Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
6 erthygl ar y dudalen hon
CYFARFOD MISOL LLUNDAIN.
CYFARFOD MISOL LLUNDAIN. Cynhaliwyd Cyfarfod Misol y Methodis- tiaid Calfinaidd Llundain yng Nghapel Jewin Newydd neithiwr (nos Fercher), dan lywyddiaeth y Parch. Peter Hughes Griffiths. Ar ol dechreu y cyfarfod trwy ddarllen rhan o'r Ysgrythyr a gweddi gan y Parch. R. 0. Williams, Holloway, darllenodd yr ysgrif- ennydd (y Parch. F. Knoyle, B.A.), gofnod- ion y cyfarfod misol blaenorol, a chadarn- hawyd hwy. Ymhlith y gohebiaethau yr oedd llythyr yn dwyn perthynas a Chartrel i Ferched leuainc o Gymru, a hysbysodd y llywydd y byddai i Bwyllgor y Cyfarfod Misol ymgynull i ymdrin a'r mater nos Lun, Mai 6ed. Cyflwynwyd adroddiad y cenhadon fu yn Jewin yn arholi'r swyddogion gan Mr. W. Evans, Wilton Square, a chadarnhawyd eu dewisiad a rhoddwyd i'r rhai oedd yn bres- ennol ddeheulaw cymdeithas gan y llywydd. Dewiswyd y Parchn. J. E. Davies, M.A., a P. Hughes Griffiths, ynghyda Mri. W. Evans, Wilton Square, ac 0. Morgan Owen i gynrychioli y C.M. yn y Gymanfa Gyffredin- ol yn Llanelli, Mehefin 11, 12, a'r 13eg, a'r Parch. G. H. Havard, B.A., B.D., a Mr. John Morgan, Holloway, i gynrychioli y C.M. yng Nghymdeithasfa'r De yng Nghrughywel Mai 27, 28, a 29. Traddodwyd y cyngor i'r swyddogion newydd gan Mr. W. Price, Shirland Road. Cafwyd anerchiad fer a hynod bwrpasol gan Mr. Price, a dywedai mai angen mawr ein heglwysi y dyddiau presennol yw cael dynion duwiol yn swyddogion ac arweinwyr yn ein plith, ac am i ni oil gofio nas gallwn wneud yn well na chymeryd yr Arglwydd lesu Grist ei hunan fel ein harweinydd. Caniatawyd cais Eglwys Hammersmith am ragor o flaenoriaid, a phenodwyd y Parch. D. Oliver, Mr. W. Price, Shirland Road, ac Isaac T. Lloyd, Walham Green, i fyned yno Nos Sul, Mai 12fed, ar ran y Cyfarfod Misol i'w cynorthwyo i dderbyn llais yr Eglwys yn yr etholiad. Hysbyswyd y cynhelir cyfarfod croesawu y Parch. J. Thickens yn weinidog Eglwys Willesden Green nos Fercher, Mai 15fed. Penodwyd y llywydd (Parch. P. H. Griffiths), Parch. J. E. Davies, M.A., a'r Parch. G. H. Havard, B.A.,B.D., i fyned yno i gynrychioli y Cyfarfod Misol. Ynglyn ag adroddiad Pwyllgor yr Achos- ion Newyddion penderfynwyd caniatau ceis- iadau Eglwysi Wood Green a Walthamstow am ragor o swyddogion, a phenodwyd nos Sul, Mai 12fed, fel amser i gynrychiolwyr y C.M. fynd at yr Eglwysi i'w cynorthwyo yn y gwaith. Penodwyd y Parch. F. Knoyle, B.A., a Mr. 0. M. Williams i fyned i Wood Green, a'r Parch. R. 0. Williams a Mr. T. J. Anthony i fyned i Walthamstow. Cyflwyn- wyd cais Tottenham am ragor o grant i sylw'r Pwyllgor Arianol, ac anogwyd y cyfeillion yn Ealing i geisio cael lie pwrpasol i adeiladu capel haiarn. Penodwyd