir Casgliad ym mhob Oedfa at y Drysoria. Adeiladu. TIe a ChJynghedd DYDD IAU, CHWEFROR 21ain. 1907. Cymerir rhan gan 1!1 Miss Beatrice. John, R.C.M. Miss Violet Brace, R.C.M. Mr. Maldwyn Evans. Mr. D. Jones. (lulew Caron-1 lvlr. A. Lawrence. Mr. Tom Jenkins- Mr. Idris Lewis, R.C.M. Cadeirydd — WILLIAM EVANS, Ysw. Te 5.30 hyd 7.30. Cyngherdd 8 o'r gloeh- To'jynau—Swllfc yr Un.
EDWARD LHUYD,
EDWARD LHUYD, YR HEN IEITHYDDWR CYMREIG. (Crynhodeb o'i hanes, a roddwyd ger bron Cvmdeithas y Cymmrodorion gan y Parch. R. Ellis, M.A) Un o feibion mwyaf athrylitbgar Cymru ar derfyn y 17eg a dechreu'r 18ed ganrif oeJd Edward Lhuyd, yr ieithyddwr. Mae'n wir mai fel ieithyddwr y cofaodiref yn bennaf gennym ni'r Cymry heddyw, ond gellir dyweyd am dano ei fod yn grynhodeb cyflawn o ddysgeidiaeth ei oes fel ieithydd, hanesydd, hynafiaethydd a gwyddonydd. Nid oes hanes cyflawn am dano wedi ei roddi i'r byd hyd yma, ond mae cyflawnder o ddefnydd ei goffa i'w cael yn hen lyfrgell y Bodleian, Rhydychen. Wrth chwilio i'r hen ysgrifau hyn yr ydym wedi dod o hyd i lawer o ffeithiau newydd yn ei hanes, a phan gwblheir yr ymchwiliad efallai y cyhoeddir y manylion am ei fywyd prysur, er ennyn brwdfrydedd gwladgarol haneswyr ieuainc yr oesau a ddel. G-anwyd ef yn 1662, a hanai o du ei fam o hen deulu enwog Gogerddan yn Sir Aber- teifi. Ei dad oedd Edward Llwyd, o Llan- vorda, ger y Mwythig, ac er y credid yn lied gyffredin mai yng Ngheredigion ei ganed, dywed ef ei hun yn un o'i lawysgrifau mai yn Loppington y Mwythig y gwelodd oleu dydd cyntaf. Yno hefyd y treuliodd ddydd- iau ei febyd, ond mae'n eglur fod cysyllt- iadau agos a pharhaus rhyngddo a theulu ei fam yng Ngheredigion, ac mae llawer iawn o'i lythyrau wedi eu gyrru iddo gan ei fodryb Elizabeth Price, Gogerddan. Cesglir mai yng Nghroesoswallt y cafodd ei addysg foreol, a daw'r ffaith iddo gael ei dderbyn i Goleg yr Iesu yn 1682 i brofi ei fod wedi cael addysg dda. Yr oedd Coleg yr Iesu y pryd hwnnw yn fath o brifysgol i'r Cymry, ac edrychid arno fel coleg neu sef- ydliad cenedlaethol. Am bum' mlynedd bu Lhuyd yno yn cael ei addysg, a dengys y nodion am dano nad oedd yn berchen ar lawer o gyfoeth. Ei athraw oedd Dr. Plott, gwr a fu'n achos profedigaeth iddo ar lawer e achlysuron ar ol ymadael ar coleg. Nid efrydydd tawel meudwyol oedd Lhuyd, eithr yn wr ieuanc llawen, bywiog, a'i gyf- eillion yn llu. Yn 1683 agorwyd amgueddfa naturiaethol yn Rhydychen, a gwnaed Edward Lhuyd yn un o'r cynorthwywyr, a llanwodd y swydd yn dra boddhaol hyd 1690. Yn y flwyddyn honno bu farw'r prif geidwad, a phenodwyd Lhuyd yn olyn- ydd iddo, a chadwyd y safle hyd ei farw yn 1709. Yr oedd yn efrydydd cysson a thrylwyr, ac nid esgeulusai un gangen o wybodaeth. Ynglyn a llawer o faterion hynatiaethol a gwyddonol ysgrifenai yn ami i brif weithiau y cyfnod, a cheid papurau ganddo o bryd i bryd ger bron cymdeithasau dysgedig. Rhydd engraifft iddo ar un achlysur feirn- iadu daliadau a gwyddorau Dr. Plott ac ereill trwy ffugio llythyrau yn enw cyfaill o'r hen wlad. Pe gwybyddid mai Lhuyd ei hun oedd yr awdwr ni chawsai'r llythyr un der- byniad, ond gan mai rhyw wr dierth o Ogledd Cymru oedd ar waelod y llith addefwyd ei dysg a'i phwysigrwydd Bu'n ceisio cyhoeddi rhai gweithiau, ond oherwydd ei dylodi nis gallai wneyd fawr o ddim. Cafodd ei benodi i ysgrifennu rhai ffeithiau i gyhoeddiad adnabyddas yn ei ddydd, ond.nid oedd y tal yn fawr. Bu'n teithio llawer ar draws Cymru, Alban, a'r Iwerddon, a chasglodd lu rnawr o ffeithiau gwyddonol a hynaiiaethol ar ei bererindodau. Efe oedd awdwr y gwaith Archaolocia Britannica," yr hwn a gy- hoeddodd yn 1707, ddwy flynedd cyn ei farwolaeth anamserol.
