Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

Am Gymry Llundain.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Am Gymry Llundain. Y PASO.—Yr ydym yn gorfod myned i'r wasg yn fwy cynnar yr wythnos hon oherwydd y gwyliau. Ceir adroddiad llawn am gyfarfodydd y pasc yn ein rhifyn nesaf. DIWEDD Y TYMOR.-Nos Sadwrn diweddaf terfynwyd gwaith y gauaf gan Gymdeithas Lenyddol y Tabernacl. Da gennym weled i'r cyfeillion yno gaeL tymor gwir lwydd- iannus. LAMP Y TABERNACL.—Mewn cyhoeddiad bychan, tan yr enw hwn, eyhoeddwyd adroddiad o waith y tymor i aelodau y Gymdeithas hon, a rhydd hanes am rai o'r cyfarfodydd, ynghyd ag adroddiad o safle arianol y Gymdeithas. Y DOSBARTHIADAU CYMRAEG.—Parhau i fyned ar gynnydd mae'r dosbarthiadau Cymraeg tan reolaeth Mr. Goronwy Owen, B.A. Mae'r nifer tua hanner cant bob nos, ac os eir ymlaen fel hyn bydd raid wrth ragor o feistri yn y man. GYDA'R MERCHED YN Y CARCHAR.—Gwelwn fod Mrs. Winton Evans, Chelsea, wedi dewis myned i garchar yn hytrach na thalu'r ddirwy ynglyn a'r helynt o flaen Ty'r Senedd yr wythnos ddiweddaf. Mae dros drigain o'r merched yn Holloway yn awr, ac arwyddion fod ugeiniau ereill i ddilyn yn y man. WALHAM GREEN.—Nos Fercher, 20fed cyfisol, o dan nawdd ein Cymdeithas Ddi- wylliadol, cawsom ddadl amserol ar brif bwnc y dydd, sef, "A ddylid rhoddi yr etholfraint i ferched." Llywyddwyd gan yr is-lywydd, Mr. Ben Evans. Agorwyd y ddadl dros yr ochr gadarnhaol gan Miss Agnes Davies, a thros yr achos nacaol gan Miss Mary Jones. Cafwyd papyrau rhagorol gan y naill a'r llall. Siaradwyd hefyd o blaid Miss Davies gan y Mri. R. Gomer Jones, Pryse Jenkins, ac E. R. Griffith, a chefnogwyd Miss Jones yr un modd gan y Mri. E. Teify Lloyd, E. Parry Evans, B.Sc., Huw R. Gruffydd, a Miss Cordweener. Ar ol yr ymdrafodaeth, ymranwyd, a chafwyd fod yr ochr nacaol wedi ennill gyda mwyaf- rif o dri. Dyma ddadl olaf y Gymdeithas am y tymor hwn. R. COR Y BRYTHON IAID.-BIL y cor hwn, dan arweiniad Mr. W. Harris, yn cynnal cyng- herdd yn nghapel y Bedyddwyr Seisnig, Harlesden, nos Iau, Mawrth 21ain, a chafwyd canu campus. Yr unawdwyr oeddynt: Soprano, Miss Annie Jenkins; contraltos, Miss Annie Price a Miss Maggie Davies tenor, Mr. Gwynne Davies baritone, Mr. James Davies violinist, Mr. Tom Jones- oil yn aelodau o'r cor, a gwnaethant eu gwaith yn ganmoladwy dros ben. Yr oedd y cor yn teimlo yn falch fod ganddynt y fath dalent yn eu mysg, ac ond i'r aelodau ym- drechu bod yn ffyddlon mae dyfodol disglair iddynt. Cyfeiliwyd gan Miss Sallie Jenkins yn fedrus fel arfer. CLAREMONT.—Rhydd capel yr Annibynwyr Seisnig Claremont gyfres o gyngherddau arbennig i ardalwyr Pentonville bob wyth- nos yn ystod y gauaf, a nos Sadwrn diweddaf caed un gan gantorion Cymreig, tan reol- aeth Mr. D. R. Hughes, Falmouth Road. Casglodd Mr. Hughes nifer o wyr talentog ym myd y gan, a threfnodd raglen ddydd- orol o ganeuon cysegredig ac alawon Cym- reig, y rhai a fawr fwynhawyd gan y dorf ddaeth ynghyd. CYFARFOD YMADAWOL Y PARCH. EDWARD OWEN, B.A., Barrett's Grove.—Gohirir y cyfarfod uchod o Ebrilly4ydd hyd nos Lun, Ebrill yr 8fed, pryd y disgwylir y Parchn. Elvet Lewis, M.A., J. Machreth Rees, D. C. Jones, P. Hughes Griffiths, Herbert Morgan, B.A., Roderick Davies, &c., i gymeryd rhan yn y cyfarfod. CHELSEA. Nos Lun, y 18fed cyfisol, traddodwyd darlith yng nghapel yr Anni- bynwyr, yn Chelsea, gan y Parch. William Thomas, ysgrifennydd Cynghor Llundeinig Undeb yr Eglwysi Rhyddion. Testyn y ddarlith ydoedd False Balances and Counterfeit Coins "—darlith ag y byddai o fantais arbennig i holl eglwysi y brif-ddinas ei chlywed. Dangosodd y darlithydd ym- gydnabyddiaeth fanwl a'r natur ddynol, ynghyd a phrofiad helaeth, a chafodd y gynnulleidfa, nid yn unig fwynhad mawr wrth wrando arni, ond hefyd lawer o adeil- adaeth a gwersi dyddorol. Cadeiriwyd gan y Parch. J. Machreth Rees, a siaradwyd ar y ddarlith gan y Parchn. B. Thomas, Harles- den, a Machreth Rees, y Mri. Philip Williams a T. H. Davies, ynghyd ag amryw ereill. Dyhead yr holl gynnulleidfa ydyw am gyfle buan eto i wrando ar y darlithydd galluog a ffraeth. Y mae Cymdeithas Chelsea yn teilyngu cryn glod am ei gwaith rhagorol yn ystod y tymor.

Y CLWB CYMREIG.

Advertising