Mr. R. V. Thomas, Dr. Philips, Mri. John Jenkins, Wilton Square; T. J. Anthony, Shirland Road; G. Williams Jones, Lewis- ham a James Evans, Clapham Junction, i ymweled a'r Eglwysi i ddwyn i'w sylw y priodoldeb o wneud ymdrech arbennig i chwyddo y casgliad at yr achosion newydd- ion: yr ymweliadau i gymeryd lie nos Sabbothau Mai 12, 19, a'r 26ain. Hefyd hysbysodd ysgrifennydd y Pwyllgor y bydd cylch-lythyr yn cael ei anfon ynglyn a'r casgliad at y Gronfa Fenthyciol sydd i'w wneyd y Sul cyntaf yn Mai. Cadarnhawyd gwaith y Pwyllgor Arianol a Phwyllgor yr Ysgol Sabbothol, ac ynglyn a'r diweddaf pasiwyd penderfyniad yn gofyn i'r Pwyllgor Canolog sy'n dwyn cysylltiad a'r Arholiad Cyfunebol i drefnu i'r cwestiynau gael eu rhoddi yng Nghymraeg a Saesneg. Der- byniwyd adroddiad Pwyllgor Adeiladu ynglyn a chof-golofn y diweddar Barch. James Hughes. Hysbyswyd y bydd bronze medallion o'r gwrthrych yn cael ei roddi ar y gofgolofn newydd yn Bunhill Fields, ac fod yr argraff ar y golofn fel y canlyn :— "Adgof uwch Anghof." Yma Y GORWEDD GWEDDILLION Y PARCH. JAMES HUGHES (IAGO TRICHRUG). Esboniwr Gair Duw. Ganwyd 3ydd Gorphenaf, 1779. Bu farw 2ail Tachwedd, 1844. Efe oedd ganwyll yn llosgi ac yn goleuo." Pasiwyd pleidlais o gydymdeimlad llwyraf y C.M. a theulu Dr. John Pugh, a gwnaed sylw o'r golled fawr i'r cyfundeb fu symud- iad o'n plith y gwr fu'n foddion i ddwyn yn ol at Grist gymaint o'n cydwladwyr yng Nghymru oedd wedi myned ar gyfeiliorn. Amlygwyd cydymdeimlad y brodyr hefyd a'r cyfeillion Mri. Owen Williams, Mile End Road, a W. Davies, Shirland Road yn her- wydd gwaeledd perthynasau agos. Cafwyd ychydig sylwadau gan y Parch. J. Pryce Davies, M.A., Caer. Galwodd y Parch. J. E. Davies, M.A., sylw at y Davies Lecture gan y Parch. J. Morgan Jones, Caerdydd ei theitl yw Trem ar yr Efengylau." Hefyd gwnaed sylw o'r dysteb i'r Parch. John Evans, Abermeurig, a phen- derfynwyd anfon at yr Eglwysi i ofyn iddynt gymeryd y mater i fyny. Rhoddodd Mr. John Burrell rybudd y byddai'n gwneyd cynygiad yn y C.M. nesaf ynglyn a'r ohebiaeth sydd wedi cymeryd lie yn y newyddiaduron yn ystod yr wythnosau diweddar ynglyn a'r cwestiwn o sefydlu Achosion Seisnig perthynol i'r Cyfundeb yn Llundain. Diweddwyd gan y Parch. J. Pryce Davies, M.A.
Gwenau'r Gwanwyn.
Gwenau'r Gwanwyn. Yr adar man sy'n canu, < A changau'r coed sy'n glasu, Y gwanwyn sy'n dynesu, 0 mor braf! Minnau gaf, Lon-groesawu, Gwawrddydd haf. Awelon mwyn.y boreu, Yn gymhlith a phelydrau, Yr haul, adfywia'r blodau 0 mor hardd Yw yr ardd, Dail a blodau, Yno chwardd. Y Wanwyn-nos sydd nwyfus, Y lleuad sy'n hudolus, A'r ser yn llongariadus, Ac ar dlos, Gamfa'r ffos, Gwener wena, Yn y nos. Gwalia, Llandrindod. EDWARD JENKINS.
"Y GENINEN" AM EBRILL.
