Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
6 erthygl ar y dudalen hon
[No title]
MAE Mr. J. D. Rees, yr aelod dros Fald- wyn, wedi bod yn egluro paham y gwrth- wynebodd efe'r Mesur i ganiatau pleidleisiau i'r merched. Pe gwneid merched yn aelodau o'r Senedd, cymaint a fyddai eu swyn fel nas gallai yr aelodau gwrywaidd gael hwyl i ddarllen Llyfrau Gleision Falle wir, Mr. Rees YN mysg y rhai a enwir fel ymgeiswyr am gadair blynyddol Undeb Anibynwyr Cymru a Lloegr, gwelwn enwau y Parch. J. D. Jones, M.A., Bournemouth; a'r Parch. J. Morgan Gibbon, Llundain. MAE Mr. Beecham, y gwneuthurwr peleni enwog wedi marw. Er cymaint y feddygin- iaeth a honnai i'w beleni, nid oeddent yn abl i'w gadw rhag marw chwaith.
CYFARFOD YMADAWOL Y PARCH.…
CYFARFOD YMADAWOL Y PARCH. E. OWEN, B.A., BARRETT'S GROVE, LLUNDAIN, I BONTNEWYDD ARFON. Cynhaliwyd y cyfarfod uchod yn Barrett's Grove, nos Lun, Ebrill 8fed, o dan lywydd- iaeth doeth a medrus y Parch. H. Elvet Lewis, M.A. Cafwyd anerchiadau campus gan y Parchedigion D. C. Jones, Boro'; Machreth Rees Peter Hughes Griffiths, Charing Cross G. H. Havard, B.D., Wilton Square Roderick Davies Arberth Evans Ll. Bowyer, Mri. B. Rees, Isaac Williams, D. Jones, Joseph Williams, Llewelyn, ac E. Price, yr oil yn datgan eu gofid fod Mr. Owen yn gadael Llundain, ac yn dymuno yn dda iddo yn ei faes newydd. Cyflwynwyd anrheg o JL30 i Mr. Owen gan Mr. E. Price, trysorydd yr Eglwys, oddiwrth ei gyfeillion yn Barrett's Grove, ynghydag ychydig o gyfeillion caredig King's Cross, ac yr oedd Mrs. B. Rees, yn ol ei charedigrwydd arferol, wedi darparu pwrs hardd i roddi yr anrheg. Diolchodd Mr. Owen yn gynnes am y rhodd na wyddai ddim am dani yn flaenorol, ac am y geiriau caredig oedd pawb wedi roddi iddo, a dywedai nad anghofiai byth y care- digrwydd oedd wedi ei dderbyn yn Llun- dain. Cafwyd caneuon swynol yn ystod y cyfarfod gan Miss Morfudd Rees a Mr. Herbert Emlyn. Cyfeiliwyd iddynt gan Mrs. Nellie Jones, a chafwyd englyn doniol gan "Llewelyn." Mae Mr. Owen yn gadael Llundain gyda dymuniadau goreu yr Eglwys yn Barrett's Grove, ei enwad, a'i gydgenedl yn Llundain. Bu yn ffyddlawn iawn gyda phwyllgor yr achosion newyddion, yr undeb ysgolion, a'r gymanfa gerddorol, a chafodd yn ystod ei arhosiad yn Llundain bob an- rhydedd allasai ei enwad roddi iddo. Hir oes iddo, a llawer o lwyddiant a gwenau yr Arglwydd yn y Bontnewydd yw dymuniad gonest MEIRIONFAB.
EISTEDDFOD DULWICH.
