Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

[No title]

CYFARFOD YMADAWOL Y PARCH.…

EISTEDDFOD DULWICH.

[No title]

Bwrdd y Gol.

Am Gymry Llundain.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

YMADAWIAD.-Dydd Mercher diweddaf hwyliodd Mr. W. D. Evans, un o ysgrifenn- yddion Cymdeithas Lenyddol y Boro', i lanw swydd uchel mewn ariandy yn Valparaiso, Chili. Mab Cadben a Mrs. Evans, Golan, ger y Wern, Llanarth, yw Mr. Evans. Y mae yn ddyn ieuanc o alluoedd cryfion, ac o gymeriad difrycheulyd. Eiddunir iddo oes faith o lwyddiant, iechyd, a daioni. Anrheg- wyd ef a Bibl ar ei ymadawiad gan ei gyfeillion yn y Boro'. CWRDD Y GWEINIDOGION.—Cynhaliwyd yr uchod ddydd Llun diweddaf ym Mile End, dan lywyddiaeth Mr. Herbert Morgan, B.A. Dadganwyd llonder mawr wrth weled Mr. Havard, M.A., B.D., Wilton Square, wedi gwella digon i ailymaflyd yn ei waith wedi y driniaeth feddygol fu dani yn ddiweddar. Darllenodd y Parch. H. Elved Lewis, M.A., bapur galluog ar Savonarola." Lion oedd gan bawb i weled Mr. a Mrs. Oliver mor ddedwydd a llwyddianus yn y lie. CYMDEITHAS DDIRWESTOL MERCHED CYM- REIG LLUNDAIN.—Da gennym glywed fod y gymdeithas uchod yn ymroi i waith. Daeth nifer liosog ynghyd i'r pwyllgor gynhaliwyd yn Charing Cross Road prydnawn Llun diweddaf. Anfonwyd deiseb at bwyllgor yr Eisteddfod Genedlaethol a gynhelir yn Llangollen, yn erfyn arnynt beidio ceisio trwydded i werthu diod feddwol ar faes yr Eisteddfod. Hefyd penderfynwyd cael tent dirwestol ar Hampstead Heath ddydd Llun Sulgwyn. Trefnwyd fod nifer o foneddi- gesau hefyd i ymweled yn rheolaidd a Chymry fyddo yn yr ysbyttai. Bydd yn dda gan Miss Leah Thomas, 3, Rosslyn Court, Hampstead, yr hon sydd yn drefnyddes ar y y rhan yma o'r gwaith, gael enwau unrhyw rai sydd yn yr ysbyttai a ddymunent i'r chwiorydd anwyl hyn ymweled a hwynt. Y mae y pwyllgor hefyd yn ystyried y mater o gychwyn Cartref Cymreig i enethod yn Llundain, ac i'r amcan yma gwahoddir yr holl weinidogion Cymreig i gyfarfod pwyll- gor y chwiorydd yn nhy Mrs. Herbert Lewis yr wythnos nesaf. Haedda y gymdeithas hon gefnogaeth cynhesaf ein holl eglwysi. Llywyddes y gymdeithas ar hyn o bryd ydyw Mrs. Lloyd-George, ac y mae wedi gweithio yn egniol gyda'r achos. Yr ysgrif- ennyddes ydyw Miss Cassie Davies, Jewin, yn cael ei chynorthwyo gan Miss Rees, Stepney Green. CYFARFODYDD CYMREIG.—Yn ychwanegol at restr cyfarfodydd Colofn y Dyfodol y mae'r cynnulliadau a ganlyn wedi eu trefnu:— Ebrill 17, Cyfarfod terfynol Cymdeithas Clapham Junction Ebrill 21 a 22, Gwasan- aethau blynyddol Eglwys St. Benet; Mai 1, Cyngherdd blynyddol Capel M.C. Clapham Junction; a Mai 26, Cyfarfod pregethu blynyddol Eglwys St. Padarn.