Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

[No title]

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

DYMA restr pregethwyr Cymanfa'r Pasg eleni:—Dr. John Roberts, Khasia Evan Jones, Caernarfon; William Thomas, Llan- rwst; John Morgan, Aberdar W. S. Jones,. M.A., Caerdydd; Benjamin Watkin, Fern- dale Thomas Parry, Pencader John Morgan Jones, Caerdydd Rees Evansr Llanwrtyd E. 0. Davies, B.Sc., Bala T. F. Jones, Goppa R. C. Lewis, B.A., Aberafon 0. Gaianydd Williams, Roe Wen a M. H.- Jones, B.A., Trefecca. Nos Wener diweddaf yr oedd y llanw yn isaf ar lanau sir Fon, lie aeth y "Royal Charter" gynt i lawr, haner canrif yn ol. Yr oedd trigolion Moelfra yn gallu myned yn agos iawn i'r lie yr aeth y llong i lawr, Troisant y baw a'r tywod, ac yn fuan caw- sant hyd i ychydig o arian, a gwerthwyd punt wedi plygu ychydig am 30s. Bardd rhagorol oedd Ap Ceredigion cyn iddo fynd yn giwrad, ond mae ei folawd goffa i'r diweddar Arglwydd Penrhyn yn g brawf ei fod wedi dirywio yn fawr- A strong man was he,—strong Like to the hills of Arvon.j For Right he fought so long, And Right crowned him a champion Not rank and wealth his knighthood, But just and sterling manhood. Bu dirprwyaeth yn ymweled ac adran y Bwrdd Addysg yn Llundain yr wythnos hon er ceisio cael ganddynt adfer defnyddiadi llechi ysgrifennu eto yn yr ysgolion dyddiol. Fel y gwyddis, y mae amryw felinau llechi ysgrifennu ar hyd a lied Gogledd Cymru, ac yn neillduol yn Sir Gaernarfon, lie ar un adeg y byddai nifer mawr yn gweithio, ond oherwydd penderfyniad y Bwrdd Addysg rai blynyddau yn ol gwnaed i ffwrdd a'r galw am lechi i'r ysgolion. MAE yr Educational Publishing Co., Merthyr, wedi cyhoeddi cyfrol o hwiangerddi Cymreig o gasgliad Cadrawd, wedi eu trefnu gyda chyfeiliant i'r berdoneg gan Harry Evans, F.R.C.O. Ceir yn y llyfr ddara ddwsin o'r hwiangerddi, gyda'r gerddor- iaeth yn y ddau nodiant. Byddant yn sicr 00 ddod yn boblogaidd yn yr ysgolion.

Advertising

Am Gymry Llundain.