Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

-------------_-Rhifo'r Bobl.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Rhifo'r Bobl. Dyma'r adeg pan y mae mwyafrif yr Eglwysi Ymneillduol Cymreig yn edrych tros gyfrifon y flwyddyn, ac yn cyhoeddi en hadroddiadau i'r byd. Yr ydym ninnau yn Llundain yn dilyn yr un esiampl, a'r wythnos hon wele gyfrifon swyddogol y Methodistiaid wedi dod i law. Mae yn y rhai hyn ol llafur dirfawr, a dangosant fod yr enwad yn y ddinas hon yn dra lliosog a llwyddiannus. Ar yr un pryd rhaid addef ein siom pan yn gweled fod nifer yr aelod- aeth heb gynnyddu dim yn ystod yr amser. Pan gofiom am yr ysbryd diwygiadol sydd wedi bod tros ein gwlad am y ddwy flynedd ddiweddaf, yr oedd disgwyliad y buasai gwell ffrwyth i'w ganfod ar y gwaith yn Llundain. Ynglyn a'r aelodaeth, gwyddom fod gan yr eglwysi lawer iawn o anhaws- terau. Yn un peth, maent mor wasgarog, fel mai anhawdd ydyw dod i gysylltiad rheol- aidd a'u gilydd peth arall, mae'r caledi masnachol a'r "mynd" Llundeinig mor eithafol, nes torri'r amser yn brin iawn at bethau crefyddol. Mae odfaon boreu Sul yn deneu, a hawdd yw nodi'r diffyg, ond pan ystyriom fod mwyafrif ein cenedl yn gweithio tan hanner nos y Sadwrn blaenorol mae'n afresymol iddynt ddisgwyl roddi eu presen- noldeb mewn tair odfa ar y Sul wedyn. A chraffu ar yr holl anfanteision y maeadroddiad blynyddol y Cyfundeb yn Llundain yn dra chalonogol ac yn dangos fod aberth mawr yn cael ei ddangos yma er cadwraeth y grefydd y magwyd ni ynddi yn yr hen wlad. Campbellyddiaeth, Neu beth bynnag y gelwir y Ddiwinydd- ZD iaeth Newydd—neu gredo a daliadau ygwra leinw bulpad y City Temple rhaid addef ei bod wedi creu cryn lawer o gyffro yn y dyddiau diweddaf hyn. Dywedir mai cread y papur newydd yw'r enw Diwinyddiaeth Newydd," ond mae'n amlwg fod y papur newydd yn ei le y tro hwn eto. Mae llyfr y Parch. R. J. Campbell wedi dod o'r wasg, ac wedi cael cylchrediad helaeth iawn, yr hyn brawf fod y wlad yn dyheu am glywed beth sydd ganddo i draethu er cadarnhau'r syniadau chwyldroadol a goleddid ganddo, yn ol y papur newydd. Mae adolygiadau diwinyddion craff ar y llyfr yn dechreu. ym- ddangos yn y gwahanol gylchgronau, a ZD syndod fel y gwahaniaethir gan y rhai hyn eto Myn rhai nad oes dim byd newydd yn y llyfr, tra y dywed ereill eu bod wedi cael perffaith ddiogelwch tufewn ei dudalenau, a sonia y Prifathro Fairbairn mai shibboleth noeth yw'r cyfan. Pan fo gwyr mawr a dysgedig yn gwahaniaethu 'does ryfedd fod 0 y y werin yn cymeryd dyddordeb yn yr hyn draethir gan Mr. Campbell. Ond y mae un peth nas gwna'r cyhoedd a'r werin gyffredin ni chondemniant y gwr mewn ysbryd mor gul a chwerw ag a wneir gan y wasg grefyddol a chan arweinwyr crefydd. Yn y gras o foneddigeiddrwydd a pharch y mae'r byd, yn hyn o fater, wedi dangos ei fod lawer ar y blaen i'r eglwys, ac mae hyn yn beth y gwnai'r eglwysi fyfyrio arno yn ddifrifol ac mewn cywilydd.

Hunangofiant Gwenogfryn.

CYMANFA GANU YR ANIBYNWYR.