Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

Cyfarfod Misol Llundain.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Cyfarfod Misol Llundain. Neithiwr (Nos Fercher) yng Nghapel Jewin Newydd, dan lywyddiaeth y Parch. Peter Hughes Griffiths, cynhaliwyd cyfarfod misol swyddogion y Methodistiaid Calfinaidd yn Llundain. Dechreuwyd trwy ddarllen a gweddio gan y Parch. W. H. Da vies, Pont Saeson. Darllenwyd a chadarnhawyd cof- nodion y cyfarfod blaenorol. Darllenwyd llythyr oddiwrth Mrs. Lloyd-George yn cyd- nabod derbyn llythyr o gydymdeimlad y C.M. ar farwolaeth ei mham. Pender- fynwyd anfon llythyrau yn datgan cydym- deimlad llwyraf y frawdoliaeth a'r personau canlynol yn eu profedigaethau o golli perthynasau agos: Mr. J. Richards, Eng- land's Lane, a Air. Morgan, Stratford. Hefyd amlygwyd llawenydd o ddeall am adferiad y Parch. G. H. Havard o'i waeledd. Rhodd- wyd adroddiad y cyfeillion fu yn Jewin yn cynorthwyo'r Eglwys i ddewis swyddogion gan Mr. W. Evans, Wilton Square, a chad- -arnhawyd eu hetholiad. Penodwyd y Parch. D. Oliver, Mri. W. Prytherch Williams, a W. Evans i fynd i Jewin i'w holi a'u rhoddi yn eu swydd ar noswaith i'w threfnu gan gyfeillion yr Eglwys. Rhoddodd Mr. Prytherch Williams adroddiad o ymweliad y cenhadon fu yn Willesden Green yn profi'r swyddogion newydd, a daethant ymlaen i dderbyn deheulaw cymdeithas gan y Llywydd ar ran y C.M. Penodwyd Mr. W. Price i draddodi'r cynghor i'r swyddogion newydd yn y cyfarfod nesaf. Hysbyswyd mai testun y Seiat fore'r Groglith fydd Y Gwirionedd fel y mae yn yr lesu." Galwodd Mr. R. 0. Jones sylw at y Gymanfa Ganu sydd i'w chynnal yn Jewin nos lau, Ebrill 18, ac at y gwahanol rehearsals yn flaenorol i hynny. Galwodd y Parch. S. E. Prytherch sylw at gyngherdd er budd Mr. M. H. Evans, Goginan, sydd i'w gynnal yn yr Holborn Town Hall, Ebrill 8fed. Derbyniwyd adroddiad Pwyllgor yr Achosion Newyddion, yr hwn, ymysg pethau ereill, awgrymai roddi grants i Eglwysi Stratford a Totten- ham. Penderfynwyd gwneud y casgliad at y Gronfa Fenthyciol y Sul cyntaf ym Mai. Mae'r gronfa i'w gwneud i gyfarfod a'r rhodd o £3,000 sydd wedi ei derbyn o gyllid Casgliad y Ganrif tuagat gynorthwyo eglwysi gweiniaid, ac anogir yr aelodau i roddi pob cefnogaeth i'r gronfa er ei gwneud yn gymorth sylweddol i eglwysi sydd mewn angen. Galwodd y Parch. D. Oliver sylw at "Gofiant Dafydd Morgan a Diwygiad '59," a'r Parch. J. Wilson Roberts at "Hanes Sasiwn y Drefnewydd," gan y Parch. R. W. Jones, Aberangell. Hysbyswyd y cynhelir Cyfarfod Gweddi Undebol yn Jewin fore'r Groglith am 9 o'r gloch, ac ar gais y Parch. R. 0. Williams, Holloway, anogir yr holl eglwysi i gynnal cyfarfodydd gweddiau bob nos yr wythnos nesaf er paratoi ein medd- yliau a gofyn am fendith yr Arglwydd ar y Gymanfa flynyddol. Cafwyd gair gan Mr. J. T. Thomas, Caerffili, yr hwn oedd ym- welydd a'r Cyfarfod Misol. Derbyniwyd adroddiad y Pwyllgor Arianol. Diweddwyd trwy weddi gan Mr. J. Jenkins, Wilton -Square. Cynhelir y Cyfarfod Misol nesaf yn Jewin nos Fercher, Ebrill 24.

[No title]

Bwrdd y Gol.

Advertising