Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

CYMANFA Y PASC.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CYMANFA Y PASC. YSTADEGAU METHODISTIAID LLUNDAIN. Uchelwyl y Methodistiaid Calfinaidd yn Xjluadain yw Cymanfa y Pasc, ac eleni, fel .-arfer, caed nifer lliosog o gyfarfodydd nodedig yn y 16 eglwys sydd gan yr enwad ..0 fewn terfynau y Cwrdd Misol Llundeinig. Gwasanaethid gan y gweinidogion enwog _t1 ganlyn :—Parchn. John Roberts, D.D., Khasia; Evan Jones, Caernarfon; John Morgan Jones, Caerdydd; Rees Evans, Llanwrtyd W. Thomas, Llanrwst; John Morgan, Aberdar W. S. Jones, Caerdydd T. Parry, Pencader B. Watkins, Ferndale E. 0. Davies, Bala T. F. Jones, Goppa; R. C. Lewis, Aberavon 0. G. Williams, Roewen; a Mr. H. Jones, Trefecca. Dechreuwyd y gyfres trwy gynnal Seiat Gyffredinol yn Jewin Newydd am ddeg o'r .gloch ddydd Gwener y Groglith, pryd y llywyddwyd gan Mr. Richard Thomas, Charing Cross, un o lywyddion C. M. Llundain am y flwyddyn. Ar ol darllen a gweddio gan y Parch. Benjamin Watkins caed sylwadau gan y Parch. W. S. Jones, B.A., Caerdydd, ar YSTADEGAU Y FLWYDDYN, y rhai a gyhoeddwyd erbyn y gymanfa bresennol. Dengys yr ystadegau fod yna waith dir- fawr yn cael ei wneud ar ran y Cymry yn Llundain gan yr enwad hwn, ac mae'r cyf- rifon a ganlyn yn rhoddi rhyw amlinelliad o'r hyn seir yn yr adroddiad- + Cynnydd Rhif. Lleihad er 1905. Eglwysi 16 + 1 Lleoedd pregethu 3 — 1 Ysgolion 13 -Gweinidogion 11 — 3 Pregethwyr 8 — 2 Blaenoriad 92 2 Aelodau cyflawn. 4395 1 Ar brawf 13 6 Plant 1152 + 6 Gwrandawyr 5943 — 100 Athrawon ac Athrawesau 253 + 13 Ysgolheigion 2593 + 84 Cyfartaloedd y presen- olion 1324 2 •Oasgliadau Eglwysig 13621 V6 •Oasgliadau at ddileu'r ddyled £ 3157 + 1570 .Ardreth eisteddleoedd £ 900 61 Cyfanswm y derbyn- iadau Y,10362 + 291 Dyled yr Eglwysi C42780 + 5228 Gwerth yr hoU eiddo £ 102,605. Yn ei anerchiad sy'n blaenori yr ystad- egau eleni, dywed y Parch. P. H. Griffiths mai gwaith anhawdd oedd cael yr holl ffigyrau allan erbyn y Groglith eleni, am ei fod yn disgyn mor gynnar, ond meddai, ni wiw trwstau. Onid Methodistiaid ydym, a hamdden yr heuliau eangfawr ymhob symudiad o'n heiddo? Beth yw Llundain a'i brys i ni ? Pa wahaniaeth fod olwynion fyrdd yn clecian a phob troed yn cyfodi gyflymed a phe bai newydd ddisgyn ar balmant eiriasboeth. Diolch wedi'r cwbl am rywrai na thraidd y brys i'w hesgyrn—cylch o dawelwch a thangnefedd mewn dinas wedi gwylltio." Eto, pan yn son fod dyled y C.M. wedi myned i fynu, Do, do, aeth y ddyled i fynu! Wn i ddim a welir ei ddisgyblion Ef yn talu dyled 1906 yn ystod 1907 drwy ddod i oedfa bore'r Saboth ac i seiet canol wythnos drwy weddiau a dagrau, drwy ymdrech a hunan aberth, mor hawdd yw canu Af at y stanc i drengu Mi hunaf yn fflam," ac mor gelwyddog, oni eliir codi hanner awr yng nghynt ar fore Saboth, a rhoi rhywbeth heblaw cynffon y diwrnod sanctaidd yn offrwm i Dduw." Nis gallai Mr. Jones ddyweyd dim mwy amserol, er hynny yr oedd yn llawenhau wrth weled y fath wedd lewyrchus ar bethau yn ein plith. Cofiai mai pethau i ni oedd ystadegau, ac nid pethau i Dduw. Mae Ef yn cadw ei ystadegau ei Hun, ac yn abl i roddi pethau i fewn nas gallwn ni. I mi math <0 ddrych yw yr Ystadegau hyn er gweled ein hunain a'n gwaith yn y flwyddyn a aeth heibio. Er mai cyfrifon C.M. un dref oeddent yr oedd 6 C.M. yn llai na hwn i'w cael yn y cyfundeb. Mae 16 o eglwysi gennych, ac o'r rhai hynny saif dwy o honynt