Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
MEWN UNDEB /)\ MAE NERTH. Undeb Gymdeithasau Diwylliadol Cymreig Llundain. Tymhor 1906-07. "J' Llywydd HOWELL J. WILLIAMS, Ysw., Y.H. CYNHELIR Cyfarfod Terfynot yr Undeb mw YN JEWIN, NOS SADWRN, MAWRTH 16,1907, Y LLYWYDD YN Y GADAIlt. Traddodir Anerchiad gan DR. T. J. MACNAMARA, A.S. Datgenir yn ystod y Cyfarfod gan Miss GWLADYS ROBERTS a Mr. R. FESTYN DAVIES. Cyfeilydd Mr. WALTER HUGHES. Danteithion o 6.30 hyd 7.45. YCyfarfod am 8. Tocynau-Swllt yr un-i'w cael gan Ysgrifenyddion y gwahanol Gymdeithasau, neu gan Ysgrifenyddion yr Undeb- ARTHUR E. ROWLANDS, 89, Iffley Road, Hammersmith, W. li. PIERCE JONES, 27, Argyle Street, W. NEW JEWIN WELSH CHAPEL, FANN STREET, E.C. -1 'J- "j' TE A & C ONCERT (in aid of a special Church Fund) ON THURSDAY EVENING, MARCH 14th, 1907. wm Chairman- GWILYM OWEN, ESQ. <S £ «?5> Tea on the Tables at 6.30. Concert 8 o'clock prompt. Tickets One Shilling Each. 'J" A GRAND m.- EISTEDDFOD will be held at the CONGREGATIONAL CHURCH, GUNNERSBURY, ON THURSDAY, MARCH 21. IMP Guinea Prizes for Solos, &c. Programmes may be obtained on receipt of I td. stamps from 2 MR. A. MONTGOMERY, 9, Dorset Road, S. fEaling.
UNIVERSITY COLLEGE OF WALES,…
UNIVERSITY COLLEGE OF WALES, ABERYSTWYTH. (One of the Constituent Colleges of the University of Wales) President-The Bight Hon. LORD RRNDFL. PrincipaZ-T. F. ROBERTS, M.A. (Oxon.), Ll.D. (Vict.). The next Session begins on October 1st, 1907. Students are prepared for Degrees in Arts, Science (including the applied Science of Agriculture), Law and Music. Sessional Composition Fee, XIO, with additional Laboratory Fees for Science Students. Registration Fee Xl. Men Students reside in Registered lodgings in the town, or at the Men's Hostel. Warden: Prof. J. W. Marshall, M.A. Women Stu- dents reside in the Alexandra Hall of Residence for Women. For full particulars respecting the General Arts and Science Departments, the Law, Agriculture, and Day Training Departments, the Department for the Training of Secondary Teachers, and the Hostels, apply to J. H. DAVIES, M.A., Registrar.
Y Comissiwn."
Y Comissiwn." omlSSlwn. Un o'r pethau hynotaf a grewyd gan un Weinyddiaeth erioed yw'r Ddirprwyaeth ynglyn a'r Eglwys yng Nghymru. Yr oedd yr amcan yn un eithaf priodol, a dewisiad y Dirprwywyr yn un hollol foddhaol; ac ar y cychwyn yr oedd pawb wedi credu y buasai gwaith hollol anghenrheidiol yn cael ei wneuthur ganddo. Ond, wele, erbyn heddyw mae'r cynlluniau wedi ymddrysu a'r Dirprwywyr wedi myned yn benben. Yr wythnos ddiweddaf credid ar un adeg y byddai amryw o'r aelodau yn ymddiswyddo. Yr oeddent wedi myned i gamesbonio teler- au'r ymholiadau; cwerylent a'u gilydd yn gyhoeddus ac yn y dirgel: a thrinid rhai o'r tystion ganddynt mewn modd hollol an- foneddigaidd. Bu raid gohirio yr ymchwil- iad am wythnos er rhoddi amser i'w tym- herau oeri, a dod i ryw benderfyniad pa fodd i ddwyn y gwaith ymlaen, os ydynt i eistedd ymhellach ar y fath achos. Eisieu Eglurhad. Myn y Barnwr Vaughan Williams roddi ei eglurhad ef ar waith ac amcan y Ddir- prwyaeth, ac mae Mr. Sam Evans wedi Jlurfiio barn hollol wrthwynebol i'r cadeirydd. Mae'r ddau mor ystyfnig ag y gall cyfreith- wyr fod, a'r canlyniad yw fod yn rhaid galw am gyflafareddwr er penderfynu cydrhyng- ddynt a chwilio llwybr canol, am y gweddill o'r daith. Sibrydir fod y Gwir Anrhyd- eddus D. Lloyd-George a'r Arglwydd Ganghellydd wedi eu penodi i wrando cwynion y ddwyblaid, ac mae'n dra amheus a Iwyddant i