EISTEDDFOD DULWICH. Ynglyn a'r gangen Ysgol Sabothol sydd yn Dulwich cynhaliwyd Eisteddfod tra llwydd- iannus, yng nghapel Falmouth Road, nos Fercher diweddaf. Yr oedd rhestr faith o destynau cystadleuol wedi ei gosod o flaen y cyhoedd ers talm, a llwyddodd y cyfeillion i gael nifer liosog o gystadleuwyr ar yr oil o honynt. Dechreuwyd yn lied gynnar, ond llwydd- wyd i gadw'r rhaglen i fynd hyd awr hwyr ar waetha'r chwynu yn y gwahanol gyn- brawfion a gaed. Llywyddwyd yn ddeheuig gan Mr. John Hinds, Blackheath, a gofalodd y Parch S. E. Prytherch am yr arweinyddiaeth gyda medr a hwyl. Beirniadwyd yr adran lenyddol gan y Parch. J. E. Davies, M.A., a Iorwerth Ceithio"; yr adrodd gan Mr. W. L. Rees, Brixton, a'r canu gan Mr. Madoc Davies, A.R.C.M., a chyfeiliwyd yn fedrus gan Mrs. D. R. Hughes. Ennillwyd y gwobrau gan y rhai canlynol:— Unawd i blant dan 16: 1 Miss L. Rees, Clydach 2 Miss G. May. Englyn, Odfa Fore Sul Mr. T. R. Evans, Hammersmith. Unawd contralto: Miss Maggie Pierce, Dewi Sant. Rhestr o'r 50 llyfr goreu yn Gymraeg Mr. R. Pierce Jones, Brunswick. Adroddiad i blant dan 16: 1 Miss Gwen- dolen Morgan, Falmouth Road; 2 Miss Myfanwy Jones, Brixton. Pedwar penill, Y Goedwig yn y Gwan- wyn Mr. W. L. Rees, Brixton. Unawd soprano Miss A. Thomas, Hackney. Tri rheswm paham yr wyf yn ddirwestwr 1 Miss Annie Davies, Jewin; 2 Mr. J. R. Owen, Clapham. Adrodd i rai mewn oed Mr. Esmond Evans, Brixton. Unawd baritone Mr. J. Hughes" City Boy." Barddoniaeth—darn i'w adrodd Mrr Williams, Eglwys y Dwyrain. Prif gystadleuaeth gorawl Chwech o gorau, a chaed cystadleuaeth lied galed, a bu raid rhannu'r wobr rhwng King's Cross a Wilton Square. Prif draethawd Goreu "Giraldus," ond nis atebodd i'w enw. Unawd tenor: Mr. D. B. Jones, Falmouth Road. Parti wythawd Parti Gogerddan, tan arweiniad Mr. Esmond Evans.
[No title]
Y MAE y Parch. Gwynoro Davies a Dr- J. 0. Williams, Abermaw, wedi dychwelyd o'r Canary Islands, ac ol y fordaith arnynt yn amlwg er gwell. YM Nghymanfa'r Pasg, Llundain, eleni, yr oedd un yn absennolna welwyd ei golli er's blynyddoedd, sef Mr. Lewis H. Roberts,. Trysorydd, yn hytrach cyn-drysordd C.M- Llundain. Efe bob amser fyddai yn gor- chwilio Cinio'r Gymanfa yn ei ddull naturioli ddyddan ei hunan. Erbyn hyn mae wedi symud i Gymru—i Aberystwyth, i dreulio yno ddedwydd 'nawn ei fywyd. Ei olynydd yw Mr. 0. Morgan Owen, Charing Cross.
Bwrdd y Gol.
Bwrdd y Gol. Mae'r beirdd wedi dihuno eto. Pa un ai'r cyntaS o Ebrill ynte awelon balmaidd y gwanwyn sy'n gyfrifol am hynny, nis gwyddom, ond y maent wedi dihuno. Pan ddaeth y Gol. i wynebu ei gynulliad' wythnosol y tro hwn gwelai res hirfaith o'r gwyr hirwalltog, gyda'u cynyrchion yn dyheu am gael, gwrandawiad. 'Roedd Bardd yr offis wedi cael er gynhyrfu'n ddirfawr gan eu dyfodiad, oherwydd cred y gwr bach nad oes fardd tebyg iddo i'w gael yng* Nghymru ar hyn o bryd-waeth beth fo barn Eifion Wyn neu Arthur Roberts a'r holl hil griticyddol. "Arnoch chi y gorwedd y bai am hyn, troai'n-, sarug at y Gol., waeth yn eich rhifyn diweddaf yr oeddech yn eu cymhell i ganu clod i'r tywydd braf a gaed." Wel gadawer iddynt ddod," ebe'r gwr doeth yn llawn o'i amynedd arferol, a chyda hyn wele Robert Powell, o wlad y Gorllewin, rhoddi ei emyn agor- iadol:— Estyna'r dydd, byrha y nos, A'r hin sydd yn cynesu A'r adar sydd yn dod o'r de I'n bro i ddechreu nythu. Amaethon hefyd sydd yn ddoeth Yn trefnu eu hofferynau I aru'r ddaear, hau yr had, Cyn delo'r hael gawodau. yr hwn, fel pobpeth a ddaw o'r Merica, oedd yn fwy ymarferol na barddonol. Ar ol ei ganu wele frawd ieuanc gyda gwyneb gwelw a chadach du o gylch ei wddf yn codi, ac ar 01 pesychu ddwywaith dywedai mai galareb oedd ganddo er cof am y diweddar "Holdon,"ebe Bardd yr offis, dim galarnadu ar foreu braf fel hwn, a pheth arall, os nad oes rhywbeth gwerth ei ganu. gennych rhaid ei roddi o'r neilldu am dro. Wedi hyn cododd J. W. D. a Ben Gyfadll, a'r ddau am ganu priodasgerddi, a hynny mor Ilawen a phe baent newydd briodi eu hunain. Ond cyn. iddynt orffen enwi'r testyn cyfeiriodd B. yr O. hwynt i ystafell yr hysbysebwyr gan ddyweyd mai chwe cheiniog y llinell oedd y tal am gyhoeddi y. fath bethau-" ac mae'n hynod o rad am y pris hefyd," ychwanegai. Torrodd hyn galonnau'r gweddill. Doedd yr un o honynt wedi dadebru digon i ganu canig wreiddiol., a chan ei bod yn hen bryd cael rhywbeth heb farwn- adau a chaneuon priodasol, trowyd at waith arferol y cynulliad. D. THOMAS (Canada).-Diolch am air oddiyna, a, blin gennym glywed nad yw pethau wedi troi allaiv mor ddymunol ag y disgwyliech. HEN AELOD 0 JEWIN NEWYDD.—Nid ydych wedi, ymddiried i ni eich enw priodol, felly nis gallwn gyhoeddi y Ilythyr, a pheth arall, nis gallem ei. gyhoeddi ond fel hysbysiad. Gwnai tua 48 llinell, a'n pris yw chwe cheiniog y llinell am hysbysiad o'r fath. E. JONES.-Nid arnom ni mae'r bai na chyhoeddir manylion am holl gyfarfodydd y dyfodol ynglyn a Chymru'r ddinas. Mae ein colofn hysbysebol yn agored i bawb a'n telerau yn ddigon rhad.
