Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

Am Gymry Llundain.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

trefn a hapusrwydd ynghanol yr holl ddad- leu. Gwasanaethodd y Mri. A. E. Rowlands a R. Pierce Jones fel clercod y Ty am y noson. WALHAM GREEN.—Nos Fercher 6ed cyfisol, yng nghyfarfod y Gymdeithas Ddiwylliadol, darllenwyd papur gwir alluog a dyddorol gan Mr. Huw R. Gruffydd ar Vivisection." Wedi i Mr. Gruffydd ddarllen ei bapur caed sylwadau ar y diwedd gan y Mri. Williams ac E. Parry Evans, B.Sc., ynghyd a'r lly- wydd-Mr. J. Thomas, Warwick Road. Nid oeddym yn synu gweled y cynulliad yn llai nag arferol y tro hwn, gan fod yna ddau gyfarfod arall yn milwrio yn ei erbyn i raddau helaeth, sef cyfarfod Cymdeithas Ddirwestol y Merched y nos Lun blaenorol, a Dadl Seneddol, o dan nawdd yr Undeb yn Charing Cross Road y nos Wener dilynol. BORO'Nos lau, Cliwefror 7fed, cyn- haliodd yr Eglwys uchod ei gwyl de a'i chyngherdd blynyddol. Y cadeirydd ethol- edig eleni ydoedd Mr. David Thomas, Liverpool Road, N. Brodor o Daliesin yw Mr. Thomas, a chura ei galon yn gynes at ei genedl a'i wlad. Ceir ef bob amser yn barod i gynorthwyo pob achos teilwng, a pherchir ef yn fawr gan ei gydgenedl. Agorwyd addoldy y Boro' yn Guildford Street, lonawr Sydd, 1807. Pregethwyd ar yr amgylchiad gan y Parchn. D. Davies, Abertawy, a D. Jones, Crugybar. 'Roedd y cyngherdd eleni felly yn gyngherdd bencanmlwyddol i'r eglwys yn y lie. Ddaeth torf liosog ynghyd, a chafivyd eyfarfod hyfryd. Gwasanaethwyd wrth y byrddau te gan Mrs. Thomas Jones, Chatsworth Road, Homerton Mrs. M. John, Great Dover Street; Mrs. J. B. Evans, High- gate Miss Mary Williams, Ommany Road Miss Kate Jenkins, Chryssell Road Mrs. Morgan, Mostyn Road Mrs. J. Jones, Union Road; Mrs. T. Evans, Exmouth Street a Mrs. H. D. Thomas, Roman Road. Yn y cyngherdd datganwyd gan y Misses Agnes Parry, Louie James, Marguerite Evans, Maggie Williams, Mri. Thomas Thomas a Dan Price. Cafwyd ganddynt nifer o gan- euon newyddion yn gymhlith a'r hen yn dra effeithiol a swynol, yr hyn a wnaeth y cyng- herdd yn un o'r goreuon a gafwyd yn y Boro' erioed. Nid oeddem wedi clywed Miss Louie James a Miss Maggie Williams o'r blaen, ond rhaid dweyd ddarfod iddynt fyned drwy eu gwaith yn rhagorol. Meddant ar leisiau da, canant yn loyw swynol a deallus. Os parhant eu hefrydiau megis yn awr, gellir disgwyl llawer oddiwrth y ddwy. Am y pedwar ereill y maent yn dra adna- byddus a chymeradwy, ac esgynant yn iiarhaus yn eu gwerth a'u dylanwad. Ni chlywsom hwy erioed yn canu yn well na'r tro hwn. Y mae Mr. Dan Price yn gerddor perffaith. Cyfeiliwyd yn rhagorol iddynt gan Miss Jenny Jones, A.R.C.SVT. -Marw Gojfa.—Dydd lau, Cliwefror 7fed, bu farw Mrs. Edwards, 23 Windmill Street, Lam- beth, yn 50 mlwydd oed. Merch ydoedd i Evan ac Ann Jones, Tanybryn, Machynlleth. Daeth i Lundain yn 1872 unodd mewn priodas a Mr. Edwards, 23, Windmill Street, lie y cawsant fasnach eang ym mlaen hyd yn awr. Nid oedd iechyd Mrs. Edwards wedi bod yn gryf ers amser; dioddefai oddiwrth ddolur y galon. Bu farw yn dra sydyn gan adael ei phriod gyda deg o blant i alaru ar ei hoi. Dydd lau diweddaf claddwyd hi ym meddrod y teulu yn Tooting, yng ngwydd torf o'i chydnabod. Gwein- yddwyd gan y Parch. D. C. Jones. Cydym- deimlir a'r galarwyr yn nydd eu trallod. Merch iddi hi oedd y gantores swynol, Miss Harriet Edwards. SHIRLAND ROAD. Yr hael a ddychymyg haelioni." Cafwyd engraifft nodedig o hyn vn y lie hwn nos Tau, Ionawr y Slain, gan Mr. a Mrs. Price, Cambridge Gardens, y rhai sydd o hyd yn gwneud rhyw weithred hael. Y tro hwn aethant y tu hwnt i'r cwbl trwy roddi swper i'r oil o bobl ieuainc yr eglwys, ar raddfa na chaed ei bath mewn cysylltiad a chapel o'r blaen. Er fod Mr. Price yn ddyn prysur iawn, eto mae yn llwyddo i roddi amser at lawer o achosion crefyddol a dyngarol. Tua dechreu y flwyddyn bu yn dioddef gan afiechyd trwm, a bu yn gaeth yn ei ystafell