Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

[No title]

Am Gymry Llundain.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Am Gymry Llundain. CYFARFODYDD MAI.—-Ar hyn o bryd mae Llundain yn llawn o gynrychiolwyr i Gyfar- fodydd Mai. Y DDIWINYDDIAETH NEWYDD. Rhoddir lie amlwg i'r mater hwn yn rhai o'r cynhad- leddau, ond condemnio Mr. Campbell maent oil, tra ar yr un pryd yn coleddu ei farnau. RHYDDHAD CREFYDD.—Llywyddir cyfarfod mawr Cymdeithas Rhyddhad Crefydd eleni gan y Gwir Anrhydeddus D. Lloyd-George, A.S. Wedi iddo enill ei safle bresennol y mae'r Gymdeithas wedi ei adnabod. Yn y blynyddoedd gynt gydag anhawsder y gad- ewid iddo ymddangos ar Iwyfan y cyfar- fodydd a gynhelid tan nawdd y Gymdeithas. EGLWYS DEWI SANT.-Cynhelir cyfarfodydd arbennig yn yr Eglwys hon ddydd Sul, Mai 5ed. Pregethir eleni gan y Parch. D. Jones, Ficer, Abererch, un o ddoniau mwyaf galluog yr Hen Fam, ac un o blant athry- lithgar canolbarth Ceredigion. CYNGHERDD MOORFIELDS.-Dyma fydd at- dyniad mawr yr wythnos nesaf, a disgwylir cynulliad llawn i gapel Little Alie Street ar nos Iau. Llenwir y gadair gan Mr. John Hinds, a disgwylir nifer o'n cantorion goreu i ymddangos ar y rhaglen yno. COFFHAD.-Dyma fel yr englynodd un o'n beirdd awengar wrth glywed am farwolaeth sydyn Mr. Daniel Jones, un o ddiaconiaid ffyddlon yr Eglwys yn East Ham :— Y gwylaidd a'r pur o galon-oedd ef, Ddihafal Ddiacon Yn East Ham a gwas da Ion Fu Daniel fyivyd union. Ebrill 20, 1907. Cyfadl. YMWELIAD A SHIRLEY HILLS.-Prydnawn Sadwrn diweddaf ymwelodd Rambling Club y Tabernacl, King's Cross, a'r Shirley Hills. Yr oedd y tywydd yn ffafriol, a throdd tua thriugain allan, o dan arweiniad Mri. Stanley Davies ac Emlyn James. Wedi gadael East Croydon cerddasom yn groes i ran helaeth o'r Shirley Hills, nes dod i bentref bychan lie yr oedd te wedi cael ei ddarparu ar ein cyfer. Oddiyno troisom ein camrau i ran arall o'r Shirley Hills, lie caed chwareuon difyr hyd nes i gysgodion nos ddod ar ein gwarthaf. I ddiweddu pleserdaith hapus caed cyngherdd hwyliog ar lechwedd y bryniau, a theimlai pawb wrth dynu tua'r ddinas fod prydnawnddydd melus a llesol wedi ei dreulio. T. J. D. CYMANFA GANU M.C.—Nos Iau, Ebrill 18, cynhaliwyd Cymanfa Ganu y M.C. yn Jewin Newydd tan lywyddiaeth y Parch. P. H. Griffiths, Charing Cross. Daeth cynulliad rhagorol ynghyd a chaed canu teilwng o Gymry ieuainc y ddinas. Arweinwyd gan Mr. J. T. Rees, Mus. Bac. CLAPHAM JUNCTION.—Nos Fercher nesaf ceir y cyngherdd blynyddol ynglyn a'r lie hwn tan lywyddiaeth Mr. J. F. Edwards. Mae Mrs. Eleanor Jones a Miss Dilys Jones i ganu yno, heb son am atyniadau ereill, a sicr y gwna Cymry y rhanbarth eu goreu i fyned i wrando'r wledd a gynygir. EGLWYS ST. BENET.—Caed tywydd hynod o anffafriol i gynnal cyfarfodydd blynyddol yr Eglwys hon y Sul diweddaf; ond er y gwlaw a'r oerfel, daeth cynulliadau mawr ynghyd, a throdd yr holl wasanaethau allan yn hollol foddhaol. Da gennym ddeall fod yr Eglwys hon yn myned ym mlaen yn bur lewyrchus yn awr tan arweiniad doeth y Parch. J. Crowle Ellis, ficer parchus y lie. EISTEDDFOD MILE END.—Mae'n anffodus- fod cynnifer o gyfarfodydd i'w cynnal ar nos- Iau nesaf, ond yn y dwreinbarth un o'r cyfarfodydd y disgwylir torfeydd iddo yw'r Eisteddfod a gynhelir ynglyn a'r capel uchod. Mae "Mabon" i ddod yno i lywyddu, a gwyddis y bydd ef a'i ganlynwyr yn sicr a lanw'r adeilad, os nad o ran corff, o ran llais- a gwaeddi. Ewch yno yn lluoedd er mwyn, holi Pwy yw e, Mabon."

Marwolaeth Mr. Daniel Jones.,.…

[No title]

TAITH I JAMAICA.