Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
EISTEDDFOD CITY ROAD.
EISTEDDFOD CITY ROAD. Rai blynyddau yn ol Eisteddfod City Road .oedd yr uchel wyl flynyddol a geid ymyag Cymry'r ddinas, a deuai lluoedd o bell ac .agos i gymeryd rhan ynddi. Parhaodd ei bri am ychydig dymorau, a gwnaeth les dirfawr i'r ysbryd cerddorol a llenyddol yn ein mysg, ond pan yr ymgeisiodd efelychu y Genedlaethol yn ei maintioli daeth awr ei chwymp. Ar ol hyn daeth Falmouth Road i'r adwy, ond mae'r cyfeillion y tu deheuol i'r .a-fon wedi rlloddi'r.goreii i'r fath waith am beth amser, ac eleni wele'r hen gapel eto yn ymaflyd yn y mudiad gan gynnal gwyl hynod o Iwyddiannus ac addawol yn y Shoredith Town Hall. Nos Iau, Mawrth 7ed, y caedy cynulliad, a llwyddodd y brodyr i gael torf enfawr yno ynghanol tymor o fan gyfarfodydd oeddent yn sicr o fod yn atyniadau gwrthwynebol ar lawer ystyr. Nid yw'r Cymro Llundeinig, rhagor un Cymro arall, heb ei derfynau, a phan ddaw galwadau arno o wythnos i wythnos, a theirgwaith yn yr wythnos, am brynnu tocyn i gyngherdd neu Eisteddfod leol, y syndod yw fod cynifer wedi eu cryn- hoi ynghyd y noson hon. Mae'n wir fod rhaglen gampus wedi ei threfnu, ac 'roedd rhagolygon am gystadlu brwd, yr hyn a gaed. Daeth Mr. Wilfred Jones i feirniadu gwyr y gan, gofalwyd am gloriannu'r beirdd gan "Machreth," a'r llenorion gan y Parch. Herbert Morgan, B.A., y cyfieithu gan Mr. W. E. Davies, a'r arlun- wyr gan Mri. H. Watkins, E. A. Mitchell, a '• Relo," ynghyd a Mr. T11 dor Rhys ar yr .adroddwyr. Arweinid y gweithrediadau gan Mr. Maengwyn Davies, cadeirwyd gan Mr. Abel Simner, yr hwn a gyfrannodd bum gini at yr achos, a gwasanaethodd y Mri. Ebenezer Hughes ac Eddie Evans fel ysgrif- .ennyddion medrus a hynod gweithgar. Anaml y caed gwell trefn ynglyn ag un- rhyw Eisteddfod leol ag a gaed yn hon. Caed yr holl gystadlu drosodd o fewn ter- fynnau amserol, a chadwyd y cyfan i fynd gyda medr a brwdfrydedd o'r dechreu i'r diwedd. Bu cystadlu ym mhob adran bron, a chyhoeddwyd y rhai a ganlyn yn fuddugol ar y gwahanol destynau :— Unawd ar y berdoneg, dan 16 oed: 1, Miss Violet Boyton, Green Lanes 2, Master C. H. Rowlands, New Southgate. Dau Englyn, "Yr Enfys," Mr. John Phillips, Treforris, Abertawe. Unawd soprano, Nant y Mynydd," Miss Annie Thomas, Hackney. Cyfieithu darn o'r Gymraeg i'r Saesneg, Miss A. E. Jones, Clapham. Adroddiad, "Gwraig y Meddwyn," Miss Jennie Davies, Falmouth Road. Pedwarawd, Selene," Mr. Ted Thomas, Morley Hall, a'i gyfeillion. Unawd tenor, Yr Hen Gerddor," Mr. J. Bedford Morgan, Castle Street. Traethawd, Lie cariad yn adferiad cym- deithas," rhanwyd y wobr rhwng Mr. W. P. Roberts, Coleg Handsworth, Birmingham, a Mr. Robert Parry (Ffynonfab), Treffynon. Cyfieithu darn o'r Saesneg i'r Gymraeg, Mr. R. Pierce-Jones, Eglwys Brunswick. Unawd contralto, Song of Thanks- giving," Miss Maggie Pierce, Dewi Sant. z;1 Am dynu cyfres o luniau, Mr. John Richards, Knightsbridge. Adroddiad, darn Seisnig o "Hamlet," Miss Florence Ranee, Forest Gate. Unawd baritone, Border Ballad," Mr. E. J. Elias, Wilton Square. Cystadleuaeth mewn arluneg i blant, Master Ernest Jones, City Road. Deuawd T.a B., "Y Delyn a'r Crwth," Mr. Bedford Morgan, Castle Street, a Mr. Jack Evans, Jewin. Prif ddarn corawl, gwobr ugain punt, -daeth tri o gorau ymlaen, sef cor Seisnig "Willesden, cor Clapham Junction, a chor
HFDD AC UNDEB AR ODYDD GWYL…
HFDD AC UNDEB AR ODYDD GWYL DEWI. <¡¡. <O'O' Bioti Gnffydd wrth yr Athro: Dim undeb d,twedaist ti ? 'Rym ni'n berffaith unol a heddychol. Yeh di a'r Barnwr sy'.i-i ffraeo!
