DARLLENWCH ERTHYGLAU (5)

News
Copy
DADGYSYLLTIAD I GYMRU: A OES BRYS? Nid oes dim yn fwy andwyol i gynnydd "cenedl na cheisio byw ar y gorffenol. Ni .fill y felin efo'r dwfr a aethheibio. Stag- nation means degeneracy. Deddf bywyd yw ■cyfnewid. Rhaid i genedl adnewyddu ei hun o genhedlaeth i genhedlaeth, onide dirywiad a marwolaeth fydd ei thynged. Un •o'r arwyddion iachusaf ar gyflwr Cymru heddyw yw ei bod yn colli ei dyddordeb ym iHihwiic Dadgysylltiad yr Eglwys. Yn hyn o eth y mae y Werin yn ddoethach a chraff- ach na'i harweinwyr: greddf hunan-ddio- gelwch sydd yn peri hynny. Byw i'w dymor a'i amcan ei liun, megis pryfetyn un- ¡dydd, wna'r demagog gwleidyddol. Mae y genedl am fyw byth. Bu adeg pan oedd Dadgysylltiad yn bwnc pwysig i Gymru. Yr oedd angen am dano. Pan ddechreuodd Gwilym Hiraethog, J.R., Henry Richard, ac -ereill, guro ar gaerau yr Eglwys Sefydledig, nid gormod dweyd ei bod yn orthrwm cref- yddol, gwleidyddol, a chymdeithasol yng Nghymru a pharod iawn oedd ein cenedl i godi mewn gwrthryfel yn ei herbyn. Yr -oedd yr ysgolion i gyd yn ei meddiant a gwthiai ei chatecism, fel triagl a brwmstan, i lawr corn gyddw pob plentyn. Tair brad- -ormes Ynys Brydain y dyddiauhynny oedd y Bendefigaeth, yr Eglwys, a'r Fainc Ynadol ac yr oedd eu dwrn a'u sang yn drymach ar Gymru nag un rhan arall o'r deyrnas. Tri I 1 .1 I I -cnytnraui cynortnwyoi iddynt oedd y titlwart, y Person, a'r Ceisbwl. Ac ni ddylem .anghofio gwraig y Person: yr oedd hithau yn allu mawr ym mhob llan a thre. Hi oedd yn dosbarthu ffafrau a chosbau ar ei gwen a'i chwilwg hi y dibynai dedwyddwch cym- deithasol pobteulu. Yr oedd cynnydd Ym- neillduaeth yn ddraen i falchder y Person. Prif nod ei elyniaeth oedd y Pregethwr a'r Pregethwr yntau, nid duach na mwy halog- ,edi- yn ei olwg oedd Belial ei hun na'r Offeiriad. Am hynny, nid rhyfedd mai arweinwyr y mudiad hwn oedd gweinidog- ion yr enwadau Ymneillduol. Onid oedd traha yr Eglwys wedi suddo yn ddwfn i'w heneidiau ? Onid oedd pobl eu gofal megis plant y ygaethglyd dan iau yr estron ? Yr oedd goruchafiaeth gymdeithasol a gwladwr- iaethol yr Eglwys yn sen i Ymneillduaeth. Elai y pregethwyr mor bell ag y meiddient i ddynwared y Person, yn ei ddiwyg a'i ddull; ond poen iddynt oedd teimlo mai dynwared- wyr oeddynt. Drwy oddefiad y galwent eu hunain yn Reverends." Nid oedd myned- iad iddynt i'r Llys na'r Brifysgol. A thra'r oedd y Person a'r Sgweier mewn cyngrair a'u gilydd, nid oedd rhyddid gwladol namyn lledrith i hudo'r anwyliadwrus i siglenydd -erledigaeth a dialedd. Pwy bynnag a feiddiai bleidleisio yn groes i orchymyn y triwyr traws, gwae iddo ef os nad oedd yn gwbl anibynol ar amgylchiadau y byd. Dyna paham y cychwynwyd croesgad yn -erbyn yr Eglwys Wladol. O'r gogledd i'r de, o lannau y mor i gilfachau y mynydd, eyfododd gwaedd gyffredinol am ryddhad .,crefydd oddiwrth hualau y Wladwriaeth. A'r ucha f ei lais yn y rhyfelgyrch hwn oedd y Pregethwr. Iddo ef alpha ac omega y wyddor boliticaidd oedd Dadgysylltiad a Dadwaddoliad yr Eglwys. I raddau yr oedd :yn iawn, i raddau mwy yr oedd yn methu. Yr oedd terfyngylch ei arsyllfa yn rhy gyfyng. Gwasanaethodd Dadgysylltiad yn rhagorol am fwy na deugain mlynedd fel cri etlloliadol-gwnaeth fwy na dim arall i uao'r genedl ym mhlaid rhyddid ac iawnder. Oad camgymeriad y pregethwr gwleidyddol oedd tybio y boddlonai gwerin Cymru byth ar Ddadgysylltiad. Safodd ef yn ei unman a'r amserau yn symud ymlaen. Y mae cewri Dadgysylltiad yn y pridd. Y mae amgylchiadau wedi newid. Y mae cyfleus-

News
Copy
TRACHWANT MEIRION. "OLIVER TWIST."—Meirionydd yn gofyn am ychwaneg.