am dros bythef- nos, ond yn lie cwyno a beio iIawd, bu yn gyfle iddo ddychymygu haelioni, a ffrwyth y bythefnos honno oedd y swper a gaed. Yr oedd y neuadd wedi ei threfnu a'i haddurno yn addas i'r amgylchiad, y byrddau yn llawn a'r muriau wedi ei gorchuddio ag arwyddeiriau cyfarchiadol, a rhaid eu bod wedi costio llafur a meddylgarwch nid bychan i'r ddeuddyn caredig hwn, ond yr oedd yn amlwg fod y cyfan yn llafur cariad. Eisteddodd dros gant a hanner o bobl ieuainc, heblaw y blaenoriaid a'i gwragedd, wrth y byrddau, y rhai oeddent wedi eu hulio a'r cigoedd goreu gyda melusion a ffrwythau o bob math i ddilyn. Yr oedd yno hefyd liaws o aelodau ereill yn gwas- anaethu ar y gwahoddedigion. Wedi'r wiedd caed caneuon gan Mr. Ivor Foster, Mr. Lloyd Jones, Miss Price, Miss Davies, Miss James, a Miss Williams, a chwareuwyd ar y crwth gan Mr. Tom Jones. Cafwyd hefyd areithiau doniol ac adeiliadol gan Mr. Price, Mr. Anthony, a Mr. H. Hughes. Cynygiwyd ac eiliwyd diolchgarwch i Mr. a Mrs. Price gan Meistri W. Davies a E. J. Davies. Cymerwyd darlun o'r ystafell cyn, ac ar ol i'r gwahoddedigion eistedd wrth y byrddau. Yr oedd pob dyn a dynes ar lyfr yr Eglwys wedi cael gwahoddiad personol trwy y post, a cymerwyd pob gofal gyda'r cyfeiriadau, ond os darfu i'r gwahoddiad fethu cyrraedd rhyw rai, am nad oedd cyfnewidiad eu cyf- eiriad wedi hysbysu y bn hynny. Amcan y swper oedd cael gafael ar bawb er cydna- byddu a hwy yn well nag y gellir mewn cyfarfodydd cyffredin. Yn sicr mae Mr. a Mrs. Price wedi deall mae y Theology oreu i ddynion ieuainc Llundain yw yr un cymdeithasol a chyfeillgar. JEWIN NEWYDD.—Nos Fawrth diweddaf cynhaliwyd cyfarfod o dan nawdd y Gym- dithas Ddiwylliadol, wedi ei drefnu gan Miss J. Lucretia Jones a Miss Maggie A. Jones. Yn ystod y tymor yr ydym wedi cael nifer o gyfarfodydd llewyrchus, ac nid oedd hwn yn ol i'r un o honynt. Yr oedd y trefniadau ynglyn a'r cyngherdd, yn ogystal a'r danteithion, yn adlewyrchu cryn lawer o glod i ddeheurwydd y ddwy chwaer ieuanc, a sicr yw fod pawb oedd yn bresennol wedi mwynhau eu hunain. Cadeiriwyd gan un o wyr ieuainc yr Eglwys ym mherson Mr. Richard Owen, a than ei arweiniad ef cyn- yrchwyd brwdfrydedd a dyddordeb yn yr oil o'r gweithrediadau. Gwasanaethwyd gan y talentau canlynol Miss Sibley, Miss Lalla Thomas, Miss Annie Thomas, Mr. J. Phillips, Mr. J. Pugh, a Mr. Stanley Davies, ynghyd a pharti o King's Cross. EALTNGY Sabboth nesaf, 17eg cyfisol, bydd cynrychiolwyr o'r Oyfarfod Misol yn talu ymweliad ag Ealing, gyda'r amcan o sefydlu Eglwys yn y rhanbarth hon o'r ddinas. Er fod achosion crefydyol yn cael eu cynnal yma yn wythnosol er's amser, eto yr oedd y cyfeillion yn cael eu hamddi- fadu o freintiau ag ordinhadau Eglwysig, a theimlid y pwysigrwydd o hynny. Felly anfonwyd cais at y Cyfarfod Misol i gy- meryd yr achos mewn llaw, a chynnyrch hynny ydyw ymweliad y ddau gynrychiolwr, sef y Parch. F. Knoyle, B.A., a Mr. T. J. Anthony. DEWI SANT, PADDINCTON-Nos Fawrth, Chwefror 5ed, yn ystafell yr Eglwys uchod, gerbron aelodau y Gymdeithas Lenyddol,. darllenwyd. papur galluog gan y Parch, Gwilym H. Havard, B.D., gweinidog Wilton Square, ar Awstin o Hippo." Yn ddiam- heu mae Mr. Havard yn ddarllenwr mawr, ac yn feddyliwr dwfn. Yr oedd olion hynny yn eglur weledig ar ffrwyth ei fyfyrdod, Esgob oedd Awstin, o Hippo, yn Africa, yn y 4dd ganrif, ac ystyrir ef, y pwysicaf ym mhlith y Tadau Apostolig, 11 eu y Latin Fathers," fel eu gelwid. Dychwelwyd ei i'r ffydd Gristionogol drwy weddiau taerion ei fam, Monica. Pregethodd lawer ar ol ei droedigaeth, ac y mae llawer o'i weithiau ar gael byth, ac yn destynau efrydiaeth yn yr prif ysgolion a'r colegau, ond prif ddiben ei fodolaeth, er hynny, fel y dywedai Mr.. Havard, oedd gwrthwynebu heresiau a chyf- eiliornadauei ddydd. Siaradwyd ym mhellach ar y pwnc gan y Parch. W. Richards, caplan, a chafwyd un o'r nosweithiau mwyaf adeil- adol ydym wedi ei gael yn ystod y tymor.