EISTEDDFOD CITY ROAD.
City Road. Y dernyn oedd Gwrando fy ngeiriau Arglwydd,"o waith Mr. J. T. Rees, a chaed canu tra boddhaol arno. Llwydd- odd y cor Seisnig i roddi portread cywir o'r gwaith, datganiad eglur, a thonyddiaeth berffaith o'r dechreu i'r diwedd. Yr oedd ffrwyth ymarferiad parhaus i'w weled yn eglurar y cor. Aeth y ddau gor Cymreig yn wallus yn y donyddiaeth, ac er fod lleisiau rhagorol ynddynt yr oedd diffyg rehearsals digonol i'w ganfod yn dra diam- heuol. Am hynny cor Willesden, o dan arweiniad Mr. Waddell, aeth a'r clod a'r pres. Canwyd can. yr Eisteddfod gan Mr. Maldwyn Evans, ac ar y terfyn caed "Hen Wlad fy Nhadau" gan y dorf tan arweiniad Llew Caron. Y BEIRNIADAETHAU. TRAETHAWD, II LLE CARIAD YN ADFERIAD CYMDEITHAS." Dylid llongyfarch y pwyllgor ar eu gwaith yn dewis cystal testyn ac yn cynnyg cystal gwobr am draethu arno. Ar y llaw arall dylid dweyd mai lied anffodus fuont wrth gyfieithu'r penawd i'r Saesneg. Y mae'n wir mai charity ddefnyddir yn y cyfieithiad awdurdodedig, He y ceir cariad yn Gymraeg, ond fe ddefnyddir y gair mewn ystyr llawer cyfyngach erbyn heddyw. Y mae charity yn gyfystyr ag elusen heddyw yn yr arfer gyffredin o'r gair, ac ni ellid beio Sais uniaith am ysgrifennu ar Lie Elusen yn adfer- iad cymdeithas. Daeth wyth traethawd i law yn dwyn yr enwau Ffestinfab, Xystus, Adferwr, A Lover of the Welsh, loan Glan Walia, P.D.D, Awstin, a Dinas. 1. A Lover of the Welslb.-Your treatment is hope- lessly brief. Two foolscap pages on such a theme as this! Learn to improve your style and don't write on both sides of the paper. 2. loan Glan Walia writes in English. At the head of his essay is a notice telling us that it is original. We can quite well believe that. He writes in a fairly correct style, and with a little attention he could become master of a fairly good English style. He is evidently troubled by Darwinism and the New Theology, but until he understands them he should avoid criticizing either. He has written an interest- ing essay. 3. P.D.D. Traethawd Cymraeg.—Gwel yr ysgrif- ennydd hwn fod tybiaeth am y modd y daeth Cym- deithas i'w chyflwr gresynnus presennol yn llechu tu ol i'r gair adferiad, a rhydd grynhodeb teg iawn o'r ddwy ddamcaniaeth gyferbyniol gyda golwg ar hanes dynoliaeth, sef Dadblygiad ar y naill law, a chreadigaeth berffaith a chwymp yn canlyn ar y llaw arall. Amheuthyn cwrdd ag un sy'n gallu bod yn deg i'r ddwy ochr. Y mae'n Wesley uniongred fel y dengys ei driniaeth o'r modd y mae Duw a dyn yn cydweithio. Ar y cyfan tipyn rhy ddiwinyddol yw'r traethawd hwn. 4. Ffestinfab writes in English in a fairly accurate style, but he has something to learn in this respect. An interesting essay, full of wise sentiments, but lack- ing in systematic exposition. 5. Awstin.-Traethawd dyddorol iawn, yn dangos fod yr ysgrifennydd yn dewis ei lwybr ei hun wrth ddarllen, yn hytrach na myn'd lle'r elo pawb ereilL Nid trpper yw hwn yn cymeryd ei arwain gan bobl ereill, eithr un yn chwilio am y teg a'r arddunol, ac yn myn d dros y ffordd yn yr un yrnchwil am danynt. Gall yntau wella cryn dipyn ar ei arddull. Y mae ei Gymraeg yn dangos cryn ol dylanwad y Saesneg. Llawer o bethau da iawn a dyddorol geir yma, ond rhywsut nid yw yntau wedi gallu myn'd at wraidd ac hanfod pethau y tro hwn. 6. Dinas.