Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

Y DYFODOL.

Advertising

----------"-_.___-Gwaith y…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Gwaith y Senedd. Ar ol ychydig o seibiant, dros adeg y Pasc, daeth yr Aelodau Seneddol yn 01 at eu gorchwylion i Westminster ddydd Llun diweddaf. Ail-ddechreuwyd ar waith y tymor heb fawr seremoni, ac edrychai pawb megis rhai wedi dod yno i gyflawni rhyw- beth tros eu gwahanol etholaethau. Nid oes amheuaeth nad oes tymor caled iawn o flaen y Weinyddiaeth. Ar adeg agoriad y Ty ddechreu'r flwyddyn addawyd nifer lliosog o fesurau, ond hyd yn hyn does ond tri o'r rhestr wedi gwneud eu hymddangosiad o flaen yr aelodau. Gwaith anhawdd fydd cwtogi'r dadleuon ar y gwahanol bynciau, a disgwylir y bydd i'r Gyllideb fod yn gyfrifol am lawer o wastraff eto ar amser y tymor. 0 hyn i ddiwedd y tymor, felly, daw galwad parhaus am ffyddlondeb a chynorthwy'r blaid ryddfrydol os am gyflawni rhai o'r addewidion ac os yw'r aelodau Cymreig yn bwriadu bod yn deyrngar i'r hyn a addawyd ganddynt i'w hetholwyr beth amser yn ol bydd raid iddynt fod yn dra chyson yn eu presenoldeb o hyn allan, a bod yn llawer mwy egniol yn eu cefnogaeth i'r Weinyddi- aeth nag y maent wedi bod hyd yn hyn. Y Ddirprwyaeth. Gan fod y Barnwr Vaughan Williams a'i gyd-ddirprwywyr i ail gydio yn y gwaith yr wythnos nesaf, y mae llawer o ymholi a phetruso ymhlith y gwahanol bartion beth fydd tynged yr ymholiad ar ol y seibiant hwn. Gwyddom fod y si wedi bod ar led for yr Athro Henry Jones wedi ymddi- swyddo, ond nid yw hyn wedi dod yn fater i'r cyhoedd hyd yma. Mae'n eglur, er hynny, fod y Barnwr wedi llwyddo i glytio y gwahanol farnau a fodolai ymhlith y Dir- prwywyr beth amser yn ol, ac fod y prif wahaniaethau wedi eu symud ar ol cael yr ymgom hwnnw a'r Arglwydd Ganghellydd a'r Gwir Anrhydeddus D. Lloyd-George. Ond y drwg yw fod rhai personau ar eu heithaf o hyd yn ceisio dinystrio yr ym- chwiliad, ac nis gwyddom pa leshad fydd hynny i Gymru nac i achos Datgysylltiad. Mae'n hen bryd i ni benderfynu ar y seiliau priodol i osod Mesur Datgysylltiad arnynt fel ag i osgoi'r anhawsterau brofodd Mr. Asquith, a'r unig ffordd i hyn yw cwblhau yr ymchwil presennol tan gyfarwyddyd a rheolaeth y Barnwr Vaughan Williams. Datgysylltiad. Ond a geir Mesur i ymdrin a'r pwnc hwn y flwyddyn nesaf yw'r pwnc ? Myn rhai o'r aelodau anfoddog nad yw ym mwriad y Weinyddiaeth i symud un cam ym mhellach, ac mai math o esgys claiar oedd y Ddirprwy- aeth er mwyn gohirio'r holl drafodaeth hyd amser amhenodol. Yr wythnos ddiweddaf caed nifer o wahanol ddatganiadau gan yr aelodau eu hunain. Tystiai Mr. William Jones yn bur groyw fod y Weinyddiaeth yn benderfynol o ddwyn y pwnc ger bron y Ty ddechreu'r flwyddyn nesaf, tra ar yr ochr arall y mae Mri. Ellis J. Griffith a Ellis W. Davies yn beio'r Prif Weinidog am nad yw ei addewidion yn ddigon pendant. Mae Mr. Lloyd George ei hun wedi dweyd yn ddigon croyw fod ei gydaelodau yn y Weinyddiaeth yn cydnabod fod yn rhaid ymdrin a'r pwnc heb oedi, a'i fod yn disgwyl y gellir dwyn mesur priodol i mewn yn gynnar yn y flwyddyn nesaf. Gwell gennym ni roddi ein hymddiriedaeth yng ngair Mr. George na'r beirniaid anfoddog o'r tu allan, oherwydd hyd yn hyn yr ydym wedi cael fod yr Aelod tros Gaernarfon bob amser wedi rhoddi achos a lleshad Cymru ym mlaenaf yn ei holl gynlluniau.

[No title]