yn drydedd a phedwaredd yn holl eglwysi'r Cyfundeb. Yr oedd Princess Road, Lerpwl, gyda 921 o aelodau, y fwyaf, a'r Forward Movement yn Nghastellnedd, gyda 820 yn ail, ond deuai Charing Cross a Jewin yn nesaf atynt." Disgwyliai weled cynnydd yn yr aelodaeth, ond gofidiai mai lleihad o un oedd eu hanes. Gobeithiai y cymerai'r Eglwysi hyn i ystyriaeth. Sylwai fod yma rywbeth y dylid ei egluro ynglyn a'r nifer a osodid fel gwrandawyr. Er engraifft, gwelai fod yn Falmouth Road 433 o aelodau cyflawn a 188 o blant, ac eto ni roddid ond 500 fel nifer y gwrandawyr! Yr oedd yn hyfryd ganddo weled y gras o hael- ioni mor amlwg yn ein plith. Yr oeddem yn sefyll yn uchel yn hyn o beth o'i gyd- maru a'r Cyfundeb yn gyffredinol. Yr oedd ein holl gasgliadau yn ol £ 2 16s. 9d. y pen ar gyfer pob aelod, tra nad oedd yr holl G-yfundeb ond yn £ 1 12s. 4td., ac er ein 2 bod yn 5ed yn ol casgliadau at y Weinidog- aeth yr oeddem ar y blaenaf yn holl C.M. yn ein holl gasgliadau. Hoffai weled colofn ddirwestol yn cael ei hychwanegu at y rhestr y tro nesaf, ac hefyd rhyw eglurhad ar ein cysylltiad a'r Genhadaeth Ddinesig Gymreig. Y mater yr ymdrinid arno yn y Seiat Gyffredinol ydoedd "Y GWIRIONEDD FEL Y MAE YN YR IEsu," a'r blaenaf i siarad oedd y Parch. John Roberts, D.D., cenhadwr Bryniau Khasia, yr hwn a gydnabyddai ar unwaith mai ffrwyth Campbeliaeth oedd geiriad y testyn. "Doeddem ni yn ein gwlad ni," meddai, ddim yn gwybod am y symudiadau a roddodd fod i'r fath destyn. Yno ni wyddem ddim am eich anhawsterau chwi ar hyn o fater." Yr oedd y Gwirionedd yn yr Iesu yn cymeryd gwedd anwyl iawn, wedi ei roddi i Gristion er ei ddysgu sut i fyw bywyd perffaith. Crefydd i'n dysgu i' fyw yn sanctaidd oedd cref- ydd Iesu yn ei holl gylchoedd. Yng nghrefyddau gau y byd, rhyw dipyn yn ddifater ydynt oil ynglyn a'r bywyd hwn, ond ein dysgu sut i fyw oedd crefydd Iesu. Yr oedd ef wedi cael hen brofiad mai crefydd a'r gwirionedd yn yr Iesu, oedd yr unig grefydd a ennillai bagan i gredu ynddo. Sylwai'r Parch. J. Morgan Jones fod ym- drechion wedi bod i gadw'r lesu yn ein crefydd, a thaflu'r gwirionedd i ffwrdd. Rhyw ddod yn ol at Grist a thaflu'r hen apostol o'r neilldu. Eto pan awn at yr Iesu cawn na fu erioed y fath athrawiaethwr ag Ef. Does yr un credo na gwirionedd yn yr eglwys heddyw nad yw yn seiliedig ar eiriau a bywyd yr lesu. Un o nodweddion y Gwirionedd oedd dyrehafu moesoldeb. 'Roedd tuedd yn yr oes heddyw i wneud pechod yn beth bach mae hwn yna yn gyfeiliornad mawr. Yr oedd yr lesu wedi gosod gwahaniaethau dirfawr rhwng right and wrong. Tuedd arall oedd, i anwybyddi'r Ysgrythyr tynnu'r hen lyfr i lawr o'i safle a gosod rheswm personnol yn ei le. Gwir fod y llyfr yn hen, eto yr oedd pobpeth ynddo yn tystio ei fod o Dduw. Y Parch. Evan Jones, Caernarfon, oedd yr olaf i siarad, a, chyfaddefodd mai un gwirionedd mawr oedd ef wedi ei ddysgu yn y coleg, sef "Fod y ZD Gair yn llawer eangach na'r Gwir." Mi ellir cyfeiliorni mewn llawer ffordd. Yr unig ffordd i beidio cyfeiliorni oedd, dod at yr Iesu, yr hwn oedd y Gwirionedd. Drwy y Gwirionedd hwn yr oedd dwyn dyn at Dduw, a thrwyddo ef ei wneud yn deb i Dduw. Yn ystod yr hwyr caed pregethau yn yr holl gapelau. Dydd Sadwrn caed anerch- iadau i'r Bobl Ieuainc yn rhai o'r eglwysi, a thrwy y Saboth a nos Lun parhawyd y gyfres o gyfarfodydd pregethu yn yr eglwysi, a chaed cynulliadau nodedig i wrando arnynt.

[No title]

CYMANFA GANU YR ANIBYNWYR.