Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
2 erthygl ar y dudalen hon
Manion ym Myd Lien.
Manion ym Myd Lien. MWYNDER HAF YN Y GAUAF. Ar ddiwrnod oer yn y gauaf, pan y mae eira ar lawr ac eira yn y cymylau llwydwyn uwch ben, pwy all feddwl am fyned trwy'r -coed dan segura, neu chwilio ochrau'r ffyrdd wyneb-heulog am syfi? Ac eto, dyna geisir gennym wneud gan ddau lyfr sydd o'n blaen. Ac nid ofer y cais chwaith. Os na ,chawn fyned ar ddeudroed drwy'r wig, gan yr oerfel, hyfryd yw myned yno mewn dych- ymyg os na chawn flas syfi ar dafod, da eu cael ar gan. Tro trwy'r Wig yw enw'r llyfr cyntaf oriau gydag adar, coed, a blodau," gan Richard Morgan (Caernarfon: swyddfa Cymry). Llyfr bach del, ar ddull Cyfres y y Fil," gan Mr. Owen M. Edwards, ydyw. Nid oes eisieu dweyd wrth neb o bobl pen- Sir Aberteifi pwy yw'r awdwr, nag wrth lawer ereill, gobeithio. Ond boed hysbys i'r rhai sydd wedi esgeuluso gwybod anai prifathraw ysgol yn Llanarmon yn Ial ydyw, un yn deall ei grefft ar lyfr gystal ag mewn ysgol. Y mae'r ysgrifau yn llawn hyd y fyl o wybodaeth, a honno mewn iaith gain, hawdd i bawb ei deall. Y mae llyfr iel hwn yn peri i ni obeithio am fwy o eang- rwydd i lenyddiaeth Cymru. Pwy a wyr na ddysg gwyddoniaeth siarad Cymraeg croyw ? Beth bynnag, llyfr Mr. Morgan sydd yn awr gennym yn dwyn gwanwyn a chathl foddawg coed," ys dywed hen fardd, i ganol .eira ac oerfel. Dyma gyfle am swllt i alltud- .ion y trefydd gael dychwelyd i fin nentydd, i lwybrau deiliog, i lechweddau disglair. Ac wedi'r tro trwy'r wig, bydd ganddynt fwy o wybodaeth a glanach calon, gwell Cymraeg -a siriolach byd. Mae'r darluniau'n dda, yr .argraffwaith yn foddhaus ond ei gynhwys- iad yw ei ragoriaeth. Bydd darllen hwn yn lwy o werth i bobl ieuaingc o Gymru yn Llundain, na llond gauaf o ofer-ddifyrion. Ac wedi bod am dro dan y coed, dyma ■SyjVr Maes gan y Parch. W. Bowen, Pen y Groes (Ammanfod: Gwilym Vaughan). Y mae enw'r argraffydd yn gymharol newydd "ond gan ei fod yn gwneud ei waith yn gymeradwy, mae'n debyg o gael ei nabod gan fwy. Am y bardd, y mae enw ei lyfr yn nodweddiadol o'i awen. Nid oes yma un ymgais at fod yn fawreddog na phell: cana yn yr ymyl, gerllaw i gartref pob meddwl; .cana yn felus, yn syml, yn loyw i'r ymad- rodd. Nid oes yma feithder na thrymder i flino neb, na rhodres i dramgwyddo neb. Y mae'r rhan fwyaf o'r testynau yn grefyddol; -a, cheir yma bryddest ar y Ficer Pritchard," yn llawn o naws diwygiad Cymreig. Ca llawer calon fwynhad a budd o'i dudalenau. Amryw. Mae llawer ymgais wedi ei gwneud at sefydlu cylchgrawn cenedlaethol Saesneg i Gymru, ond hyd yn awr methiantau truenus ydynt wedi bod. Bu'r Red Dragon" rhyw chwarter canrif yn ol yn amcanu at ddod yn ddylanwad, ond daeth nychdod cyn hir i'w gyfansoddiad. Wedi hyn gwnaeth "Wales" ymddangosiad byr a "Young Wales" ymdrech drafferthus i gadw anadl eisoes, ac yn awr wele The Nationalist ar fin gwneud ei ymddangosiad. Cyhoeddir ef yng Nghaerdydd, a dygir ef allan yn fisol am ,dair ceiniog. Nid yw cylchgronau'r mis wedi hollol anwybyddu'r Ddiwinyddiaeth newydd, ond ni cheir un datganiad mor bendant gan neb o'r ysgrifenwyr fel ag a geir yn Yr Ymof- ynydd am Chwefror. Dywed am ddysgeid- iaeth Campbell ei bod yn gefnogaeth i'r rhai sydd wedi dioddef pwys gwawd ac -erlidiau'r blynyddoedd i fyned ym mlaen gyda rhagor o wroldeb a llawenydd." Maen amlwg fod yr Undodiaid yn dra chyffredinol yn cefnogi syniadau Mr. Campbell.