Am Gymry Llundain.
YMADAWIAD.-Dydd Mercher diweddaf hwyliodd Mr. W. D. Evans, un o ysgrifenn- yddion Cymdeithas Lenyddol y Boro', i lanw swydd uchel mewn ariandy yn Valparaiso, Chili. Mab Cadben a Mrs. Evans, Golan, ger y Wern, Llanarth, yw Mr. Evans. Y mae yn ddyn ieuanc o alluoedd cryfion, ac o gymeriad difrycheulyd. Eiddunir iddo oes faith o lwyddiant, iechyd, a daioni. Anrheg- wyd ef a Bibl ar ei ymadawiad gan ei gyfeillion yn y Boro'. CWRDD Y GWEINIDOGION.—Cynhaliwyd yr uchod ddydd Llun diweddaf ym Mile End, dan lywyddiaeth Mr. Herbert Morgan, B.A. Dadganwyd llonder mawr wrth weled Mr. Havard, M.A., B.D., Wilton Square, wedi gwella digon i ailymaflyd yn ei waith wedi y driniaeth feddygol fu dani yn ddiweddar. Darllenodd y Parch. H. Elved Lewis, M.A., bapur galluog ar Savonarola." Lion oedd gan bawb i weled Mr. a Mrs. Oliver mor ddedwydd a llwyddianus yn y lie. CYMDEITHAS DDIRWESTOL MERCHED CYM- REIG LLUNDAIN.—Da gennym glywed fod y gymdeithas uchod yn ymroi i waith. Daeth nifer liosog ynghyd i'r pwyllgor gynhaliwyd yn Charing Cross Road prydnawn Llun diweddaf. Anfonwyd deiseb at bwyllgor yr Eisteddfod Genedlaethol a gynhelir yn Llangollen, yn erfyn arnynt beidio ceisio trwydded i werthu diod feddwol ar faes yr Eisteddfod. Hefyd penderfynwyd cael tent dirwestol ar Hampstead Heath ddydd Llun Sulgwyn. Trefnwyd fod nifer o foneddi- gesau hefyd i ymweled yn rheolaidd a Chymry fyddo yn yr ysbyttai. Bydd yn dda gan Miss Leah Thomas, 3, Rosslyn Court, Hampstead, yr hon sydd yn drefnyddes ar y y rhan yma o'r gwaith, gael enwau unrhyw rai sydd yn yr ysbyttai a ddymunent i'r chwiorydd anwyl hyn ymweled a hwynt. Y mae y pwyllgor hefyd yn ystyried y mater o gychwyn Cartref Cymreig i enethod yn Llundain, ac i'r amcan yma gwahoddir yr holl weinidogion Cymreig i gyfarfod pwyll- gor y chwiorydd yn nhy Mrs. Herbert Lewis yr wythnos nesaf. Haedda y gymdeithas hon gefnogaeth cynhesaf ein holl eglwysi. Llywyddes y gymdeithas ar hyn o bryd ydyw Mrs. Lloyd-George, ac y mae wedi gweithio yn egniol gyda'r achos. Yr ysgrif- ennyddes ydyw Miss Cassie Davies, Jewin, yn cael ei chynorthwyo gan Miss Rees, Stepney Green. CYFARFODYDD CYMREIG.—Yn ychwanegol at restr cyfarfodydd Colofn y Dyfodol y mae'r cynnulliadau a ganlyn wedi eu trefnu:— Ebrill 17, Cyfarfod terfynol Cymdeithas Clapham Junction Ebrill 21 a 22, Gwasan- aethau blynyddol Eglwys St. Benet; Mai 1, Cyngherdd blynyddol Capel M.C. Clapham Junction; a Mai 26, Cyfarfod pregethu blynyddol Eglwys St. Padarn.