Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
UNIVERSITY COLLEGE OF WALES, ABERYSTWYTH. (One of the Constituent Colleges of the University of Wales) Pre.Rident-The Right Hon. LORD RENDEL. Principal-T. F. ROBERTS, M.A. (Oxon.), Ll.D. (Vict.). The next Session begins on October 1st, 1907. Students are prepared for Degrees in Arts, Science (including the applied Science of Agriculture), Law and Music. Sessional Composition Fee, £10, with additional Laboratory Fees for Science Students. Registration Fee XI. Men Students reside in Registered lodgings in the town. or at the Men's I Hostel. Warden: Prof. J. W. Marshall, M.A. Women Stu- dents reside in the Alexandra Hall of Residence for Women. For full particulars respecting the General Arts and Science Departments, the Law, Agriculture, and Day Training' Departments, the Department for the Training of Secondary Teachers, and the Hostels, apply to J. H. DAVIES, M.A., Registrar. D. UOOKSEY & SON, Inexpensive and Modern Funerals. (Price List on application.) 266, UPPER STREET, ISLINGTON, and 52, AMWELL STREET, PENTONVILLE. Carriage Department 97, CHAPEL STREET. Telephone Nos. 30 and 601, NORTH. MftDOe DAVIES, H.R.e.M., Teacher, L.C.M. Voice Production and Solo Singing. Telephone 8914 Central. For Terms: Apply, 118, Huston Road.
Dechreu Gwaith.
Dechreu Gwaith. Gwnaed datganiadau amserol a phwysig gan Mr. D. Lloyd-George ddydd Sadwrn diweddaf. Roedd rhai pobl wedi myned i feddwl nad oedd ym mwriad y Llywodraeth. i wneud fawr o waith y tymor presennol, ac na fwriadent ymgymeryd ar mesurau oedd-. ent wedi eu haddaw ar ddechreu'r flwyddyn. Dywedai Mr. Lloyd-George mai cam-gym- eriad mawr oedd coleddu'r fath syniad, ac fod y Weinyddiaeth yn trefnu gogyfer a rhai gweithiau pwysig yn ystod y misoedd dyf- odol. Mae cymaint o fan bethau i'w gwneud yng nghyntaf er mwyn clirio'r ffordd, fel y mae yn amhosibl dwyn i fewn y prif fesur- au cyn y pasc. Gwyddom fod addewidion Mr. Lloyd-George yn rhai y gellir dibynnu arnynt, ac mae hyn yn myned i gadarnhau ein gosodiadau blaenorol mai gweinyddiaeth o ddifrif yw'r Weinyddiaeth hon. Ar y goreu nis gall gyflawni rhyw lawer iawn tra parheir i gario'r gwaith ym mlaen ar yr hen gynlluniau clogyrnaidd presennol. Mae'r Ty wedi myned yn rhy henafol yn ei ddulliau a'i reolau, ac angen diwygiadau mawrion arno, ac os llwyddir i drefnu math o bwyll- gorau arbennig i ymdrin a mesurau lleol feallai y ceir ymwared oddiwrth lawer o waith sydd yn gwastraffu oriau'r Ty yn anesgusodol ar hyn o bryd. Mae digon o ddiwygwyr yn eistedd ar y meinciau Rhydd- frydol yn awr, ac os na chytunant ar gyn- lluniau newydd, yna ofer fydd eu cri am ddiwygiad a gwelliantau pan ddeuant o flaen eu hetholwyr ar derfyn y tymor. Ond os llwydda Mr. Lloyd-George a'i gefnogwyr i gyflawni yr hyn a addewai ddydd Sadwrn diweddaf yna bydd gobaith am gynhauaf toreithiog o welliantau cyn y gwneir apel arall am gefnogaeth etholwyr ein gwlad.
Pwyllgor Cymreig.
