Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

[No title]

Advertising

Am Gymry Llundain.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

MANION.—Bydd cyfeillion Mr. W. Lloyd Owen yn falch i wybod ei fod wedi dych- welyd o Jamaica, lie y bu ar ran y cwmniau yswirol yn prisio y golled drwy ddifrod y ddaeargryn yn Kingston. Edrycha yn gampus wedi ei fordaith. Rhydd hanes ei daith i Gymdeithas Lenyddol y Boro' yr wythnos nesaf.—Mawrth 15 bu farw William Owen, mab Serjeant a Mrs. W. Williams, wedi cystudd caled, yn dair mlwydd oed. Claddwyd ef yn Nghladdfa Gyhoeddus Morden dydd Mawrth diweddaf. Gwein- yddwyd gan y Parch. D. C. Jones.-Bydd cylch eang cyfeillion Mrs. Jones, 66, Rose- mary Road, Peckham, yn falch i glywed ei bod yn gwella yn araf o'i chystydd diweddar. Er ei bod ar fin 90 oed y mae yn wisgi a chref iawn. Boed iddi fyw i weled ei chant oed yw dymuniad ei holl gyfeillion. Y mae Mrs. Parry, ei chwaer, hefyd yn iach a nerthol.—Nos Fercher diweddaf cynhaliodd Cymdeithas Lenyddol y Boro' gyngherdd dan lywyddiaeth Mr. G. Jenkins. Cafwyd hwyl fawr fel arfer ar y danteithion, y canu, yr adrodd, a'r chwareu. Diolchwyd yn wresog i'r cadeirydd. C, y UNDEB Y GWEINIDOGION CYMREIG.— Cynhaliodd yr Undeb uchod ei gyfar- fod Mawrth lleg yn 69, Seymour Road, Harringay, N., dan lywyddiaeth y Parch. Thomas Jones, City Road. Dar- Uenodd y Parch. J. E. Davies, M.A., Jewin, bapur ar "Siarl Fawr" yn rhoi hanes ei fywyd a'i wasanaeth i addysg, gwareiddiad, ZD dadblygiad, llywodraeth, a chrefydd. Gwnaeth Mr. Davies draethawd gorchestol ar Siarl Fawr-traethawd clasurol ydoedd. Nid oes dim yn y Gymraeg wedi ei ysgrif- ennu ar Siarl sydd gydwerth i'r traethawd hwn gan Mr. Davies, Jewin. Methodd Mr. Havard, M.A., Wilton Square, fod yn y cyfarfod yn herwydd afiechyd. Llonir ei gyfeillion yn fawr i ddeall fod ei driniaeth feddygol ddiweddar wedi bod yn gwbl lwyddiauus, ac y bydd yn alluog yn fuan i ymaflyd yn ei waith megis cynt. Brawd galluog ac anwyl iawn yw Mr. Havard. Rhoddodd Mr. a Mrs. Price dderbyniad rhagorol i'r Undeb i'w ty. Merch ein cyd- drefwr enwog, Mr. D. Jones, Commercial z;1 Road, yw Mrs. Price, a brawd o ardal Dol- gellau yw Mr. Price. Yr oedd ei dad yn fardd adnabyddus ac yn perthyn i deulu enwog am eu hymneillduaeth a'u crefydd. zn DEWI SANT.-Nos Fawrth diweddaf, yn St. David's Hall, traddodwyd darlith gan Mr. Thomas Jones, City Missioner, ar George Herbert." Eglurid y ddarlith drwy gyfrwng yr hud-lusern. Adnabyddir George Herbert fel awdwr A Priest to the Temple," neu The County Parson," ac amryw bryddestau, megis The Church." Ganwyd ef yn 1593, yn agos i Drefaldwyn, a dringodd i safle uchel yn yr Eglwys. Ceir ifenestr liwiedig i'w goffadwriaeth yn West- minster Abbey. Mae y darlithydd bob amser yn feistr ar ei waith, ac ni raid iddo wrth lythyrau canmoliaeth. Tebygaf nad oes Gymro mwy adnabyddus nag ef yn ninas Llundain heddyw. Cawsom ychydig ddar- luniau ganddo hefyd o'i hen dref enedigol, Llanymddyfri, megis yr eglwys a'r fynwent, lie y gorwedda gweddillion ei rieni, ynghyd a thipyn o hanes yr hen Ficer Prichard. Yr oedd y rhan hon o'i ddarlith yn bur dodd- edig. Mwynhasom awr dda a difyr yn ei gwmpeini, yn ein cymdeithas. Talwyd diolchgarwch cynnes iddo gan Llew Caron, yn cael ei eilio gan Mr. James Williams (Gwyddfryn). EGLWYS Y DWYRAIN .