foddloni'r naill ochr na'r Hall. Ond, a chaniatau fod yn bosibl cyfanu'r rhwyg presennol, y mae'n rhaid addef bellach fod y Ddirprwyaeth wedi ei lladd. Gall gau y drws cyn gynted ag y mynno o ran dim lies a wnel i achos Oymru neu o gymorth a fydd i'r Weinyddiaeth wneud ei barn ar bwnc Datgysylltiad. Mae'r ffaith fod yr ymgecru parhaus, y gwahanol farnau ar delerau'r ymholiad, a'r partiaeth eithafol sydd i'w ganfod yn yr holiadau, heb son am driniaeth wael i'r tystion, wedi pery i'r wlad lwyr golli pob ymddiriedaeth yn y Ddir- prwyaeth ryfedd hon. Diffyg Trefn. Mae'r gwahanol esboniadau a wnaed o dro i dro gan y Dirprwywyr ar faes eu ymholiad wedi camarwain y tystion yn ddirfawr. Dyma sydd wedi achosi'rfath arddangosiad llipa mae'r Ymneillduwyr wedi ei wneud hyd yn hyn. Mae'r pwyllgor canolog sydd wedi ei ffurfio gyda'r bwriad o roddi tystiolaethau wedi mynd ar grwydr liollol, ynghyntaf, yn y dull y mae wedi trefnu'r ffigurau, ac yn ail yn y personnau maent wedi eu dewis i osod y ffeithiau ger bron. I'r tystion rhoddir cwestiynau ar ffeithiau a ffigyrau, nad ym- drinir a hwynt yn gyffredin gan weinidogion, a disgwylir i weinidogion tawel i'w hateb, a goddef cael eu croesholi ar yr hyn y byddai'r man of business yn fwy cartrefol ynddo. O'r ochr arall y mae'r Eglwyswyr wedi gofalu am experts ym mhob cangen o'r gwaith, a'r canlyniad yw fod yr Ymneilldu- wyr druain yn cael y gwaethaf o'r fargen. Eisieu Diwygiad. Yn ol yr hyn sydd eisoes wedi ei ddangos ger bron y Ddirprwyaeth y mae un peth yn eglur y bydd raid cael diwygiad ynglyn ag ef, set ynglyn ag ystadegaeth yr enwadau. Yn ei hawydd i ddangos ei nerth y mae pob eglwys bron wedi boddloni ar roddi'r ffigyrau fel amcangyfrif bob amser yn y llyfrau ystadegol a berthyn i'r enwad. Y canlyniad yw nas gellir dibynnu dim ar y ffigyrau hyn pan eir i'w profi ar lw neu o flaen ymholiad cyfrifol fel y Ddirprwyaeth hon. Nid oes un o'r pregethwyr ymneill- duol wedi cadarnhau'r ffigyrau geir yn llyfr swyddogol ei enwad, a phan ofynir cwesti- ynau ar achos y gwahaniaethau, gosodir y bai ar ysgwyddau ereill o hyd. Mewn un eglwys yn y Rhondda yr oedd nifer yr aelodau am y flwyddyn ddiweddaf yn gwahaniaethu ym mhedwar o'r llyfrau, a phan ofynid i'r gweinidog am eglurhad dywedai mai ysgrifennydd yr Eglwys oedd yn gyfrifol am y cyfan. Pan y gwyddis mai eisieu ffeithiau noeth sydd ar y Ddirprwy- aeth, ofer yw siarad ar amcangyfrif, ac hyd nes y bydd Ymneillduwyr yn barod i gytuno ar hyn, ofer fydd cario'r gwaith yn ei flaen. Cyngor Sir Llundain. Dydd Sadwrn diweddaf bu Llundain yn ethol Cyngor Sir newydd. Am ddeunaw mlynedd mae'r Rhyddfrydwyr wedi dal yr awenau, er i'r pleidiau am unwaith fod yn gyfartal, ond y tro hwn trowyd y fantol, ac etholwyd y Toriaid gyda'r mwyafrif o 40. Ni fu cadgyrch ddinesig erioed mor bybyr a hon, a gweithiodd y ddwyblaid yn egniol. Yr oedd y Toriaid mewn lliafrif o 48 yn y cyngor diweddaf, ond llwyddasant i ysgubo hwn ymaith a'i droi yn fwyafrif sylweddol. Ar ol cipio'r Byrddau lleol, ac yn awr ar ol ennill y Cyngor Sir, bydd yn ddyddorol gwylied beth wna'r blaid newydd. Y mae Llundain ym mhell ar ol mewn llawer o bethau, a gelwir am welliantau parhaus. Golyga hyn gynnydd dirfawr yn y treth- oedd, a bydd yn ddyddorol gwylio pa nifer o bethau newydd a ddygir ymlaen gan y dorf newydd sydd ar y Cyngor yn awr. Ni Iwyddodd ond dau o Gymry i gadw'u seddau. Rhoddodd pobl Battersea Mr. William Davies ar ben y rhestr, a chafodd Mr. H. J. Williams ail-ymddiriedaeth ei ranbarth ynta.u yn South Islington.