Pwyllgor Cymreig. 0 dipyn i beth mae Cymru yn ennill ei hymreolaeth. Yr wythnos hon bu amryw o'r aelodau Cymreig a chais o flaen y Prif- Weinidog yn gofyn iddo drefnu pwyllgor o'r Aelodau Seneddol Cymreig i ymdrin a phob mesur fo'n dal perthynas a Chymru. Mae yntau wedi cydsynio a'r cais, ac mor fuan ag y gellir cwblhau'r trefniadau caiff y mesurau Cymreig eu trin a'u dadleu o hyn allan gan aelodau a fyddant yn gynefin a gofynion y wlad a'i phobl. Dyma egwyddor gyntaf hunan- lywodraeth, ac os dygir y gweithrediadau ymlaen yn foddhaol gan ein cynrychiolwyr diau y llwyddir i gael rhagor o awdurdod i'w dwylaw,' a rhyddid i ddwyn i fewn mesurau yn fwy ami i ystyriaeth y Ty. Ond ar hyn o bryd gallwn gyd-lawenhau fod dechreu wedi ei addaw, ac fod llwyddiant y dyfodol yn gorwedd arnom ni a'n cynrych- iolwyr.
Dr. John Pugh.,
Dr. John Pugh. Ym marwolaeth Dr. John Pugh y mae'r Achosion Seisnig yng Nghymru wedi colli eu harweiniwr pennaf. Gweithiodd yn galed ar hyd y blynyddau er ennill i Grist ran- barthau anwar ardal Caerdydd a chylchoedd glofaol Morganwg a Mynwy. Bu mudiad y Forward Movement yn llwyddiant digyffelyb tan ei reolaeth, ac erys ei ddylanwad yn hir ar y, lleoedd lie y mae wedi sefydlu cang- hennau ac eglwysi newydd. Yr oedd yn ddigymar fel trefnydd, ac hefyd yn bregethwr o gryn fri. Enillai glust a chalon y dyrfa gan ei apeliadau syml a naturiol, a gwnai i bawb deimlo fod gwr a chenhadaeth ganddo yn siarad a hwy. Bydd ei golled i'w deimlo yn hir yng nghylchoedd crefydd Cymru, a gwaith anhawdd, iawn fydd cael rhyw Eliseus i lanw lie Elias o'r fath ag oedd efe. MR. W. JONES, A.S. Mae yr Aelod tros Arfon wedi ail-ymaflyd yn ei orchwylion Seneddol ar ol ei daith i'r India, ac efe yw un o'r aelodau mwyaf byw a gweithgar a welir o gylch ystafelloodd y Ty y dyddiau presennol.
Cawl Cenin.
Cawl Cenin. RHAI garw yw'r gwragedd yma. gyda'u cri am bleidlais. Ni waeth pa nifer a ddanfonir i garchar myned ar gynnydd mae eu gwaedd, a bydd raid i'r Senedd cyn hir wneud rhyw- beth er symud yr anhegwch presennol. C, YR oedd dadl y noson o'r blaen ynglyn a chwestiwn y bleidlais i ferched mewn capel Seisnig, a chymerid rhan yno gan nifer o fechgyn a merched Cymreig. Yr oedd un brawd go ddawnus wedi concro'r rhyw deg gyda'i resymeg, a gofynai yn wawdus a oeddent hwy yn barod i gymeryd eit Ile fel milwyr, fel morwyr, neu fel hedd-weision ac yn y blaen os y caent bleidlais. Atebodd un o'r merched ef yn dawel, 0 ydym," meddai, yn barod i wneud ein rhan yn y cylehoedd yna mor fuan ag y b'och chwi'r gwyr yn barod i wasanaethu fel mammaethod." Ni ddadleuodd y brawd ddim yn hwy. Beth sydd wedi dod o dysteb Syr John Puleston ? oedd ymholiad cyfaill wrthyf y dydd o'r blaen. Mae'r hen farwnig yn haeddu cael math o gydnabyddiaeth am ei lafur diflino ar ran Cymry'r ddinas. Os- nad yw'r pwyllgor wedi myned at y gwaith yn y ffordd briodol, er dwyn ei achos o flaen y cyhoedd, mae perygl i'r hen wr feddwl nad ydym yn gwerthfawrogi