News
Copy
MAE Owrdd Misol Caerfyrddin am wneud rheol na ddylai yr un blaenor na swyddog eglwysig fod yn llymeitwr. Pan ddaeth y mater ger bron y Gymdeithasfa gofynai'r Parch. Thomas Levi Beth am smocio ?" Yr oedd rhai yn credu fod ysmygu yn gymaint drwg ag yfed. Y TRI wyr hyn." Dyna benawd ysgrif coffa am y tri aelod sydd wedi ymneillduo oddiar y Ddirprwyaeth Eglwysig. Bu Esgob Llanelwy yn treulio'r Pasc yng nghwmni Mr. Frank Edwards, A.S. Diau i'r ddau gael amser braf wrth ymdrin ag achos yr Eglwys fel yr ymddengys o flaen y Ddirprwyaeth.

News
Copy
Am Gymry Llundain. CYNGHERDD STRATFORD.—Hwn fydd prif atdyniad yr wythnos ddyfodol, a disgwylir cynulliad mawr iddo. ST. BENET.-Cynhelir gwasanaethau blyn- yddol yr Eglwys hon yn ystod y Sul y fory. Pregethir gan y Parch. J. M. Griffith, Llan- samlet (gynt o Aberaeron), foreu a hwyr, a rhoddir pregeth Saesneg yn y prydnawn gan y Parch. D. Alec Lloyd, un o fechgyn Llambed. CYFARFODYDD PREGETHU. Cynhaliodd eglwys y Tabernacl gyfarfodydd hanner- blynyddol y nos Sadwrn a'r Sul diweddaf. Traddodwyd pregethau gan y Parchn. Enyon Davies, Elfet Lewis, a Machreth Rees. CEIDWADWYR CYMREIG.-Cynhaliodd Cym- deithas Ceidwadwyr Cymreig Llundain ei chyfarfod blynyddol ddydd Gwener di- weddaf, tan lywyddiaeth yr Anrhyd. C. E. Edwards. Etholwyd Iarll Plymouth yn llywydd, a Syr John Puleston yn gadeirydd y Gymdeithas, ac ail-etholwyd yr oil o'r swyddogion ereill. Cymdeithas fechan ddiniwed hollol yw hon, a cheidw ei chen- hadaeth a'i gwaith yn guddiedig oddiwrth y byd. Er hynny y mae gobaith y ca beth adfywiad yn awr, yn enwedig os dygir mater Dadgysylltiad o flaen y Senedd. BORO'Nos Iau, Ebrill 11, cynhaliodd Cymdeithas Lenyddol y lie uchod ei heis- teddfod flynyddol dan lywyddiaeth Mr. W. R. Evans, Brixton. Beirniadwyd gan Mr. Arthian Davies, Wilton Road Mr. David James, New Cross Mr. D. Tyssilian Jones, St. Peter Street; Mrs. W. Lloyd Owen, Amhurst Park, ac ereill. Rhoddas- ant foddlonrwydd cyffredinol, nid yn unig i'r buddugwyr a'u cyfeillion, eithr hefyd i'r rhai fethasant gipio y gwobrau. Camp fawr yw medru ennill mewn eisteddfod, eithr camp fwy ydyw medru colli yn urddasol. Cyfeiliwyd gan Miss Jennie Jones, A.R.C.M.,

News
Copy
derau a dyheadau Cymru wedi ymeangu. Nid yw dadgysylltu yr Eglwys o gymaint pwys ag y bu. Darfu ar orthrwm yr Eglwys yng Nghymru. Yr ydym, erbyn hyn, wedi dod i fwynhau perffaith ryddid crefyddol a gwleidyddol. Nid oes neb yn ofni y Person na'r Sgweier. Mae Ymneillduwyr yn mynd yn lliosocach nag Eglwyswr ar y fainc ynadol. Mewn gair, nid yw yr Eglwys yn ddychryn i Werin Cymru. Ym mhlith y prif achosion sydd wedi creu y chwyldroad enfawr hwn gellid nodi y canlyn:— (a) Y Tugel ac Estyniad yr Etholfraint. (b) Deddf Addysg Elfenol 1870. (c) Deddf Claddu 1880. (d) Y tri choleg cenedlaethol a'r Brif- ysgol i Gymru. (e) Addysg Ganolradd. ( £ ) Deddfau Llywodraeth Leol, 1888 ac 1894. Fe roddodd y Tugel berffaith ddiogelwch i'r etholwr a bu diwedd ar orthrwm Toriaidd ac Eglwysig yng Nghymru. Gellir hebrwng Ymneillduwr i dy ei hir gartref heb wadu ei grefydd ar geulan Tragwyddoldeb. Drwy gymorth yr ysgolion a'r prifysgolion mae y Werin Gymreig wedi dod yn Werin ddys- gedig. Mae y Cyngor Sir, y Cyngor Dos- barth, a'r Cyngor Plwy, wedi trosglwyddo y gallu i drin materion lleol o ddwylo y County Squires i etholedigion y bobl; a'r mwyafrif mawr ohonynt yn Ymneillduwyr.- (Elphin yn Ii Y Geninen" am Ebrill.)