—An English essay whose style is not above reproach. Still it is clearly written for the most part, and is an interesting treatment of the subject, narrowly interpreted. What this writer discusses is Charity in the narrow and common acceptation of to-day. He gives us a concise history of its operations from early times, going as far back as the Greek and Roman world, and coming down past the Reformation to modern times. A very good essay. 7. Xystus.-Traethawd Cymraeg maith a llafur- fawr, wedi ei ysgrifennu gan mwyaf mewn arddull' gywir, esmwyth. Y mae wedi trefnu ei faterion yn. dda, ac wedi gosod cynllun o'i draethawd ar y wyneb- ddalen o'r Rhagarawd hyd y Diweddglo. Ym-; ddengys yn fwy profiadol traethodwr nai'i gydym- geiswyr, ond nid yw yntau mwy na'r rhelyw o honom heb ei ddiffygion. Dysged grynhoi ei feddwl i lai o le, a bydd ei draethiad o gymaint a hynny yn' fwy effeithtol. Er fod cystal trefn a dosparth ar ei draethawd ofnwn nad oes meddwl da am lynnu at ei bwnc ganddo. Er hynny y mae wedi ei ysgrifennu mewn dull hapus iawn, ac y mae yn llawn sylwadau craff a dyddorol er nad ydynt bob amser, fel y dywed- wyd, yn agos iawn at y pwnc. 8. Adferwr. Nid yw arddull "Adferwr" lawn cystal ag y dylai fod pan ystyrir ansawdd y gystad- leuaeth. Er hynny nid rhyw lawer iawn o wella dan gyfarwyddyd llenor profedig fyddai'n angenrheidiot er gwneud hwn yn draethawd darllenadwy iawn. Rhydd yr ysgrifennydd hwn olwg i ni ar y prif gyn- lluniau gymeradwyir er gwella'r byd. Y mae ei driniaeth o'r gwelliantau gynygir yn Neddfau'r Tir, yn Nhy'r Werin, &c., yn glir a chrynno iawn. Y mae ganddo ddefnyddiau hapus o weithiau Scott Lidgett a'r |Prifathraw Caird. Y mae'r ysgrifennydd hwn gymaint yn rhy gynnil ag yw "Xystus" yn rhy helaeth a gwasgarog. Wedi pwyso a mesur pethau oreu fyth y medrwn, cynghoraf y pwyllgor i rannu'r wobr rhwng Xystus ac "Adferwr." H.M. Y DDAU ENGLYN: "YR ENFYS." O'r triarddeg par o englynion a anfonwyd i'r gystadleuaeth, y mae eiddo "Deio," "Arobyn," "Noah," ac "Egryn" yn cael eu hanurddo gan wallau cynghaneddol amlwg, ac felly yn gorfod cymeryd y lie isaf yn y fan. Nod angen cyntaf englyn yw cynghanedd gywir. Torrodd Sylwedydd un o reolau cystadleuaeth fel hon drwy ysgrifennu ei enw priodol ar y copi. Mae r englynion yn gywir, ond yn bur anystwyth a llafurus. Gwna Bardd Gwlad ei linell gyntaf yn chwe sillaf— goddefiad nas gellir ei gymeradwyo pan na ofynir am fwy na dau englyn. Mae yr ymgeisydd hwn yn egnio at bethau mawr, fel darn o fodrwy anfeidrol," ond nid yw wedi llwyddo i'w cyrraedd. Yn englynion Cynon yr ydym yn cyfarfod yr ym- adrodd "Y Tad clau," mewn cyfeiriad at y Gor- uchaf. Nis gwn beth yw ystyr clau yn y fath gys- ylltiad. Ergyd hapus yw I I y cryman crog yn yr ail englyn, ond mae gormod o ddrysni a chymysgedd o gwmpas y cryman hwn. Gallwn feddwl mai yr un yw "Peredns" a Clynon," a chyffelyb yw nodwedd yr englynion. hefyd. Llinell gyntaf ÚLvater yw y wanaf-" Dwr yw