Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

Am Gymry Llundain.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Am Gymry Llundain. TYWYDD HAFAIDD.—Er mor gynnar y Pasc eleni daeth a haf yn ei gol. Y TEITHWYR.—Ni fu erioed o'r blaen dyrfaoedd mwy lliosog yn myned i Gymru ar adeg y Pasc. Hudodd y tywydd gan- noedd lawer allan o ddwndwr y ddinas am rai dyddiau beth bynnag. Y GYMANFA.—Er cymaint oedd nifer y cyfarfodydd ynglyn a Chymanfa'r Pasc, caed cynulliadau tra boddhaol pan ystyriwn fod y fath dorfeydd o bobl ieuainc wedi myned i Gymru. RHYDDHAD. Dydd Mercher diweddaf cafodd Mrs. Winton Evans ac ereill o'r "Suffragettes" eu rhyddhau o garchar Holloway, a rhoddwyd iddynt groesaw cynnes iawn gan eu cyd-aelodau. RHIFO'R BOBL.- Yr eglwys liosocaf gan y Methodistiaid yn Llundain yn awr yw Charing Cross, gyda 729 o aelodau, yn nesaf daw Jewin, gyda 720, yna daw Falmouth Road 433, Shirland Road 382, Wilton Square 362, a Holloway 324. Y leiaf yn eu plith yw Wood Green, gyda 51 o aelodau yn unig, a dengys hynny gynnydd o naw er y llynedd. DILLADWYR C-YMREIG.-Da gennym ddeall fod y Mri. Edward and Davies, dilladwyr, 121, Newgate Street, wedi dechreu eu gyrfa fasnachol o dan ragolygon tra addawol. Mae ganddynt fasnachdy eang ac ystoc helaeth o'r defnyddiau goreu at ddillad. Fel y gwyddis, mae'r ddau frawd hefyd yn grefftwyr o'r radd flaenaf, wedi ennill y prif wobrwyon yn Llundain am gynllunio a thorri parau o ddillad. Rhodder iddynt bob cefn- ogaeth gan eu cydgenedl. WALHAM GREEN.—Nos Fercher, Mawrth 27ain, cynhaliwyd cyfarfod terfynol Cym- deithas Ddiwylliadol y lie am y tymor presennol, yr hwn sydd yn cwblhau y ddeg- fed tymor yn ei hanes. Oyngherdd a gaed ar y noson uchod, ac yn unol a'i charedig- rwydd a'i haelioni arferol, gwnaeth Mrs. Lloyd, King's Road, baratoi tê a danteithion mewn cyflawnder, o ba rai y cyfranogwyd gan yr holl rai oeddynt yn bresennol. Trodd yr hin yn ddymunol dros ben, a daeth cynulliad da ynghyd, pan ystyriom ei bod yn wythnos y gwyliau. Llanwyd y gadair gan ein cyfaili difyr, Mr. Tom Jenkins, Charing Cross, ac aed trwy y rhaglen a ganlyn:— Unawd, City of Rest," Mr. David Thomas adroddiad, Miss Maggie Jones unawd, Miss Mallan Rees adroddiad, Miss Gwladys Lloyd; unawd, "If no one ever marries me," Miss Myfanwy Lloyd adroddiad, The Vagabond," Miss Edith Thomas; deuawd, Gwys i'r Gad," Mri. John Humphreys a D. Thomas adroddiad, Mr. Moody a'r fam a'r plentyn," Mr. W. P. Jones; unawd, "Gwlad y Delyn," Mr. J. Bedford Morgan unawd ar y berdoneg, Miss Mallan Rees adroddiad, Trouble," Miss Edith Thomas; pedwarawd, Ti wyddost beth ddywed fy nghalon," Mr. John Humphreys a'i gyfeillion adroddiad, Mr. Rhys T. Williams unawd, Thora," Mr. J. Bedford Morgan; unawd, "Yr Ornest," Mr. David Thomas. Ar y diwedd cynygiodd Mr. R. Gomer Jones, eiliodd Mr. David Jones, a phasiwyd yn unfrydol fod diolchgarwch gwresocaf y Gymdeithas yn cael ei gyflwyno i Mrs. Lloyd, i'r Cadeirydd, ac i'r cyfeillion a gymerasant ran mor amlwg yn y cyngherdd. Cyn ymadael cafwyd cystadleuaeth mewn araeth ddifyfyr, a dyf- arnwyd y wobr gyntaf i Miss Mallan Rees, a'r ail i Miss Myfanwy Lloyd. Erbyn fod yr oil drosodd yr oedd yn hwyr, ac ymwa- hanwyd yn swn Hen Wlad fy Nhadau." MARWOLAETPI.