Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

[No title]

CYFARFOD YMADAWOL Y PARCH.…

EISTEDDFOD DULWICH.

Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu

EISTEDDFOD DULWICH. Ynglyn a'r gangen Ysgol Sabothol sydd yn Dulwich cynhaliwyd Eisteddfod tra llwydd- iannus, yng nghapel Falmouth Road, nos Fercher diweddaf. Yr oedd rhestr faith o destynau cystadleuol wedi ei gosod o flaen y cyhoedd ers talm, a llwyddodd y cyfeillion i gael nifer liosog o gystadleuwyr ar yr oil o honynt. Dechreuwyd yn lied gynnar, ond llwydd- wyd i gadw'r rhaglen i fynd hyd awr hwyr ar waetha'r chwynu yn y gwahanol gyn- brawfion a gaed. Llywyddwyd yn ddeheuig gan Mr. John Hinds, Blackheath, a gofalodd y Parch S. E. Prytherch am yr arweinyddiaeth gyda medr a hwyl. Beirniadwyd yr adran lenyddol gan y Parch. J. E. Davies, M.A., a Iorwerth Ceithio"; yr adrodd gan Mr. W. L. Rees, Brixton, a'r canu gan Mr. Madoc Davies, A.R.C.M., a chyfeiliwyd yn fedrus gan Mrs. D. R. Hughes. Ennillwyd y gwobrau gan y rhai canlynol:— Unawd i blant dan 16: 1 Miss L. Rees, Clydach 2 Miss G. May. Englyn, Odfa Fore Sul Mr. T. R. Evans, Hammersmith. Unawd contralto: Miss Maggie Pierce, Dewi Sant. Rhestr o'r 50 llyfr goreu yn Gymraeg Mr. R. Pierce Jones, Brunswick. Adroddiad i blant dan 16: 1 Miss Gwen- dolen Morgan, Falmouth Road; 2 Miss Myfanwy Jones, Brixton. Pedwar penill, Y Goedwig yn y Gwan- wyn Mr. W. L. Rees, Brixton. Unawd soprano Miss A. Thomas, Hackney. Tri rheswm paham yr wyf yn ddirwestwr 1 Miss Annie Davies, Jewin; 2 Mr. J. R. Owen, Clapham. Adrodd i rai mewn oed Mr. Esmond Evans, Brixton. Unawd baritone Mr. J. Hughes" City Boy." Barddoniaeth—darn i'w adrodd Mrr Williams, Eglwys y Dwyrain. Prif gystadleuaeth gorawl Chwech o gorau, a chaed cystadleuaeth lied galed, a bu raid rhannu'r wobr rhwng King's Cross a Wilton Square. Prif draethawd Goreu "Giraldus," ond nis atebodd i'w enw. Unawd tenor: Mr. D. B. Jones, Falmouth Road. Parti wythawd Parti Gogerddan, tan arweiniad Mr. Esmond Evans.

[No title]

Bwrdd y Gol.

Am Gymry Llundain.