Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

Cymodi'r Dirprwywyr.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Cymodi'r Dirprwywyr. Er nad yw'r Ddirprwyaeth Eglwysig wedi cyfarfod yr wythnos hon, y mae pob lie i gasglu fod y gwahaniaethau a fodolai cyd- rhwng y Cadeirydd a Mr. S. T. Evans, ac ereill, wedi ea symud am ychydig ddyddiau. Gall yr ymholiad fyned yn ei flaen yn lied hwylns am rai wythnosau eto, ond mae'n sicr fod pob dyddordeb ynglyn a'i waith wedi ei golli gan y cyhoedd, ac na fydd yr adroddiad a rydd i Dy y Cyffredin ond o ychydig leshad i'r rhai a fwriadant dynnu allan Fesur Dadgysylltiad erbyn y Senedd- dymor nesaf. Ar ol y triniaethau anheg a gafodd rhai o'r tystion, a'r cwestiynau plen- tynaidd a roed iddynt ar amryw droion, y mae amryw o bersomiau oeddent wedi bwr- iadu ymddangos, yn ail ystyried eu safle, ac yn awyddus am ymddwyn tuag at yr holl Ddirprwyaeth gyda'r dirmyg a haedda, gan ei anwybvddu yn hollol. Sonir yr wythnos hon fod y Barnwr wedi cael eglurhad ar y Comissiwii gan Mr. D. Lloyd-George a'r Arglwydd Ganghellydd, a'i fod yn barod i gymeryd gwedd fwy eang ar yr ymholiad o hyn allan. Prin y gallwn gredu am y Barnwr y gwnaiff ildio i geisiadau Mr. S. T. Evans, nac ychwaith i fani bwyllog yr Athro Henry Jones. Hyd yn awr mae'r holl haid wedi bod yn rhyw anghytuno a'u gilydd, ac er fod rhai o bleidwyr y Ddirprwyaeth yn llawenhau yn y ffaith y ceir eisteddiadau yn ystod yr wythnos ddyfodol gellir cymeryd yn ganiataol nad yw'r cyfan ond heddwch tros amser y ffaith yw, mae'r Ddirprwyaeth mor farw o ran dylanwad a phe cauesid y drysau yforu. Etholiadau Cymru. Erbyn hyn mae'r holl etholiadau ynglyn a'r Cynghorau Sir Cymreig wedi eu cwbl- hau, a dengys y ffigyrau fod y Toriaid wedi enill yn ddirfawr trwy Dde a Gogledd. Bu brwydro caled mewn llu mawr o etholaethau, a brwydrau capel ac eglwys oeddent ran amlaf. Mae'r mwyafrif Radicalaidd yn y deuddeg Sir wedi ei leihau, tra mewn un neu dclwy o'r Siroedd gellir cyfrif y pleidiau bron yn gyfartal. Beth sydd i gyfrif am y eyfnewidiad rhyfedd hwn? Yn un peth nid yw'r wlad wedi boddloni ar waith y Wein- yddiaeth ynglyn a Mesur Addysg a Mesur Dadgysylltiad, a'r canlyniad naturiol yw fod llu mawr o'r etholwyr yn myned yn ddifater neu yn hollol wrthwynebol i'r polisi glas- dwraiddpresennol. Peth arall, mae'r cadau eglwysig wedi eu trefnu yn hynod o effeith- iol yn awr, ac os na ddihuna'r Ymneilldu- wyr a'r Rhyddfrydwyr yn y man, bydd amryw o'r prif wersylloedd yn syrthio yn yr ymgyrchoedd nesaf. Ceir engraifft nodedig arall o anrhefn a difaterwch yr enwadau ym- neillduol yng Ngliymru ynglyn a threfnu tystiolaeth erbyn y Ddirprwyaeth Eglwysig, Mae'r Ymneillduwyr wedi bod yn cysgu ac yn dadleu a'u gilydd tra mae'r Eglwyswyr wedi dihuno i'w cyfle. Y canlyniad yw, fod eu hachos yn ymddangos yn llawer gwell o flaen y cyhoedd Seisnig, nag yw mewn ffaith yng Nghymru. Yr un fydd hanes y brwyd- rau etholiadol nesaf. Os na threfnir y byddinoedd yn awr mewn pryd, daw adeg pan y bydd raid rhoddi'r awenau i ddwylaw dieithr, a gwae Gymru fydd hi pan ddel tan reolaeth estroniaid lleol.

DATHLU GWYL DEWI.