-Oynhaliwyd cyfar- fod cystadleuol yr Eglwys uchod nos Iau, y 14eg cyfisol, yn y Congregational Hall, Burdett Road, E. Trodd y cyfan allan yn llwyddiant perffaith. Cafwyd digon o gystadlu ym mhob adran. Clorianwyd y cantorion gan Mr. D. James, A.C., Boro', a'r amrywiaeth gan y Parch. D. Oliver a Mr. W. Gyrn Davies, a'r Prize-Bags gan Miss Watkins, Forest Gate. Cyfeiliwyd gan Mr. C. Pugh, ac arweiniwyd y cyfarfod gan y Parch. Watkins, B.A. Darllenwyd llythyr oddiwrth y cadeirydd, Mr. Tom Lloyd, yn datgan ei ofid am nas gallai fod yn bresennol, ond gwnaeth Mr. Lloyd iawn am ei absen- oldeb trwy gyfranu y swm anrhydeddus o bump punt tuag at y treuliau. Wele restr o'r buddugwyr :—Unawd i rai dan 8 oed, 1, Mary Morris, Mile End, a Willie Davies, Eglwys y Dwyrain, yn gydradd 2, Trevor Rees, Mile End. Adroddiad, Addfwyn Iesu'r Ceidwad Mawr," 1, Hannah Davies, Sussex Street; 2, Gwladys Williams, Eglwys y Dwyrain, a Trevor Rees yn gydradd. Unawd i rai dan 16 oed, 1, Tommy Jenkins, Mile End 2, Olwen Davies, Sussex Street. Unawd baritone neu contralto, Hiraeth," goreu, City Boy." Am y prize-bag goreu, 1, Mrs. W. J. Williams; 2, Miss Rosie Davies, Eglwys y Dwyrain. Adroddiad, "Gair o Gynghor," 1, Willie Morris; 2, Lily Davies, Mile End. Pedwarawd, "Y Bwthyn ar y Bryn," goreu, Mr. Marsden a'i gyfeillion o Eglwys St. Benet. Unawd, Bwthyn bach melyn fy Nhad," Mr. Hirwen Davies, King's Cross. Traethawd, St. Paul," Mr. J. L. John, East Ham, a Mr. J. T. Davies, Sussex Street, yn gydradd. Am y llythyr caru goreu, Miss M. M. Williams, Eglwys y Dwyrain. Hen unawd, Lead Kindly Light," goreu City Boy." Dau bennill, Yr Oen," goreu, Mr. W. S. Watkins, Eglwys y Dwyrain. Adroddiad i rai mewn oed, Miss Edwards, Mile End, a Miss Davies, St. Padarn, yn gydradd. Cys- tadleuodd pedwar parti ar y don, Moab," sef parti Eglwys y Dwyrain, Dewi Sant, Paddington; St. Padarn, Holloway a Mile End. Dyfarnwyd y cyntaf, o dan arweiniad Gwilym Aeron, yn fuddugol. Terfynwyd trwy ganu yr Anthem Genedlaethol Gym- raeg, City Boy" yn arwain. JEWIN N EWYDD. Daeth tyrfa liosog ynghyd i'r cyngherdd a gynhaliwyd yn Jewin nos Iau diweddaf. Llanwyd y gadair yn ddeheuig iawn gan un o aelodau. yr eglwys ym mherson Mr. Gwilym Owen. Bu yn fyr a phwrpasol yn ei araith, a chyf- lawnodd ran bwysig arall o waith cadeirydd trwy gyfrannu yn haelionus at yr amcan o wneud gwelliant arbennig ar yr adeilad. Chwareuwyd ar yr organ a chyfeiliwyd gan Mr. Walter Hughes a Miss J. Lucretia Jones, ac ar y crwth gan Mr. Tom Jones, ac ym mhlith y talentau cerddorol cymerwyd rhan gan Miss Tilley Bodycombe, Miss Mary Davies, Miss Tots Parry, Miss Jennie Hagger, Miss Annie Price, Miss Maggie Davies, Mr. Gwynne Davies, Mr. Edwin J. Evans, Mr. Stanley Davies, Mr. D. Jones (Llew Caron), Mr. Tom Evans, a Mr. T. Bronant Jones. Canwyd yn dra effeithiol gan yr oil o honynt, a rhoddwyd cymerad- wyaeth uchel i Miss Jano Davies am ei hadroddiadau gwych. Cyfarfod hwylus a dymunol fu o'r dechreu i'r diwedd, ac y mae clod yn ddyledus i'r ysgrifennydd gweith- gar, Mr. Tim Evans. KING'S CRoss. Mr. Timothy Davies, A.S., oedd yn llywyddu yng nghyngherdd blynyddol King's Cross, nos Iau, yr wythnos ddiweddaf. Caed ganddo araith amserol ar y pwysigrwydd o lynnu wrth yr achosion Cymreig—cyngor ag y gwnelai ami i Ddic Sion Dafydd cyfoethog yn ddoeth i wrando arno. Da gennym weled; Mr. Davies yn parhau yn ffyddlon i'r capel Oymraeg er wedi dringo i'r safle uchaf yn y deyrnas. TOTTENHAM.—Rhoddwyd cyngherdd ar- bennig ynglyn a chapel y Bedyddwyr Cym- raeg yn Tottenham, nos Iau, 14eg cyfisol, a daeth cynulliad campus ynghyd i fwynhau o'r wledd gerddorol oedd y cyfeillion wedi drefnu. Cymerwyd rhan ynddo gan y can- torion a ganlyn Miss Annie Lynne, Miss A. Martin, Miss Lalla Thomas, Mr. T. Peter Jones, a Mr. J. Pugh. ynghyda Miss A. Davies wrth y cyfeiliant. Cadeiriwyd gan Mr. Henry Jones, Bryn Alaw.