Am Gymry Llundain.
Am Gymry Llundain. GWYL DEWI.—Mae'r Eglwyswyr a'r Ym- neillduwyr yn prysur baratoi y dyddiau hyn gogyfer a'u gwahanol gynulliadau ar adeg Gwyl Dewi. CINIO'R CYMRY.—Mae'r gwleddoedd blyn- yddol geir yn yr Hotel Cecil wedi bod yn dra phoblogaidd hyd yn hyn, ac mae argoelion y daw cynulliad mawr yno eleni eto. YR ETIIOLIADAU.-Gan fod yr etholiadau Dinesig yn cymeryd lie ar yr 2fed o Fawrth, bydd llu mawr o'r Cymry yn cael eu cadw o'n prif wyliau eleni. Felly mae'n rhaid wrth fwy o weithgarwch y dyddiau nesaf yma os am eu cadw mewn bri. DYCHWELIAD YR AELODAU.—Daeth amryw o'r aelodau Seneddol yn ol i'r ddinas ddi- wedd yr wythnos ddiweddaf er mwyn bod yn eu lleoedd ddydd Mawrth. Mae argoel- ion y ceir tymor tra bywiog yn St. Stephan hefyd. ENGLYNU IDDYNT.—Dyma fel y canodd un bardd i'r "aelod Seneddol Cymreig," a chafodd wobr am hynny yn Eisteddfod y Tabernacl nos Sadwrn diweddaf, tan feirn- iadaeth y Parch. T. Mardy Rees :— TR AELOD SENEDDOL CYMREIG. Haeddol frawd o ddelfrydau-goludog, Gwyliedydd ein hawliau Arweinydd Gwlad y Bryniau I euraidd oes ei rhyddhau. 31ab y Wawr. Ar ol y fath ganmoliaeth y hynyna dylai pob aelod anfon tocyn rhad i'r awdwr i oriel y Ty am y tymor! Engyl Seisnig."—Mae ami i gyfieithiad llythrennol yn edrych yn bur ddoniol os nad yn ffol. Mewn darn a roddwyd i'w gyf- ieithu yn un o'n heisteddfodau yn ddiweddar, yr oedd yr enw Anglo-Saxon," a throdd un o'r ymgeiswyr ef yn Engyl Seisnig." Feallai fod y brawd yn gywir pan yn son am yr oesau gynt, ond erbyn heddyw mae'r nod- wedd angylaidd wedi cilio'n llwyr o'r hiliog- aeth. AWDURDOD AMAETHYDDOL.—Wrth glywed cyhoeddi am ddarlith Mr. Goronwy Owen, B.A., ar Gwlad Hud a lledrith," ebe un ferch ieuanc wrth arall mewn capel nos Sul diweddaf, "I did not know that Mr. Owen was an authority on agriculture." Gwlad yd a llefrith oedd hi wedi ddeall oedd y testyn Chwi gyhoeddwyr byddwch yn fwy eglur o hyn allan EISIEU GWEITHWYR.—Gan fod gornest etholiadol lied galed yn cael ei hymladd y dyddiau hyn, a llawer o guro ar ryddfryd- wyr y Cyngor Sirol Llundeinig mae galwad taer am weithwyr i gynorthwyo'r ymgeiswyr yn ystod y nosweithiau nesaf yma. Gan fod Mr. H. J. Williams yn aelod mor rhagorol tros ranbarth Islington, ac yn gystal Cymro, boed i bawb o'n darllenwyr yn ei ranbarth fynd fel un gwr i'w helpu yn awr. Ceir yr holl fanylion ond ymofyn yn ei swyddfa, 132, Upper Street, Islington. CASTLE STREET.—Nos Fercher, lonawr 30, cynhaliwyd cyfarfod llwyddianus yn neuadd y capel hwn, tan nawdd Cymdeithas Ym- drech Cristionogol. Llywyddwyd gan Mr. John Hinds, a chaed araith edmygol o waith y gymdeithas ganddo. Rhoddwyd danteith- ion ar y dechreu gan Mr. John Williams, a chymerwyd rhan yn y cwrdd dilynol gan Misses M. Davies, Edith Thomas, a'r Mri. W. Rees a Bedford Morgan, ynghyd ag anerch- iad hapus gan y Parch. Herbert Morgan, y gweinidog. DIWYDIANAU CYMREIG.-Mae Cymdeithas y Diwydianau Cymreig wedi agor cartref newydd yn y ddinas. 