Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
Am Gymry Llundain.
Am Gymry Llundain. YR HEN SANT.—Coffa am Dewi bu Cymry'r ddinas yr wythnos hon. Yr oeddem oil yn hynod wladgarol am wythnos beth bynnag. ETHOLIAD.-Heddyw y cymer etholiad y Cyngor Sir le, ac mae'r brwdfrydedd wedi bod yn eithafol am yr wythnos. Mae tynged y ddinas am y tair blynedd nesaf yn dibynu ar waith yr etholwyr heddyw. CADGYRCH WAEL.—Mae'r etholiad eleni wedi bod yn hynod am yr ysbryd iselwael fu ynglyn ag ymosodiad y wasg Doriaidd ar y cyngor a'i waith. Ni fu erioed un cadgyrch lie y gwnaed cymaint o honiadau disail, ac os na enilla'r Toriaid y tro hwn, wel ffarwel am un ymdrech arall. CYNGHERDD CENEDLAETHOL.—Mae rhagol- ygon disglair i gyngherdd Castle Street heno. Gan fod cantorion glew wedi eu sicrhau a rhagolygon am araith genedlgarol gan Mr. D. Lloyd-George, diau y gwelir y lie yn llawn o wrandawyr. CYMRY WOOLWICH.—Mae atyniad arbennig i Gymry ardal Woolwich nos Iau nesaf. Rhoddir cyngherdd mawr yn Woolwich Town Hall ynglyn ag achos Oymreig y lie. Mae rhai o'n cantorion goreu i ganu yno, a sicr y gwelir cynulliad teilwng o'r achos yn y neuadd hefyd. CWRDD FFARWEL.-Gan fod y Parch. Edward Owen, B.A., Barrett's Grove, wedi penderfynu myned i Gymru y mae'r eglwys yn y lie yn trefnu cwrdd ymadawol iddo nos lau, Ebrill 4ydd. A'i OFN Y COMMISSIWN ?—Daeth yr offeir- iad, y Parch. Hartwell Jones, i neuadd capel ymneillduol i draddodi darlith ddysgedig i Gymry ieuainc y ddinas, a daeth olTeiriad arall, y Parch. J. Crowle Ellis, i gymeryd y y gadair, ond ni welwyd yr un gweinidog ymneillduol yn y lie. A gofnodir hyn fel diffyg cydweithrediad rhwng offeiriaid a gweinidogion ger bron y Commissiwn presennol ? BUDD-GYNGHERDD. Mae'r cyngherdd a drefnir yn Holborn Town Hall, ar yr 8ed o Ebrill, er budd yr ysgolor ieuanc addawol, Parch. M. H. Evans, Goginan, yn addaw troi allan yn wir lwyddianus. Dywed y Prifathro Prys am dano ei fod yn un o wyr disgleiriaf y Cyfundeb, ac onibae i'w iechyd dori lawr y byddai yn rheng flaenaf ei goleg. Da gennym ddeall ei fod yn graddol wella, ond fe fydd raid iddo fyned am seibiant am dymor cyn y gall ddechreu ar ei efrydiau. Mae'r achos yn un gwir haeddianol, a go- beithio y cymer pob capel at y tocynau i'w gwerthu allan yn llwyr. WALHAM GREEN. Nos Iau, Chwefror 2lain, cynhaliodd yr Eglwys hon ei chyfar- fod te a chyngherdd blynyddol, yr hwn a drodd allan yn hynod o lwyddianus, yr hyn sydd i'w briodoli i raddau helaeth i weith- garwch y ddau ysgrifennydd, sef y Mri. John Humphreys ac R. Gomer Jones. Yr oedd y te a'r danteithion ar y byrddau o 5.30 hyd 8 o'r gloch, ac yn y cyfamser mwyn- hawyd o'r cyfryw gan liaws o aelodau yr eglwys yn