—Yng nghanol llawenydd y gwyliau daeth angeu i deulu Mr. Jones, 196, Caledonian Road. Bu farw Miss Jane Jones, un o'r merched, ar ol cystudd hir a phoenus. Bu raid iddi fyned tan driniaeth lawfeddygol yr wythnos ddiweddaf, ond profodd yn y diwedd yn angeu iddi. Nos Fawrth diweddaf aed a'r corff gyda'r tren deg o Euston am Aberystwyth, a chladdwyd yr hyn oedd farwol o honi yn naear Llangwyryfon ddydd Mercher. Yr oedd Miss Jones yn hoffus iawn gan lu mawr o gydnabod, a daeth tori i'r orsaf i dalu y gymwynas olaf o barch i'w henw da nos Fawrth. Boed llaw dirion y Cysurwr mawr gysgodi'r holl deulu yn awr eu hiraeth a'u galar. MR. RICHARD THOMAS.-Fel y sonir mewn colofn arall, un o lywyddion Cwrdd Misol Llundain yw Mr. Richard Thomas, fferyllydd, Upper Baker Street. Brodor o Fachynlleth ydyw ac wedi dringo i safle a pharch yn Llundain ym myd masnach, yn ogystal ag mewn cylchoedd eglwysig. Efe yw prif flaenor yr Eglwys yn Charing Cross Road, lie yr edrychir arno fel gwr doeth a phwyllog yn ei holl weithredoedd. Gan nad yw ond cymharol ieuanc, disgwylia'r Cyfun- deb yn Llundain lawer o wasanaeth oddi- wrtho yn y blynyddoedd sydd i ddod. MR. DAYID THOMAS.—Os mae un o gyn- rychiolwyr yr hen do o ddinasyddion yw Mr. Thomas, mae'n parhau mor hoyw ac ieuanc a neb o'i gydaelodau yn Eglwys y Tabernacl. Un o blant ardal Oeinewydd ydyw, ond wedi ymsefydlu yn Llundain ers blynyddau lawer. Fel adeiladydd, y mae iddo gryn glod yn ardal Finsbury Square, a thrwy'r ddinas. Ers rhai blynyddau y mae wedi symud i fyw i Southend, fel nas gwelir ef mor ami yn ein cylchoedd Cymreig ag yn y blynyddoedd gynt, er hynny cura ei galon mor gynnes at yr achosion Cymreig ac at yr hen wlad a phan yn hogyn ar lannau mor hyfryd Ceredigion. Miss TowENA THOMAS.—Yr oedd yn llawenydd i ni weled i'r gantores ieuanc hon gael derby ni ad mor rhagorol yn un o brif gyngherddau Lerpwl ar ddydd Gwener y Groglith. Rhoddid perfformiad o'r Mes- siah yn St. George's Hall, a Miss Thomas oedd un o'r prif unawdwyr. Cafodd glod gan yr holl feirniaid am ddatganiad rhagorol o'r unawd "I know that my Redeemer liveth." Nos Lun daeth galwad am ei gwasanaeth yn Eisteddfod Caer, a gwnaeth ei rhan yno eto yn hynod o ganmoladwy. Ym mlaen yr elo eto ym myd y gan. EISTEDDFOD DULWICH.—I gapel Falmouth Road yr a'r Eisteddfodwyr, a charedigion yr Ysgol Sul nos Fercher nesaf yn llu, gan y cynhelir yno Eisteddfod er budd y gangen ysgol yn Dulwich. Mae'r amcan yn haeddu pob cefnogaeth, a deallwn y bydd y cyfarfod yn wledd o'r fath oreu. Daw corau ac wythawdau o Brixton, Clapham Junction, Wilton Square, y Dwyreinbarth, Falmouth Road, a Lewisham, a cheir cystadleuaeth dyddorol yn yr oil o'r adrannau. Llywyddir gan Mr. John Hinds, ac arweinir gan y Parch. S. E. Prytherch. Addewir dechreu yn brydlon am 7 o'r gloch, a byddwn yno i iwynhau'r wledd. EAST HAM.—Cynhaliwyd Cyngherdd Cys- tadleuol yn East Ham Grove, nos Iau, Mawrth 21, mewn perthynas a'r lie uchod. Daeth nifer fawr o gystadleuwyr i'r maes, a chaiwyd cyngherdd llwyddianus ym mhob ystyr. Arweinydd y cyngherdd ydoedd Mr- Dan Jenkins (secretary Equitable Society), a gwnaeth ei waith yn ardderchog. Mrs. J. H. Carte (Maeres East Ham), oedd yn cyflwyno y gwobrwyon, a chyflawnwyd gwaith ys- grifenyddiaeth gan Mri. J. L. Johns a David Evans, Woodgrange Road.

BUDD-GYNGHERDD Y PARCH. M.…

[No title]

Advertising