Y BYD CREFYDDOL.
Y BYD CREFYDDOL. [GAN Y DIWINYDD.] [NODYN.-Bydd yn bleser mawr gennym dderbyn unrhyw gwestiynau, &c., oddiwrth ein darllenwyr ynglyn a'r golofn hon. Gwnawn ein goreu i roddi pob goleuni fedrwn iddynt ynglyn ag unryw anhawsterau.—Editor, Y CELT.] Y Tawelwch. Syndod fel y mae y terfysg wedi cilio o'r byd crefyddol, ac fel y mae tawelwch wedi cymeryd ei le. Y mae cyfnod cyntaf y papur newydd yn hanes y Ddiwinyddiaeth wedi mynd heibio, fel y tybiwn, ond peidied neb a meddwl fod taw wedi ei roddi ar y prophwydi serch hynny. Gwir fod Mr. Campbell fel Elias gynt yn neilltuedd y mynydoedd, ond cofier mai paratoi ar gyfer y dyfodol y mae, ac nad gwr ydyw adawa faes heb ei fedi ar ol dechreu arno. Dy- wedir, a hynny ar awdurdod da, mai paratoi ei lyfr ar y Ddiwinyddiaeth Newydd y mae Mr. Campbell yn Nghernyw, ac y caiff y llyfr hwnnw ei gyhoeddi yn gynnar yn y gwanwyn gan y Mri. Chapman a Hall. Gobeithio y bydd beirniadiaeth yn decach a grasusach pan ymddengys y gyfrol, oblegid nid ydyw beirniaid Mr. Campbell wedi dangos gormod o foneddigeiddrwydd hyd yn hyn. Dioddef yn fawr y mae llu ereill o'r proffwydi hefyd-er engraifft, wele holl flaenoriaid y Parch. E. W. Lewis, yng Nghlapham Junction wedi ymddiswyddo- am fod eu gweinidog yn ddigon gwrol i feddwl drosto ei hun, ac yn meddu ar ddigon o asgwrn cefn i daflu ymaith lyffetheiriau y gorphenol. Hynod mor gul yr ydym, hefyd, er ein hymffrost. Yng N ghymru. Llawen gennym weled arwyddion y deffroad meddyliol yn cyrraedd Cymru, oblegid, dyn a wyr, y mae ceidwadaeth. grefyddol wedi teyrnasu yn ddigon hir yng Nghwlad y Bryniau, a dydd gwyn fydd dydd yr ysgar tragwyddol yn ei hanes. Buotii yn dychryn lawer tro fod Cymru ar golli un o'r cyfleusterau rhyfeddaf a gogon- eddusaf gafodd cenedl erioed i agor drws cyfnod crefyddol newydd yn ei bywyd ei hun. Ofer hollol fuasai y Diwygiad pe na ddygai ffrwyth meddyliol a chymdeithasol- ond prin yr ymddangosai yr arwyddion. Efallai y gall y cyffro newydd yma yn y byd crefyddol wneud rhywbeth er defnyddio dynamics y diwygiad i'r cyfeiriadau hyn. Da gennym, fbdd bynnag, glywed y Parch. Witton Davies a D. Adams (Hawen) yn rhoi croesaw cyhoeddus i'r ad-drefniad yma ar hen athrawiaethau cred. Gwyddom oil fod Proff. Witton Davies yn un o ysgolheigion en- wocaf Cymru, a phen ym mhen ag arweinwyr blaenaf mudiadau meddyliol y dydd. Ac nid hawdd i neb o honnom anghofio y cyffro greodd Hawen efo'i Paul yng Ngoleuni'r Iesn." Felly nid yw y croesaw yma ond yr hyn ddisgwyliem oddiwrthynt hwy, ond diolch am dano Mae'n brawf fod Cymru. yn fyw feddyliol eto. Y Prif Athraw Lodge. Efallai nas gwyr pawb o'n darllenwyr fod y Prif Athraw Lodge, o Brifathrofa Bir- mingham, yn un o wyddonwyr blaenaf yr oes, yn ogystal ag yn gryn dipyn o ddiwin- ydd. Y mae yntau yn un o brolfwydi y Ddiwinyddiaeth Newydd, a dyna brif ddigwyddiad y bythefnos ddiweddaf ydoedd ei anerchiad ef ar Esgyniad Dyn" yn Whitefield's Tabernacle. Rhoddwn ei brif bwyntiau yr wythnos nesaf.
[No title]
Cyfeirier pob Gohebiaeth a fwricdir in colofnau, The Editor"; pab Hysbysiad, a phob Archeb, The Manager," a'r oll i'r Swyddfa, Cell Office," 211, Gray's Inn Road, London, W.C.