hen ac yn ieuainc. Am 8 o'r gloch dechreuwyd y cyngherdd, ym mha un y cymerwyd 'rhan gan y cerddorion adna- byddus a ganlyn :—Mr. Maldwyn Evans, D. Jones (Llew Caron), ac A. Lawrence, a'r Misses Violet Brace a Beatrice John. Ad- roddwyd hefyd yn ei ddull doniol arferol gan Mr. Tom Jenkins, King's Road. Caf- wyd hefyd anerchiad Cymraeg rhagorol gan y cadeirydd, William Evans, Ysw., o'r Bwrdd Masnach. Wedi pasio y diolchiadau arferol, terfynwyd y cyfarfod trwy ganu "Hen Wlad fy Nhadau," o dan arweiniad Llew Caron. JEWIN NEWYDD.-O dan nawdd yr Eglwys, ac mewn cysylltiad a'r Gymdeithas Ddiwyll- iadol, cynhaliwyd un o'r cyfarfodydd mwyaf dyddorol a gaed eto mewn perthynas ag ieuainc yr Eglwys. Yr amgylchiad oedd cyfarfod neillduol i groesawu y newydd ddyfodiaid i'r Eglwys. Yr oedd yr awenau yn nwylaw'r gweinidog, a than ei arweiniad ef cafwyd cyfarfod hwyliog ac adeiladol. Datganwyd gan Miss Grace Joel, Miss Cassie Davies, a Miss Annie Benjamin, Mr. Morgan Jones, Mr. Tudor Evans, a Mr. Ben Davies, a chyfeiliwyd gan Miss J. Lucretia Jones. Cafwyd hefyd nifer o anerchiadau croesaw- gar i'r newydd ddyfodiaid gan nifer o ber- sonau perthynol i'r Eglwys. Yn ychwanegol, yn ol caredigrwydd arferol y teulu, arlwy- wyd y byrddau gan Miss Lizzie Rees, Stepney. Teimlwyd fod swyn cartref yn holl weithrediadau y cyfarfod. DEWI SANT, PADDINGTON.-Y Gymdeithas Leiiydtiol.-Nos Fawrth, Cliwefror 19eg, yn y neuadd Eglwysig, o flaen aelodau y Gym- deithas hon, traddodwyd darlith gan y Parch. W. Richards, caplan, ar yr Eglwys BIwyfol "-oddiallan ac oddifewn. Cynyg- iwyd pleidlais o ddiolchgarwch iddo gan Mr. James Williams (Gwyddfryn), ac eiliwyd gan Mr. William Rees (Llew Caron). NosSul, Chwefror 24.ain.—Pregethwyd yn Eglwys Dewi Sant, gan y Parch. L. Roderick, tra y gwasanaethai y Parch. W. Richards, yn Camberwell. Byddai newid pulpudau, fel yma, weithiau, yn sicr o brofi yn fendithiol i fugeiliaid a phraidd. Eisteddfod Notting- hill Gate.-Nos Wener diweddaf, cipiodd Miss Maggie Pierce, o'r Eglwys uchod, y llawryf am unawd contralto, allan o tuag ugain o gystadleuwyr, yn yr Eisteddfod Seisnig hon. Llwyddiant iddi eto, yn y dyfodol. CYFARFOD MISOL LLUNDAIN.—Cynhaliwyd y Cafarfod Misol yng nghapel Charing Cross Road, nos Fercher, Chwefror 27ain, dan lywyddiaeth y Parch. P. Hughes Griffith. Ar ol darllen a chadarnhau'r cofnodion dar- llenodd yr ysgrifennydd lythyr oddiwrth y Parch. J. Thickens, Aberaeron, yn hysbysu y bydd yn dechreu ar ei waith fel gweinidog yn Willesden Green, yr ail Sal ym Mai. Rhoddwyd adroddiad y cenhadon fu yn Willesden Green yn cynorthwyo yr Eglwys i ddewis swyddogion—enwau'r rhai sydd eisoes wedi eu cyhoeddi yn y KELT—a chadarnhawyd ef. Penodwyd