ei aberth a'i ofal. Ni ddylid condemnio Cymry'r ddinas am fwnglerwch a difrawder rhyw bwyllgor sal. FE'M synwyd y dydd o'r blaen gan ad- roddiad y Welsh Charitable Aid Society" wrth ganfod mor ychydig a wneir gennym dros y tylawd a'r anghenus yn ein mysg. Mae pedwar neu bump o genhadon yn gweithio ymysg y trueiniaid, ond mae'r casgliadau a wneir i'w cynorthwyo yn resynus o wael. Gwyr llawer o honom fod ami i Gymro a Chymraes yn dioddef llawer trwy dylodi, ac fe ddylid cael cronfa syl- weddol er cynorthwyo y trueiniaid yit, hytrach na chardotta ychydig bunnoedd oddiwrth eglwysi Cymreig a'u haelodau. Yn ystod y llynedd ni chyfranwyd ond tua phedwar ugain punt er cynorthwyo'r anghenus. Gwnaed casgliadau tuag at gyllid y Gymdeithas yn rhai o'r eglwysi, ar saif Eglwys St. Benet gyda phum gini o gasgliad ar ben y rhestr. Cyfrana capel Charing Cross £ 3 15s., King's Cross Y,2 2s., a Castle Street £ 3. Mae'r ysgrif- ennydd, Mr. T. E. Morris, y Bargyfreithiwr, yn ddigon gofalus i roddi cynorthwy i ber- sonnau haeddiannol yn unig, fel y gellir yn hawdd anfon tanysgrifiadau i'w ofal i 8, Figtree Court, Temple. YN ol rhai o'r adroddiadau Eglwysig sydd wedi eu cyhoeddi mae lleihad dirfawr wedi cymeryd lie yn rhif yr aelodau am y flwydd- yn ddiweddaf. Ceisir egluro fod y plant a godir i fynu yn Llundain yn cilio i eglwysi Seisnig, ac mai hynny sydd yn cyfrif am y. lleihad mewn rhai o honynt. Ond nid dyna'r ffaith. Y gwir am dani yw nad yw'r eglwysi yn ddigon effro i'w cyfrifoldeb ynglyn a'r newydd-ddyfodiaid i'r ddinas. Collir y rhai hyn wrth y cannoedd heb neb i edrych- ar eu hoi a chwilio i'w hanes. Mae cymaint o angen cenhadon ym mhlith yr eglwysi Cymreig ag sydd ym mysg Cymry anffodus yr East End ei hun. BETH ddaw o'r Ddirprwyaeth Eglwysig yma? Pan ail agorwyd y gweithrediadau yr wythnos ddiweddaf, ni chaed yr un eglur- had gan y Barnwr, pa fodd yr oeddent wedi cytuno a'u gilydd ar natur y tystiolaethau i'w dwyn ger bron. Os yw'r Ymneillduwyr yn prisio rhywbeth ar eu safle a'u hachos gwell fyddai gadael y Comisiwn yn ddisylw ar unwaith. Gadawer i'r Dirprwywyr i chwilio allan beth a fynnant, a dwyn imewn unrhyw adroddiad a hoffant, fe saif pwnc Dadgysylltiad yr un mor gadarn ag erioed. O'R diwedd mae llyfr y Parch. R. J. Campbell ar y Ddiwinyddiaeth Newydd wedi ei gyhoeddi. Yr oedd disgwyl mawr am dano, a dywedir ei fod yn gwerthu wrth y miloedd bob dydd. Mae'r llyfr yn werth chwe swllt, ond does fawr o newydd-deb ynddo wedi'r cyfan. Gan gymaint y siarad sydd wedi bod am Ddiwynyddiaeth newydd y mae pobl wedi myned i gredu fod rhywbeth gwahanol yn naliadau Mr. Campbell heddyw i'r hyn ydynt wedi bod o'r cychwyn, ond i'r craff a'r cyfarwydd fe welir fod rhediad y gyfrol yn hollol yn cyd- fyned a'r hyn y mae wedi bod yn draethu er's blynyddau, a phregethir yr unrhyw ddaliadau gan fwyafrif ieuenctyd ein pul- pudau ninnau, er hwyrach na fyddai neb o honynt yn ddigon beiddgar i'w galw yn Ddiwinyddiaeth newydd."