"Y GENINEN" AM EBRILL. Cynhwysa—Y Parch. R. J. Campbell a'r Ddiwin- yddiaeth Newydd," gan y Parch. D. Adams, B.A. (Hawen); Sampl o Ymddiddanion, gan y Parch. William Hobley; Addysg Grefyddol—" Catecism yr Hen Fam, a Hyfforddwr" yr Hen Gorph, gan y Parch. Ben Jones; Dadgysylltiad i Gymru: A oes brys? gan Elphin; Ceffylau Pren, gan Ddewi Mon Odlau'r Gwanwyn, gan Eilir Mai, y Parch. J. D. Richards, Mr. E. 0. James, B.A., Neifion, Mr. T. Williams, Eifion Wyn, Mr. David Wynne, Teifi, ac Eilian; Llwfriaid Cymdeithas yng Nghymru, gan Mr, J. Rhys Thomas; Y Llaethferch Can Arobyn, gan 'Ffryfdir; Yr Awen Gymreig a'r Beibl, gan Fafonwy; Nod Angen Cymdeithas Lenyddol, gan Alavon Barddoniaeth Beth yw ? gan Wili; Dylan- wad yr Aifft, gan y Parch. R. Silyn Roberts, M.A. Adduned Bardd—i wneyd beth ? gan Anthropos; Y Bedyddwyr a Chynghor yr Eglwysi Rhyddion, gan y Parch. W. P. Williams, D.D.; Safonau Dafydd ap Gwilym, gan y Proffeswr Anwyl, M.A.; Dechreu Haf: Awdl, gan Mr. R. W. Parry; Adgofion Henwr, gan Mr. Eleazar Roberts, Y.H.; Y Glowyr, gan W. H. Gobebiaethau-" Ffanni Blodau'r Ffair," Gan R. J. J.; Y Parch. Richard Rees (1709— 1749), gan T. C. U.; Llythyrau Anna Beynon, gan R. J. J. Y Parch. Samuel Jones, M.A., gan S. N. S.; John Bradford, gan T. C. U. Manion Barddonol- Gan y Parch. D. Emrys James, Cenech, Mr. J. E. Jones, Ab Trebor, Ap Meurig, Mr. Simon Jones, Madryn, Gwilym Bedw, Berw, Machreth, Alavon, Ab Hefin, Dwyryd, Dyfrydog, y Parch. Aaron Morgan, Oliver, Mr. W. Thomas, loan Myrddin, Ap Tegla, Cefnydd, y Parch. J. Tegryn Phillips, Isdulyn, Gwilym Ardudwy, Gwilym Meirion, Atha, Tanadog, Ednant, Graienyn, Pedrog, Dewi Gwernol, Llewelyn, Ap Cernyw, Gwilym Deudraeth, Ap Lleyn, Mr. T. Carno Jones, Gwydderig, Mr. R. E. Jones, Gwilym Elian.
-------------Gohebiaethau.
Gohebiaethau. CYNGHERDD HOLBORN TOWN HALL. TESTYNAU (9) Enwi yr 20ain dyn enwocaf a mwyaf adna- byddus yn awr yn fwy. (10) Enwi y 6 Cymraes enwocaf, &c. Syu,-Er budd y rhai a gymerai ddyddordeb yn y ddau destyn uchod, ac hefyd adeiladaeth darllenwyr eich newyddiadur clodwiw, caniatewch i mi ychydig ofod i ofyn i ysgrHennydd Llundeinig y cyngherdd cystadleuol dan sylw, a fydd ef mor garedig a chy- hoeddi beirniadaeth y Parch. Thomas Levi a William Morgan ar y testynau hyn, yn y KELT am yr wythnos nesaf. Heblaw y feirniadaeth, dymunol hefyd fyddai cael gwybod pwy ydyw yr enwogfon uchod. Hyderaf y gwel yr ysgrifennydd ei ffordd yn glir i gydsynio am cais.-Yr eiddoch, &c., Paddington. W. RICHARDS.
Advertising
THE WELSH BAPTIST CHAPEL, Little Alie Street, Aldgate, E. 4 minutes from Aldgate Stations of the Metropolitan and District Railways). "-r.r'r-J' THE ANNUAL JL N EVEfilfiO CONCERT Will be held ^phvrsdaxf, 2nd May, 1901* -+ ARTISTES: Miss MAGGIE DAVIES, Miss GWLADYS ROBERTS, Mr. GWILYM RICHARDS, Mr. DAVID EVANS. ELOCUTIONIST- PROF. CHARLES SEYMOUR. ACCOMPANIST— MR. MERLIN MORGAN. CHAIRMAN- JOHN HINDS, ESQ. Tea and Coffee, 5.30 until 7.30. Concert at 8 Admission 1/- Reserved Seats, 2/- Numbered and Reserved 5/-
Y DYFODOL.
Y DYFODOL. Mai 2.— Moorfields," Little Alie Stree. Te a Chyngherdd Blynyddol. Eisteddfod Mile End Road. Mai 8.— Ealing. Cyfarfod Te Blynyddol a Chyng- herdd yn y Town Hall. Mai 9.— Jewin. Cyfarfod Cystadleuol.