y Parch. F. Knoyle, B.A., Mri. W. Prytherch Williams, a'r J. Thomas, Warwick Road, i fyned yno i'w derbyn nos Fawrth. Derbyniwyd adroddiad y cenhadon fu yn Ealing yn sefydlu yr Eglwys. Ymunodd 37 o aelodau a'r Eglwys nos Sul, Chwefror 17eg. Penod- wyd pwyllgor i ystyried y cwestiwn o sefydlu Cartref Cymreig, y pwyllgor i'w wneud i fyny o'r gweinidogion, ynghydag un cyn- rychiolydd o bob Eglwys, y Parch. P. Hughes Griffith yn gynullydd. Caniatawyd cais Eglwys Jewin yn gofyn am ragor o swydd- ogion. Enwyd y Mri. W. Prytherch Wil- liams, W. Evans, Wilton Square, John Burrell, Willesden Green, ac 0. Morgan Owen i fyned yno nos Sul, Mawrth lOed, ar ran y C.M. i gynorthwyo yr Eglwys yn yr etholiad. Derbyniwyd a chadarnhawyd adroddiadau y pwyllgor arianol a phwyllgor cymanfa'r Pasg. Penodwyd y trysorydd, Mr. 0. Morgan Owen, fel cyfarwydd- wr sirol y Genhadaeth Dramor. Pasiwyd pleidlais o gydymdeimlad a Mrs. D. Lloyd-George ar farwolaeth ei mham. Pen- derfynwyd cynnal y Cyfarfod Misol nesaf wythnos yng nghynt, sef Mawrth yr 20fedr yn Jewin. Gohiriwyd ystyriaeth o adroddiad Pwyllgor yr Achosion Newyddion hyd y Cyfarfod Misol nesaf. Rhoddodd y Parch.. R. 0. Williams rybudd o gynygiad ynglyn, a Chasgliad yr Achosion Newyddion. Ter- fynwyd trwy weddi gan y Parch. J. E. Davies, M.A. Yn ddilynolcynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus- dan arweiniad y Parchn. P. H. Griffiths ac R. 0. Williams, a chymerwyd rhan yn y cyfarfod gan y Parch. J. E. Davies, M.A. Mr. R. Vaughan Thomas, ac ereill. Y mater oedd Dawn Crist."
Advertising
NEW JEWIN WELSH CHAPEL, FANN STREET, E.C. "r, TEA & CONCERT (in aid of a special Church Fund) ON THURSDAY EVENING, MARCH 14t4, 1907, wm Chairman- GWILYM OWEN, ESQ. wm Tea on the Tables at 6.30. Concert 8 o'clock prompt. Tickets One Shilling Each. HOLBORN TOWN HALL. -,r- A GRAir COMPETITITB Y¡!J !J!J !J COltCB&T, Complimentary to the REV. M. H. EVANS, B.D., B.A., Of GOGINAN, ABERYSTWYTH, will be given at the above place on MONDAY, APRIL 8th, 1907. Artistes- Miss MAGGIE DAVIES, Mr. TREFOR EVANS, Mrs. TUDOR RHYS. Coiitpetitions- Adroddiad "Pleserfâd y Niagara" (T. Leoiy (Allan o Trysorfa'r Adroddwr trwy ganiatad Cynalaw, Briton Ferry). Prize-SILVER CUP. Adroddiad Yr Hen Weinidog (Islwjtn), (I rai dan 17 oed.) Prize-SILVER CUP. Hon. Secs.-D. E. GRIFFITHS, Erwyd House, Penygraig, Glam, and TOM JENKINS, 507, Battersea Park Road, S.W. MMOC DRVIES, H.R.e.M., Teacher, L.C.M. Voice Production and Solo Singing. Telephone- 8914 Central. For Terms: Apply, 118, Euston Road.
[No title]
Bydd yn hyfrydwch gan y Golygydd dderbyn Gohebiaeihau ac erthyglau i'w hyslyried, ond iiis gellir ymrwymo i ddychwelyd ysgrifait gwrthodedig.