0 hyn allan cyfeiriad y gymdeithas fydd 5A, Belgrave Mansions, Grosvenor Gardens, Victoria. Agorwyd y lie newydd ddydd Iau diweddaf, ac mae yno amrywiaeth helaeth o nwyddau Cymreig ar werth yn awr. Y CYMMRODORION. Traddodwyd papur dysgedig a dyddorol o flaen aelodau y gym- deithas anrhydeddus hon nos Ian, Chwefror 7fed, gan Mr. R. Ellis, M.A., o Goleg yr Iesu, Rhydychain. Testyn y papur oedd "Edward Lhuyd yr leithyddwr," a chan fod Mr. Ellis yn cael ei gyfrif yn un o'r awdur- dodau goreu ar hanes yr hen ysgolor Cym- reig hwnw yr oedd cryn ddyddordeb ynglyn a thraddodiad y papur. Yn anffodus nid oedd Mr. Ellis wedi cael digon o amser i gwblhau ei ysgrif-oherwydd atiechyd yn ei gartref-a bu'n foddlawn ar roddi braslun o'i hanes fel gwyddonydd a hanesydd. Llanwyd y gadair gan y Prifathro Rhys, o Goleg yr lesu, ac ar y diwedd caed anerch- iadau edmygol o'r awdwr a'i destyn gan Parch. Elfet Lewis, Mr. W. Evans, Dr. Daniell, Mr. Goronwy Owen, Parch. J. Machreth Rees, a'r Parch. Herbert Morgan. Disgwylir y gwna Mr. Ellis gyhoeddi cyfrol ynglyn a'r darganfyddiadau mae wedi wneud yn hanes Edward Lhuyd. YR UNDEB.-Nos Wener, Chwefror 8fed, bu aelodau'r gwahanol gymdeithasau, tan nawdd yr Undeb, yn chwareu Senedd yn neuadd capel Charing Cross Road. Mae dadleuon Seneddol bob amser yn ddyddorol gan Gymry ieuainc Llundain, ond caed tipyn o newydd-deb y tro hwn. Yr oeddent wedi penodi Mr. T. J. Evans yn Brif Weinidog, yr hwn a lwyddodd i ffurfio gweinyddiaeth o ferched—y Suffragette Parliament cyntaf mewn hanes, mae'n debyg. Cynrychiolid y Rhyddfrydwyr gan y rhai hyn, a chefnogid y "cabinet" gan nifer is-ysgrifenyddion, y rhai a gawsant y caniatad i siarad ar ran eu pennaethiaid benywaidd. Wedi cael dat- ganiad y Weinyddiaeth ar wahanol faterion, cynygiwyd pleidlais o ddiffyg ymddiried- aeth yn ei gwaith, yr hyn a wnaed gan Mr. H. P. Roberts, o gymdeithas Kings Cross, fel arweinydd y blaid Doriaidd. Roedd yn amlwg fod Mr. Roberts yn ddadleuydd gwych, a chafodd dderbyniad cynnes yn ei gondemniad o'r Weinyddiaeth ferchedaidd, atebwyd ar ran y Llywodraeth gan Mr. D. T. Davies, B.A., is-ysgrifenydd y trefedig- aethau. Ar ol hyn cododd Mr. T. Huws Davies fel arweinydd y blaid Wyddelig gan ddylifo ei hyawdledd ar ben y Llywodraeth. Nid oedd atebion Miss Gwladys Davies fel ysgrifenydd yr Iwerddon wedi ei foddhau, a galwai am ddatganiad mwy pendant ar bwnc Ymreolaeth. Ond buan y chwalwyd ei resymau gan Mrs. Winton Evans-fel ysgrif- enydd tros Gymru-yr hon a enillodd glust y Ty a'i hyawdledd ysgubol a'i donioldeb. Wedi hyn caed areithiau gan Mr. D. R. Hughes, fel cynrychiolydd Chamberlain Mr. John Rowlands, fel cenedlaetholwr Cymreig; Mr. Bowen fel arweinydd plaid Llafur, ac ereill, a'r oil yn curoar y Weinydd- iaeth. Cefnogwyd hwy gan Dr. Ivor Thomas, Mr. Owen, Wilton Square, ac ereill. Ar y diwedd siaradodd y Prif-Weinidog yn am- ddiffyn ei ddewisiad o Weinyddiaeth y rhyw deg. Ond er taered ei apel am gefn- ogaeth 'roedd y man bleidiau wedi ym- dynghedu i'w erbyn, a gorchfygwyd y Weinyddiaeth gyda mwyafrif o saith Gwnaeth Mr. H. J. Williams, C.S.LL, ei ran yn wir ddeheuig fel llefarydd y Ty am y noson, ac er mor afreolus y bu'r blaid Wyddelig ambell dro, llwyddodd i gadw