Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

FORTY SHILLINGS FOR THE FRANCHISE.

[No title]

EISTEDDFOD MILE END.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

EISTEDDFOD MILE END. Mae "mynd" ar Eisteddfodau Ileol ym mysg Cymry'r ddinas y dyddiau hyn. Ym mhob cyfarfod lie ceir unrhyw fath o gys- tadleuaethau daw'r torfeydd yno yn llu. Dyna fu profiad pobl capel Mile End nos lau yr wythnos ddiweddaf. Yn wir gellir dweyd fod y lie yn rhy lawn, ac i hynny rwystro cryn lawer ar ddygiad y gwaith ym mlaen. Cyn deg o'r gloch roedd yr adeilad yn fath o ail-engraifft o Black hole of Calcutta, ac amryw o'r tuallan yn methu a myned i fewn, ac mewn awyrgylch or fath y buwyd wrthi yn canu ac yn adrodd hyd hanner nos. Gyda'r fath restr faith o gystadleuwyr hefyd dylasid fod wedi cael rhagbrofion, ac nid oedd un rheswm dros i'r beirniadaethau cerddorol fod mor anio- ddefol 0 faith. Da gennym ddeall i'r oil droi allan yn llwyddiant perffaith o'r wedd arianol, a rhaid i'r brodyr y tro nesaf chwilio am le mwy eang i gynnal y fath wyl. Arweinid gan Mr. T. Huws Davies, B.Sc. Berniadwyd y gerddoriaeth gan Mr. Maen- gwyn Davies, a'r amrywiaeth gan Miss Jano Davies, B.A. Wele restr o enwau y rhai enillasant y gwahanol wobrwyon :— Parti, G-weddi'r Arglwydd," Parti King's Cross, dan arweiniad Mr. Stanley Davies. Parti Meibion, Cydgan y Morwyr," Jewin and King's Cross United. Quartette, Ti wyddost beth ddywed fy nghalon," Parti o Wilton Square. Unawd soprano, "Yr Arglwydd yw fy Mugail," Miss Gwladys Lloyd, Clapham Junction. Unawd tenor, 0 na byddai'n haf o hyd," rhanwyd rhwng Mr. John Humphreys, Fulham, a Mr. Pugh, King's Cross. Unawd baritone, "Glyndwr," Mr. Tudor Evans, Jewin. Adroddiad, Gwraig y meddwyn," Esmond Evans, Falmouth Road. Adroddiad Saesneg, "Man the life boat," Mrs. Wilson, St. Padarn Welsh Church, ac Ethel Satchel, Central Foundation School. Dadl ddifyfr, rhanwyd rhwng Mr. Joe Davies a John Hughes, Falmouth Road. Tea Cosy, Miss Bessie Jones, Stratford. Par o Hosanau, Mrs. Evans, Mile End Road. Mae clod mawr yn ddyledus i Mr. D. J- Jones, yr ysgrifennydd a'i gynorthwywyr ffyddlop am y gwaith mawr a wnaed er sicrhau llwyddiant y cyfarfod.